Rhun ap Iorwerth: Rydw i am dynnu eich sylw at y fenter Ffrindiau yn Erbyn Sgamiau. Menter gan Safonau Masnach Cenedlaethol ydy hi ac mae ei hangen hi, achos mae ffigurau’n dangos bod yna gynnydd o 60 y cant wedi bod yn y math yma o dwyll dros y bum mlynedd ddiwethaf. Yn ddiweddar, mi gafodd etholwyr imi alwad ffôn gan rywun oedd yn honni dod o gwmni band eang adnabyddus yn gofyn am fanylion eu cyfrifiadur....
Rhun ap Iorwerth: Yn aml iawn, mae pobl yn cysylltu cryd cymalau efo pobl hŷn, ond wrth gwrs mae o’n rhywbeth sy’n gallu taro pobl o bob oed. Cymru ydy’r unig wlad yn y Deyrnas Unedig sydd heb wasanaeth pediatrig ar gyfer rhiwmatoleg, er bod y cleifion o’r gogledd yn gallu cael triniaeth yn ysbyty Alder Hey yn Lerpwl. A ydy’r Prif Weinidog yn credu y dylai Cymru allu cynnig gwasanaeth rhiwmatoleg...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i bawb sydd yn cymryd rhan yn y drafodaeth bwysig yma’r prynhawn yma. Rwy’n falch iawn o fod yn un o gydgynigwyr y cynnig yma. Nid yw’n ormod i ddweud bod gordewdra yn un o heriau iechyd mwyaf ein hoes ni. Mae’r ystadegau dros y 15 mlynedd diwethaf wedi dangos cynnydd clir iawn yn nifer yr oedolion a phlant sydd dros bwysau neu sy’n ordew. Mae hynny ym mhob grŵp oedran, fel...
Rhun ap Iorwerth: A, gyda pharch, er fy mod i’n cydnabod y gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghymru ar daclo ysmygu, pan rwy’n sôn am y llwyddiannau sydd wedi digwydd dros ddegawdau, rwy’n sôn am lwyddiannau sydd wedi digwydd dros y byd wrth i’r broblem yma gael ei hadnabod. Mae’n berffaith glir i fi fod angen inni gymryd agwedd hirdymor, gan ddechrau rŵan, tuag at ordewdra hefyd. Rwy’n gobeithio...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, yn hytrach nag Ysgrifennydd Cabinet. O ystyried y gost o daclo a rhoi triniaeth i bobl oherwydd cyflyrau wedi eu hachosi gan ordewdra, o ystyried y gost i’r gwasanaeth iechyd, nid yw faint bynnag sy’n cael ei wario gan y Llywodraeth ddim yn ddigon, ac rwy’n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â hynny. Os ydy rhywun am roi’r gorau i ysmygu, mae yna...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Mi fydd dadl yn cael ei chynnal yn y Siambr yma y prynhawn yma ar ordewdra, a hynny yn tanlinellu y bygythiad y mae hyn yn ei olygu i iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Faint mae’r Llywodraeth yn ei wario a pha adnoddau mae’r Llywodraeth yn eu buddsoddi i geisio taclo ac atal gordewdra yng Nghymru?
Rhun ap Iorwerth: Bydd y Gweinidog yn ymwybodol, rwy’n siŵr, o gyhoeddiad NatWest ynglŷn â’u bwriad i gau tair cangen ar Ynys Môn fis Mehefin nesaf yng Nghaergybi, yn Amlwch ac ym Mhorthaethwy, gan adael ond un banc yn unig i fod ar agor am oriau cyfyngedig yn Amlwch, a heb fanc o gwbl yn nhref ffyniannus Porthaethwy. Mae hyn yn dilyn nifer o fanciau’n cau yn ddiweddar, gan adael rhannau helaeth...
Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith bancio stryd fawr ar fusnesau yn Ynys Môn? OAQ(5)0090(EI)[W]
Rhun ap Iorwerth: Gyda phob parch, mae'r broses o ryddhau, yn ôl pob golwg, y berthynas rhwng gofal cymdeithasol ac iechyd yn Lloegr wedi arwain at ganlyniadau trychinebus. Ni allwn anwybyddu'r ffaith os byddwch yn rhoi'r gorau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, mai’r gwasanaeth iechyd fydd yn dioddef ar ddiwedd y dydd. Dyna pam mae angen i ni weithio tuag at integreiddio. Nid trwy danseilio un rhan...
Rhun ap Iorwerth: Byddaf yn cyfeirio at elfennau penodol o'r gyllideb hon mewn cysylltiad ag iechyd. Mae'r cytundeb, wrth gwrs, yn cynrychioli dim ond rhan o'r gyllideb ehangach. Yn y gyllideb ehangach mae rhai penderfyniadau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol y byddem yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru yn eu hailystyried. Byddem hefyd yn hoffi gweld mwy o arian yn cael ei roi i iechyd, ond...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i chi am ildio. A fyddai'r Aelod yn cydnabod mai’r broblem â chronfa triniaethau canser yw ei bod hi’n anwybyddu'r ffaith bod llawer o bobl eraill yn dioddef o salwch sydd hefyd angen buddsoddiad ac arloesi ac ati, a bod hynny’n rhwystr i un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio’i gyflawni drwy’r trafodaethau hyn? [Torri ar draws.]
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi ildio?
Rhun ap Iorwerth: Nodaf y cysylltwyd â chleifion i roi tawelwch meddwl iddynt nad yw'r practis hwn mewn perygl o gau. Ond mae pobl yn anesmwyth iawn, ar hyd a lled Cymru, wrth i un feddygfa ar ôl y llall gau ei drysau neu ddirwyn ei chontract i ben. Fel yn Rhiwabon, yr hyn a welwn mewn llawer o fannau eraill yw methiant i allu recriwtio'r nifer digonol o feddygon teulu i gadw’r practis ar agor, a dyna...
Rhun ap Iorwerth: Mi fydd Plaid Cymru’n cefnogi’r cynnig yma a’r gwelliant. Mae’r argymhellion a gafodd eu gwneud gan y Pwyllgor Dethol Materion Cymreig yn rhai synhwyrol; rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraethau ar ddwy ochr y ffin yn eu hystyried nhw. Mae llif trawsffiniol o gleifion, wrth gwrs, yn beth cyffredin iawn, iawn ar draws Ewrop, ac yn sicr ar draws y byd. Rwy’n siŵr ei bod yn aml yn...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant yma, ac mae o’n canolbwyntio ar un elfen o’r adroddiad, mewn difrif. Mae adroddiad y prif swyddog meddygol yn ein hatgoffa ni eto fod y cymunedau tlotaf yn talu pris sylweddol o ran eu hiechyd, yn syml am fod yn dlawd ac am fod pobl yn byw ochr yn ochr â phobl dlawd eraill. Mae yna ormod o ganolbwyntio weithiau, rydw i’n meddwl, ar y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyflwynasom y cynnig hwn i roi cyfle i’r Llywodraeth gyd-fynd â barn glinigol, a defnyddio’r buddsoddiad ychwanegol mewn capasiti diagnostig i flaenoriaethu’r nod o gyflawni’r targed diagnostig o 28 diwrnod, targed nad wyf wedi ei ddewis yn fympwyol; daeth oddi wrth y bobl sy’n gwybod rhywbeth am hyn. Gallai hyn glirio’r dagfa yn y system ac arwain at...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl yma, sy’n galw am ffocws ar gyrraedd targed o 28 diwrnod ar gyfer rhoi diagnosis i bobl efo canser. Argymhelliad ydy hwn, wrth gwrs, gan y tasglu canser annibynnol, tasglu sy’n cynnwys rhai o glinigwyr gorau Ewrop, a ddywedodd: ‘We recommend setting an ambition that by 2020, 95% of patients referred for testing by a...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Rwy’n codi yn fyr iawn i ategu’r pwynt olaf a wnaeth Simon Thomas, mewn gwirionedd. Rwy’n ddiolchgar bod y mater yma wedi dod ger bron y Cynulliad—rwy’n croesawu hynny’n fawr. Mae arloesedd yn rhywbeth yn gyffredinol rwy’n eiddgar i’n gweld ni’n gwneud mwy ohono yng Nghymru. Rwy’n meddwl bod yna rywbeth am faint Cymru—am ‘scale’...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i ddweud bod Eluned Morgan yn gwneud peth peryg iawn yn dechrau rhestru cwmnïau yn ei rhan hi o Gymru cyn i Aelod Ynys Môn godi ar ei draed? Achos fe allwn i fod yn siarad yn helaeth iawn am Melyn Môn, y Cwt Mwg, y Cwt Caws a Halen Môn—ond gwnaf i ddim. Y gwir amdani, wrth gwrs, ydy bod yna llawer gormod o gynhyrchwyr bwyd cymharol fach—rhai ohonyn nhw yn fwy—yn Ynys Môn, a...
Rhun ap Iorwerth: Mae hi yn wybyddus bod cyfraddau y rhai sy’n goroesi canser yn is i’r rheini sy’n cael diagnosis drwy adrannau brys mewn ysbyty. Mae hi hefyd yn hysbys bod annhegwch o ran pwy sy’n debyg o fod yn mynd i gael diagnosis mewn adran frys, a bod y llai cyfoethog yn fwy tebygol o fynd drwy’r broses honno yn hytrach na mynd drwy brosesau a thrio neidio dros rwystrau o ran mynd i weld y GP...