Rhun ap Iorwerth: Efallai y dylai’r Gweinidog geisio darganfod pam y mae nifer yr addasiadau hynny wedi bod yn gostwng a pham nad yw’r offer wedi bod yn mynd allan i’r un graddau ag yn y gorffennol gan fod hyn i gyd yn cael effaith ganlyniadol ymhellach yn nes ymlaen yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Gadewch i mi dynnu eich sylw at wasanaeth arall nad yw’n cael ei werthfawrogi o...
Rhun ap Iorwerth: Rydym yn gwybod wrth gwrs gymaint o gyfran o’n cyllid ni sy’n mynd i’r NHS, ond nid yw’r un sylw, yr un bri, yn cael ei roi i gyllidebau gofal cymdeithasol. Yn Lloegr, wrth gwrs, rydym yn gwybod bod y Ceidwadwyr wedi torri ar yr arian sydd ar gael i ofal cymdeithasol ac mae effeithiau hynny, rwy’n meddwl y byddai’r rhan fwyaf yn cytuno, wedi bod yn amlwg o ran cynyddu pwysau ar...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Mae fy nghwestiynau innau hefyd yn mynd i’r Gweinidog. Mae pwysau ar adrannau brys ysbytai yn effeithio ar y ddwy ochr i glawdd Offa ac wedi bod yn y penawdau eto, ac mae yna lawer o resymau dros y problemau hynny. Ond rwyf am ganolbwyntio ar rôl gofal cymdeithasol. A ydy’r Gweinidog yn cytuno bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rôl bwysig wrth atal pobl...
Rhun ap Iorwerth: Ddydd Mercher diwethaf, mi wnaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddatganiad clir iawn mae’n dymuniad democrataidd ni yma ydy y dylai’r Grid Cenedlaethol chwilio am ddulliau amgen o wneud cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru, yn hytrach na gosod peilonau newydd ar gyfer unrhyw ddatblygiadau newydd yma. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i ni yn Ynys Môn, wrth gwrs, lle rydym ni yn wynebu...
Rhun ap Iorwerth: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno mai’r hyn y mae’r ffigurau diweddaraf ar amseroedd aros damweiniau ac achosion brys a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf—yn enwedig y rhai sy'n aros mwy na 12 awr—yr hyn y maen nhw’n ei ddangos yw ein bod yn wynebu problem capasiti trwy gydol y flwyddyn, gyda chyfartaledd o tua 3,000 o gleifion yn aros yn hwy na 12 awr fis ar ôl mis, ar ôl mis, ar ôl...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau'r Grid Cenedlaethol yn Ynys Môn? OAQ(5)0399(FM) [W]
Rhun ap Iorwerth: A Chymru?
Rhun ap Iorwerth: Un o’r pwyntiau a nododd Simon Thomas oedd eu bod wedi rhoi sylw i’r effaith gronnol yn Nenmarc drwy ddweud, ‘Iawn. Gadewch i ni roi llawer o’r ceblau hyn o dan y ddaear oherwydd yr angen i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy’.
Rhun ap Iorwerth: Rydych chi’n sicr yn gywir, rwy’n cytuno, ac mae Ofgem yn allweddol. Dof at rai o’r trafodaethau a gefais gydag Ofgem mewn munud. Mae’n hanfodol ein bod yn symud, fel y gobeithiwn ei wneud yn y Cynulliad heddiw, at sefyllfa lle y ceir rhagdybiaeth o blaid gosod ceblau o dan y ddaear, drwy fod Ofgem yn caniatáu hynny. Fe af ymlaen. The additional cost of undergrounding, of course, is...
Rhun ap Iorwerth: [Yn parhau.]—mi ddylai’r gost— I will in a second. [Yn parhau.]—gael ei rhannu dros holl ddefnyddwyr ynni. Rydw i wedi gweld amcangyfrif y buasai’r gost o danddaearu yn llai na cheiniog yr wythnos yn ychwanegol i bob defnyddiwr ym Mhrydain dros oes y cysylltiad. Dyna’r gwir. I’ll give way.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfraniadau hyd yma. Mae Ynys Môn a’i chynrychiolwyr yn unfrydol yn erbyn y cynlluniau gan y grid i godi rhes o beilonau ar draws yr ynys. Mi ydw i, y cyngor sir, yr Aelod Seneddol, y cynghorau cymuned a miloedd o drigolion yr ynys wedi bod yn gyson iawn yn ein gwrthwynebiad i gynlluniau’r grid, ac nid oes yna prin ddim ymateb cadarnhaol wedi dod gan y grid i’r corws yna o...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n deall y cwestiwn a ofynasoch, ond rydych yn annheg wrth awgrymu ein bod yn diystyru’r gwaith sydd wedi ei wneud ar y fframwaith cyllidol. Y cwestiwn a ofynnwyd heddiw gan Leanne Wood, ymysg eraill, yw: pam ar y ddaear bod gwaith clodwiw ar y fframwaith cyllidol ynghlwm wrth yr hyn sydd fel arall yn gyfres o bwerau sydd yn tynnu'n ôl o ran y pwerau sydd gennym? A byddaf hefyd yn...
Rhun ap Iorwerth: Gwnaf.
Rhun ap Iorwerth: Ni fyddai dim yn rhoi mwy o bleser i fi na gallu pleidleisio heddiw dros weithredu Mesur Cymru a fyddai’n grymuso pobl Cymru o ddifrif, a fyddai’n galluogi’r Cynulliad yma i aeddfedu ymhellach fel Senedd ein gwlad, ac a fyddai’n rhoi i Lywodraeth Cymru yr arfau angenrheidiol i sefydlogi a chryfhau ein heconomi, i greu Cymru fwy iach, ac i gryfhau ein cyfundrefn addysg yn y modd yr...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf i’n sicr yn croesawu'r datblygiad hwn. Rwy'n falch ein bod ni, drwy drafodaethau yn dilyn yr etholiad a arweiniodd at y compact ac mewn trafodaethau diweddarach ynghylch y gyllideb, wedi gallu gweithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau’r pecyn hwn a fydd, gobeithio, yn gwneud gwahaniaeth i gleifion yng Nghymru. Nodaf ei bod yn bwysig aros am ganlyniad yr adolygiad IPFR, oherwydd bydd...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n falch bod strategaeth gennym ni rŵan y gallwn ni roi sylw iddi hi drwy’r ymgynghoriad a’i chryfhau hi ac adeiladu ar yr hyn sydd gennym ni drwy brofiadau y bobl hynny sydd wirioneddol yn gwybod beth sydd angen ei wneud, sef teuluoedd y rheini sydd â dementia. Ac rwy’n gwybod bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn y Siambr wedi clywed digonedd o straeon torcalonnus am bobl sy’n...
Rhun ap Iorwerth: Ysgrifennydd y Cabinet, does neb yn dymuno siarad am argyfwng yn y GIG. Mae'n destun pryder i gleifion ac mae'n digalonni ein staff rhagorol. Ond byddwch yn ymwybodol fod y Groes Goch wedi disgrifio’r sefyllfa yn Unedau Damwain & Achosion Brys Lloegr fel argyfwng dyngarol. Byddwch hefyd yn ymwybodol fod arweinydd eich plaid chi, Jeremy Corbyn, wedi disgrifio hynny fel gwarth cenedlaethol,...
Rhun ap Iorwerth: Efo adrannau brys ein hysbytai ni mewn argyfwng—geiriau Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ydy’r rheini, nid fy ngeiriau i—a ydy’r Prif Weinidog yn cytuno bod yr erydiad sydd wedi bod yng nghyfran arian yr NHS sy’n mynd at ofal sylfaenol, a’r straen y mae hynny’n ei roi ar ein meddygfeydd teulu ni yn achosi problemau wedyn i adrannau brys yn ein hysbytai ni? Ac a ydy’r Prif...
Rhun ap Iorwerth: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch y sylwadau a wnaeth y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys fod gofal brys yng Nghymru mewn argyfwng? EAQ(5)0097(HWS)
Rhun ap Iorwerth: Nid oes dim amheuaeth bod cael eu troi allan o’u cartref a gorfod byw mewn llety dros dro, fel mae 792 o deuluoedd yn ei wneud ar hyn o bryd, yn brofiad trawmatig i blentyn. Mae effaith digartrefedd ar blant yn dechrau ar eu genedigaeth. Mae plant sy’n cael eu geni i famau sydd wedi bod mewn llety gwely a brecwast ar gyfer peth amser yn fwy tebygol o fod o bwysau geni isel. Maen nhw hefyd...