Canlyniadau 2101–2120 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Teithiau Cerbydau o amgylch Casnewydd
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Rydym wedi cynnal arolygon ar ymyl y ffordd ac arolygon cerdyn post ar groesfannau’r Hafren, ac rydym hefyd wedi gwneud defnydd arloesol o dechnoleg ffôn symudol i ddeall teithiau a wneir yng Nghasnewydd a’r cyffiniau.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynediad Pobl Ifanc at Drafnidiaeth
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Rwy’n dal yn awyddus iawn i gael cynllun etifeddol wedi i’r mytravelpass cyfredol ddod i ben ar 31 Mawrth. Mae fy swyddogion wedi cael trafodaethau calonogol gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol a chydffederasiwn y gweithredwyr bysiau. Rwy’n obeithiol y byddaf yn gallu cadarnhau manylion y rhaglen olynol yn fuan iawn.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Seilwaith Critigol (Gogledd Cymru)
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Roeddwn yn falch o gyfarfod â’r Aelod ddydd Llun yng Nghyffordd Llandudno i drafod cynnig y morlyn llanw ac yn ystod y drafodaeth, soniwyd am y posibilrwydd y gallai morlyn amddiffyn cymunedau arfordirol mewn gwirionedd. Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn fy mod yn parhau i weithio gyda chyd-Aelodau eraill yn y Cabinet i ddod o hyd i atebion sy’n sicrhau’r gwerth gorau am arian i’r...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Prosiectau Seilwaith Critigol (Gogledd Cymru)
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Fel y nodir yn y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, rydym yn gwneud buddsoddiadau sylweddol i foderneiddio seilwaith trafnidiaeth ar draws gogledd Cymru. Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Grid Cenedlaethol i archwilio sut y gellid defnyddio trydydd croesiad ar draws y Fenai i gludo pŵer o Wylfa Newydd i’r grid cenedlaethol.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Mae’n hanfodol fod y PRM 2020 yn cael ei fodloni gan weithredwyr y fasnachfraint newydd. Mae’r pedwar cynigydd yn ymwybodol o’r rhwymedigaethau sy’n rhaid iddynt eu bodloni erbyn 2020. Gan ein bod ynghanol proses drafod gystadleuol gyda’r cynigwyr ar hyn o bryd, ni allaf ddatgelu unrhyw fanylion am yr hyn y maent yn ei gynnig, ond gallaf sicrhau’r Aelod ein bod yn canolbwyntio ar...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Ni allwn gytuno mwy. Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol ein bod yn cydnabod y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn ddarpariaeth sy’n grymuso, ac y dylai pob unigolyn yn y gymdeithas ddisgwyl cael mynediad at ffurfiau ar drafnidiaeth gyhoeddus sydd o ansawdd da. Efallai y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod fy mod wedi sefydlu grŵp hygyrchedd i roi cyngor i mi ar y fasnachfraint...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Fel yr wyf newydd ei ddweud wrth Neil McEvoy, rwy’n meddwl bod cludiant cymunedol yn chwarae rhan hanfodol o fewn y cymysgedd, ac rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio cludiant cymunedol yn y cyfnod diweddar. Rwyf o’r farn fod trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rôl arbennig o bwysig i bobl sy’n methu defnyddio bysiau neu drenau confensiynol neu sydd ag anghenion...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynediad at Drafnidiaeth Gyhoeddus ar gyfer Pobl Anabl
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Rydym yn gwbl ymroddedig i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl sy’n cael gwared ar rwystrau i deithio, sy’n grymuso pobl ac sy’n hybu byw’n annibynnol, yn hytrach na’i lesteirio. Rwyf hefyd yn arbennig o awyddus i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn grymuso grwpiau agored i niwed i gymryd rhan ym mywyd y gymdeithas, a dyna yw un o gonglfeini ‘Symud Cymru Ymlaen’.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Nid wyf yn credu y dylai’r Aelod anrhydeddus fod mor feirniadol o’i gyd-Aelodau yn y Siambr. Ond y pwynt pwysig i’w wneud am Gaerdydd yw ein bod yn cyflwyno un o’r rhaglenni mwyaf uchelgeisiol yn unman yng ngorllewin Ewrop ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, ar ffurf y metro. Rwy’n credu bod hynny’n rhywbeth y dylid ei gymeradwyo ac mae’n rhywbeth a fydd yn cyfrannu’n aruthrol at...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Buaswn yn hapus i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu nodi adnoddau ychwanegol i ddatrys problemau pwyntiau cyfyng ar draws y rhwydwaith cefnffyrdd yng Nghymru. Ond rwyf hefyd yn awyddus i sicrhau, lle y gallwn nodi atebion i dagfeydd mewn trefi, ein bod yn eu rhoi ar waith yn gyflym. Felly, buaswn yn barod iawn i edrych ar y cynnig penodol ar...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Rwy’n croesawu’r fenter gan gyngor dinas Caerdydd yn fawr. Mae gennym gryn bellter i fynd cyn i ni ddal i fyny gyda rhai o’r gwledydd Sgandinafaidd, ond rydym ar y llwybr cywir. Yr allwedd i lwyddiant yw newid ymddygiad a diwylliannau pobl. Am y rheswm hwnnw, rwy’n arbennig o falch ein bod yn buddsoddi yn y fenter Teithiau Llesol, sy’n gweithredu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Mae ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol yn nodi’r ymyriadau yr ydym yn eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â thagfeydd a darparu dewisiadau cynaliadwy yn lle defnyddio ceir.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Rôl Twristiaeth Ffydd
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Ie, rydym eisoes yn gwneud hynny gyda’r adran twristiaeth ffydd ar wefan Croeso Cymru. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nad ydym yn gweld gormodedd o wefannau a thudalennau gwe ar yr un pynciau yn y bôn, ac yn lle hynny, ein bod yn gallu cyfeirio ymwelwyr sy’n awyddus i ddysgu mwy am dwristiaeth ffydd at byrth allweddol. At y diben hwnnw, rwy’n mynd i annog yr Aelod yn ei dro i annog ei...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Rôl Twristiaeth Ffydd
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Gwnaf. Mae Croeso Cymru yn parhau i hyrwyddo safleoedd ffydd a threftadaeth grefyddol fel rhan o’r cynnig treftadaeth yn gyffredinol. Bydd ein Blwyddyn y Chwedlau yn canolbwyntio’n fawr iawn ar bob agwedd ar dreftadaeth Cymru.

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Rôl Twristiaeth Ffydd
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Fe allwn os edrychwn yn benodol ar y safleoedd y byddwn yn mesur niferoedd ymwelwyr arnynt. Felly, er enghraifft, gyda safleoedd Cadw sy’n gysylltiedig â’r cwestiwn y mae’r Aelod yn ei ofyn, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer yr ymwelwyr. Ac o ran y gwariant cysylltiedig, unwaith eto rydym wedi gweld cynnydd. Rydym wedi gweld, er enghraifft, gydag eiddo Cadw yn Nhyndyrn a Glyn...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Fe ystyriaf unrhyw brosiect yn rhan o fuddsoddiad ehangach gan Network Rail sy’n darparu gwell gwerth am arian a gwell profiad i deithwyr. Rwy’n credu efallai fod yr Aelod yn ymwybodol o’r ystadegyn hwn—mae’n eithaf syfrdanol—fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy yn y cyfnod rheoli cyfredol yn y seilwaith rheilffyrdd na’r rhai sy’n gyfrifol am y seilwaith rheilffyrdd mewn...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Wel, awdurdod lleol bach yw Torfaen; rwy’n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ac felly er y gallai £11 miliwn ymddangos yn swm bach fel rhan o’r darlun mawr, pan fyddwn yn sôn am fwy na £700 miliwn, mewn gwirionedd, i awdurdod lleol bach, i gyngor cymharol fach, mae £11 miliwn yn fuddsoddiad sylweddol ac rwy’n teimlo ei fod yn dangos ymrwymiad i weledigaeth y credaf ein bod yn ei...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Wel, byddwn yn buddsoddi dros £700 miliwn yn y metro, a bydd hyn yn arwain at welliannau enfawr i seilwaith ac i brofiad teithio llawer iawn o gymudwyr ar draws de-ddwyrain Cymru. Roeddwn yn ddiolchgar iawn fod yr Aelod wedi gallu mynychu’r cyfarfod briffio yr wythnos diwethaf ar fasnachfraint nesaf y rheilffyrdd, a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys gwybodaeth am y metro fel y caiff ei gyflwyno...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Rwy’n credu ei bod yn hollol hanfodol, o ran Pwerdy Gogledd Lloegr, fod y cytundeb twf yng ngogledd Cymru yn plethu’n berffaith gyda’r dyheadau a’r weledigaeth sydd gan awdurdodau lleol a’r partneriaethau menter lleol ar draws y ffin. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi dweud yn eithaf clir y buaswn yn y pen draw yn rhagweld strwythur pwyllgorau ar y cyd sy’n croesi’r ffin o bosibl....

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Ken Skates: Bydd y strategaeth ffyniannus a diogel, sy’n ffurfio rhan o bedair strategaeth drawsbynciol ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn cael ei chyflwyno i’r Prif Weinidog, ynghyd â’r tair strategaeth arall, y gwanwyn hwn. Byddant yn cael eu cyhoeddi gyda’i gilydd, a thrwy bob un o’r pedair, rwy’n credu y bydd yr Aelodau’n gallu gweld bod modd gweu themâu ac ymyriadau ar draws y sector...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.