Jeremy Miles: Wel, ces i gyfle, yn sgil y cwestiwn, i ail-atgoffa fy hunan o effaith Deddfau a chyfraith Canol Oesoedd Cymru—bydd yr Aelod yn bles i glywed hynny—yn cynnwys penderfyniadau cyngor Aberdyfi, statudau Rhuddlan, ac fel y gwnaeth Dai Lloyd sôn wrtha i ddoe, jest i atgoffa fy hunan o gyfraith Hywel. Nid ydw i wedi llwyddo i wneud hynny yn yr amser byr a oedd gyda fi ers hynny, yn anffodus....
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mewn unrhyw asesiad o drefniadau neu ddatblygiadau cyfansoddiadol sy'n bodoli ar hyn o bryd neu sy'n cael eu cynnig, mae Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n bennaf ar y gyfraith sydd mewn grym ar yr adeg dan sylw. Er bod pwysigrwydd hanesyddol sylweddol i'r Deddfau Uno, maen nhw bellach wedi cael eu diddymu.
Jeremy Miles: Wel, mae'r ymosodiad hwn ar farnwyr a'r ymosodiad ar eu didueddrwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yn anetholedig yn camddeall cyfansoddiad Prydain yn gyfan gwbl, mewn gwirionedd. Maent yno i weithredu'n ddiduedd ac maent yn gwneud hynny, ac yn y lle hwn dylem wrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio'r canfyddiad hwnnw drwy honiadau o fethu â bod yn ddiduedd oherwydd eu bod yn anetholedig. Fe...
Jeremy Miles: Fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae setliad datganoli Cymru yn golygu bod y Senedd a Llywodraeth Cymru yn gweithredu'n wastad o fewn cyd-destun Deddf Hawliau Dynol y Deyrnas Unedig, a dyna mae Llywodraeth Cymru yn moyn gweld yn parhau: bod y fframwaith hynny sydd yn darparu'r hawliau yn fewnol i bobl yng Nghymru yn parhau tu hwnt i'r cyfnod y byddwn ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, nid yn...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Fel yr eglura ei gwestiwn, mae'r siarter hawliau sylfaenol yn ymestyn y tu hwnt i'r confensiwn ar hawliau dynol ac yn cynnwys hawliau eraill; soniodd am hawliau cydraddoldeb—ceir eraill sy'n ymwneud â data personol ac ati. Fe'i gwnaed yn glir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', a gynhyrchwyd flwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, fod angen inni fod...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir na ddylai'r ffaith bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd arwain mewn unrhyw ffordd at lastwreiddio amddiffyniadau hawliau dynol, neu yn wir, unrhyw amddiffyniadau cymdeithasol, amgylcheddol neu gyflogaeth. Rwy'n llwyr gefnogi'r safbwynt hwnnw ac yn dadlau drosto.
Jeremy Miles: Fe wnaethoch chi ofyn am eglurhad o'r gwahaniaethau gyda chod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Ceir nifer o wahaniaethau allweddol: maen nhw'n ymwneud yn bennaf â natur gwahanol y troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau erlyn drostynt. Un o'r prif wahaniaethau yw hyn: yn wahanol i god Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid yw cod erlyn Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriad at...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ar y materion olaf y gwnaeth eu codi yn ei gwestiwn, fel y bydd e'n gwybod mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu comisiwn Thomas a fydd yn edrych i mewn i lot o'r cwestiynau a oedd ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod ynglŷn â'r siwrnai ddatganoli ynglŷn â meysydd cyfiawnder yn gyffredinol, a'r sefydliadau sydd ynghlwm yn hynny, yn cynnwys yr heddlu ac ati. Rwy'n...
Jeremy Miles: Diolch. O ran cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, maen nhw wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd, felly gwnaf yn siŵr eu bod yn cael eu hanfon eto mewn e-bost heddiw, a gwnaf yn siŵr bod yr Aelod yn cael copi. Mae e'n iawn i ddweud bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â'r cwmpas, fel petai. Roedd rhanddeiliaid yn awyddus i gael rhagor o eglurder ynghylch y sawl y mae'r cod yn...
Jeremy Miles: Amcan Llywodraeth Cymru drwy'r cyfan fu datblygu cod erlyn Llywodraeth Cymru sydd yn glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben. Mae mewnbwn gan yr holl randdeiliaid wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu cod a fyddai'n rhoi sail glir i erlyniadau gan Lywodraeth Cymru i'r dyfodol wrth inni barhau i weithredu'r cyfreithiau yr ydym yn gyfrifol amdanynt.
Jeremy Miles: Mae’r cod yn amlinellu nifer o ffactorau penodol i'r erlynydd eu hystyried wrth benderfynu ar y budd i'r cyhoedd, sy’n amrywio gan ddibynnu ar gyd-destun yr erlyniad. Er enghraifft, yng nghyd-destun erlyniad amgylcheddol, bydd angen i erlynydd ystyried effaith y drosedd ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad, ac yng nghyd-destun...
Jeremy Miles: Mae'r camau gorfodi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd wedi arwain at erlyniadau. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, cafwyd erlyniad yn enw'r Cwnsler Cyffredinol am drosedd â rheoliadau CE o ran marchnata wyau a thwyll. Rwy'n falch o ddweud bod yr erlyniad hwn wedi arwain at euogfarn, dirwy a gorchymyn enillion troseddau. Mae'r achos hwn, ac eraill tebyg,...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyfrifoldebau erlyn mewn cysylltiad â'i swyddogaethau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymwneud yn bennaf â lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd, a physgodfeydd. Pan fo cyfreithiau’n creu rhwymedigaethau rheoleiddiol a throseddau cysylltiedig, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi’n briodol er budd llywodraethu da, ac ni fydd yn syndod i...
Jeremy Miles: Rwy'n cytuno bod mynediad at gyfiawnder yn hawl sylfaenol ac rwy'n poeni mai safbwynt Llywodraeth y DU yw symud at fodel lle y telir am gyfiawnder gan ddefnyddwyr system y llysoedd. Fy marn i, a barn Llywodraeth Cymru, yw bod cyfiawnder yn nwydd cyhoeddus hanfodol, ac mae'n ddyletswydd ar y wladwriaeth i'w ddarparu, yn hytrach na disgwyl i unigolion dalu am yr eitem ddisgresiynol....
Jeremy Miles: Mae yna fframwaith cynllunio rhagofalus eisoes, sy'n bodoli mewn perthynas ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol. Nid yw cyfarwyddeb cynllunio gwlad a thref 2015 yn cynnwys tyllau turio archwiliol, fel y dywedodd, sydd weithiau'n rhan o waith peirianyddol cyffredinol.
Jeremy Miles: Mae effaith gynyddol toriadau Llywodraeth y DU i gymorth cyfreithiol, cynnydd mewn ffioedd llys a chau adeiladau llys lleol yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn manteisio ar bob cyfle i ddwyn ein barn ar y materion hyn i sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran pobl Cymru.
Jeremy Miles: Mae effaith gynyddol y toriadau i gymorth cyfreithiol gan Lywodraeth y DU, cynnydd mewn ffioedd llys a chau adeiladau llys lleol yn peri pryder mawr i Lywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn manteisio ar bob cyfle i ddwyn ein barn ar y materion hyn i sylw'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar ran pobl Cymru.
Jeremy Miles: Rwy'n cydnabod ymrwymiad yr Aelod i'r cwestiwn cyffredinol hwn. Fe wnes i ddilyn gyda diddordeb y ddadl a gynhaliodd e ddiwedd mis Hydref, lle cefnogwyd y cynnig gan yr Ysgrifennydd Cabinet ar y pryd. Rwy'n ymwybodol o fodolaeth y farn gyfreithiol honno. Mae hi gyda swyddogion ac maen nhw'n ystyried ei chynnwys. Ni fyddai'n addas i fi dresbasu ar yr elfen bolisi sydd o fewn remit...
Jeremy Miles: Nid wyf yn gallu datgelu cyngor cyfreithiol, ond, o dan y setliad newydd, bydd cynllunio wedi ei ddatganoli o hyd. Mae olew a nwy yn fater sydd wedi ei gadw'n ôl, ond mae rhoi a rheoleiddio trwyddedau petroliwm, a mynediad i dir yng Nghymru at ddibenion trwyddedu o'r fath, yn eithriad i hynny.
Jeremy Miles: Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedaf, nid oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle, a bydd yn rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod maes o law pe bai hwnnw'n bwrw ymlaen. Ond y tu hwnt i hynny, ni allaf ymhelaethu ar fy ateb i'w gwestiwn.