Ken Skates: Wel, o ran rhyddhad ardrethi busnes, mae hyn yn amlwg yn rhywbeth sydd yn nwylo fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond yr hyn rwy’n falch yn ei gylch yw bod y cynllun yn mynd i gael ei ymestyn ar gyfer 2017-18, a bydd cynllun parhaol newydd yn bodoli o 2018 ymlaen. Rydym eisoes yn darparu oddeutu £98 mewn rhyddhad ardrethi i fusnesau yn 2016-17. Rwy’n...
Ken Skates: Rwy’n credu y dylai’r Aelod ystyried yr hyn a ddywedodd ei gyd-Aelod ddoe ynglŷn â sicrhau bod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ddilyn a’i gyflawni’n drylwyr—mae’n gwbl hanfodol. Felly, boed yn Yr Egin neu unrhyw brosiect arall, rydym yn cyflawni diwydrwydd dyladwy yn hytrach na rhuthro ar frys i mewn i fuddsoddiad nad yw efallai’n cynnig y gwerth gorau am arian i’r trethdalwr....
Ken Skates: Roeddwn yn falch o allu siarad yn helaeth â Greg Clark ddydd Llun cyn cyhoeddi’r strategaeth. Roeddwn yn cytuno gyda’r Ysgrifennydd Gwladol y byddai cydgadeiryddiaeth y fforwm yn rhywbeth y buaswn yn ei ddymuno. Siaradais gydag ef hefyd am gytundeb penodol ar gyfer y sector dur—mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei drafod yn ystod yr wythnosau nesaf. Roeddwn yn synnu cyn lleied o gyfeirio...
Ken Skates: Rwy’n credu bod yr Aelod yn iawn i ddweud y dylai gweithwyr fod yn bryderus ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur, ond nid yw gwleidyddoli’r hyn sy’n fater eithriadol o sensitif yn gwneud unrhyw ffafr â neb. Nid yn aml y byddaf yn cytuno ag arweinydd yr wrthblaid, ond rwy’n meddwl ei fod yn iawn i drydar nad oedd unrhyw le i ymhonni gwleidyddol yn yr hyn sy’n ddadl hynod o bwysig am...
Ken Skates: Fel yr Aelod, rwy’n pryderu bod prosiect cylchffordd Cymru wedi cael ei drafod yn gyhoeddus ers blynyddoedd lawer heb fod y tîm eto wedi gallu codi’r cyllid preifat sy’n angenrheidiol ar gyfer gwireddu’r prosiect. Mae’r cynigion wedi newid, wrth gwrs, dros y blynyddoedd, ers 2011. Fis Gorffennaf diwethaf, dywedais yn glir beth yw ein safbwynt fel Llywodraeth Cymru. Nodais yn glir...
Ken Skates: Mae hwn yn un o’r pwyntiau a gafodd eu dwyn i fy sylw gan Chris Sutton ar sawl achlysur yn ystod, unwaith eto, y rhaglen ymgysylltu a gefais gyda busnesau. Mae’n gwbl allweddol ein bod yn cydnabod bod llawer o’r safleoedd a adeiladwyd i ddenu buddsoddwyr yn awr yn cyrraedd pwynt lle y mae angen buddsoddi’n helaeth ynddynt neu adeiladu rhai newydd. Felly, mae’n mynd i fod yn agwedd...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Angela Burns am ei chwestiwn. Ers i mi gael fy mhenodi i’r swydd hon, rwyf wedi ymgymryd â nifer o gyfleoedd ymgysylltu â’r gymuned fusnes, ac mae’r pwyntiau a nododd yr Aelod heddiw wedi cael eu mynegi wrthyf ar sawl achlysur. Am y rheswm hwnnw, bûm yn ymwneud yn uniongyrchol ac yn adeiladol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn y gwaith o...
Ken Skates: Rwy’n cyfarfod yn rheolaidd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, a’r Cabinet yn ehangach, i drafod ystod o faterion economi a seilwaith yn fy mhortffolio, gan gynnwys, wrth gwrs, twf busnes.
Ken Skates: Mae pwynt yr Aelod yn un pwysig iawn, ac rwyf wedi siarad yn y gorffennol am yr angen i gael ffrwd gyson o fuddsoddiadau seilwaith mawr, ond un sydd hefyd yn cynnwys buddsoddiadau llai yn rhan o’r gymysgedd fel bod modd cynnal pobl a chyflogaeth wrth aros neu bontio o un prosiect mawr i’r llall. Ac am y rheswm hwnnw, rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol, gyda darparwyr sgiliau, a chyda...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn, a diolch iddo hefyd am ddarn craff iawn ar ei wefan, yn ymwneud â’r economi las. Rwy’n credu ei bod yn amserol iawn ein bod yn sôn am y pwnc hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio ar gyfer 2018, a ddynodwyd yn Flwyddyn y Môr. Ac i’r diben o chwyddo niferoedd ymwelwyr, wrth gwrs, bydd yr economi las yn gynyddol bwysig. O ran cyfleoedd sydd...
Ken Skates: Wel, rydym wedi ymrwymo’n llwyr i’r prosiect, a byddaf yn cyfarfod â Charles Hendry yn ddiweddarach y prynhawn yma i siarad am y prosiect braenaru yn arbennig, a fuasai’n arwain yn y pen draw at greu morlyn llanw yng ngogledd Cymru. Mae’n brosiect a allai greu 27,000 o swyddi ar gyfer economi gogledd Cymru. Buasai hefyd, fel y nododd yr Aelod, yn cyfrannu at amddiffyn cymunedau...
Ken Skates: Gwnaf. Mae potensial gan forlyn llanw yng ngogledd Cymru i greu cryn dipyn o swyddi yng ngogledd Cymru. Ac rydym wedi datgan ein hymrwymiad cyson, mewn egwyddor, i gefnogi’r gwaith o ddatblygu diwydiant môr-lynnoedd llanw cynaliadwy ledled Cymru.
Ken Skates: The national transport FINANCE Plan, published in July 2015, sets out investment for transport and infrastructure and services for 2015-20 across all parts of Wales.
Ken Skates: As set out in the national transport finance plan, we are making significant investments to modernise road and public transport infrastructure across North Wales and continue to press the UK Government for delivery of the schemes identified in the Network Rail’s Welsh route study in control period 6.
Ken Skates: Our tourism strategy sets out our priorities to support the tourism industry. South Wales West offers a wide range of heritage, landscapes, activities and tourism destinations. These are promoted and marketed through our Visit Wales website, with capital and revenue support available for business development and regional support.
Ken Skates: Rydym yn cydnabod bod ffyniant yn gwneud i unigolion, teuluoedd a chymunedau deimlo’n fwy diogel ac mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn amlinellu ein hymrwymiadau i gyflawni ffyniant ar gyfer pawb.
Ken Skates: We are working with partners on a range of infrastructure improvements, including better quality transport and digital connectivity.
Ken Skates: Business support is available for entrepreneurs, micro, small and medium-sized businesses across Wales through our Business Wales service. Our focus remains on supporting innovation-driven entrepreneurs, jobs and the economy.
Ken Skates: Ac mae swyddi, bywoliaeth a thynged y cymunedau angen ein cefnogaeth.
Ken Skates: Ie.