Canlyniadau 2121–2140 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Parc Diwydiannol Baglan (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod wedi codi'r mater hwn sawl gwaith yn y Siambr hon, ac mae'n fy nhemtio i gamu y tu hwnt i ffiniau fy awdurdod i faes polisi. Yn anffodus, rwyf am ei siomi yn hynny o beth ac ymwrthod â hynny. Mae arnaf ofn fod y cwestiwn y mae'n ei ofyn yn bendant o fewn mater y cyfamod, felly nid wyf yn gallu ymhelaethu ymhellach ar yr hyn a ddywedais, ond bydd yr Ysgrifennydd Cabinet...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Parc Diwydiannol Baglan (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Wel, unwaith eto, mae arnaf ofn fod y cwestiwn hwn yn ymwneud â chonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond deallaf nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud ar ddyfodol y safle. A phe bai pethau'n datblygu i gaffael y safle, buasai'n rhaid mynd i'r afael â mater y cyfamod.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Erthygl 50 a'r Cyfnod Trosiannol (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Wel, mae safbwynt Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, sef y dylai fod cyfnod gweithredu, yn gydnabyddiaeth o'r realiti cyfreithiol a gwleidyddol—bod angen mwy o amser, fel petai, i gytuno'r telerau yn y tymor hir. Ond nid mater jest i'r Deyrnas Unedig yw e, fel sonies i, ac mae amryw o gwestiynau pwysig yn agored ar hyn o bryd y bydd yn rhaid cael atebion iddyn nhw cyn bod y sefyllfa...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Erthygl 50 a'r Cyfnod Trosiannol (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Wel, fel un o'r Aelodau sydd wedi bod fwyaf diwyd yn holi'r Cwnsler Cyffredinol, bydd yr Aelod yn gwybod bod confensiwn swyddogion y gyfraith unwaith eto yn gymwys i'r cwestiwn hwn. Fodd bynnag, gallaf i ddweud y byddai angen i unrhyw gyfnod gweithredu gael ei gytuno rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Felly, gallwn ni ddim rhagdybio y bydd yna gyfnod o'r fath, na beth fyddai ei...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Brexit (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Wel, mae gwaith helaeth ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'n dylanwad o fewn y DU, ac yn dylanwadu ar drafodaethau ffurfiol yr UE, i gyflawni ein hamcanion. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol yn ddiweddar, fel y nododd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ddoe wrth y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol mewn perthynas â datblygu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Brexit (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Mae'r cwestiwn hwn, unwaith eto, yn amodol ar gonfensiwn swyddogion y gyfraith, ond gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati'n weithredol i weithio gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Mae'r gwaith wedi cynnwys cymryd rhan ym mecanweithiau'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, cynnig gwelliannau i'r Bil ymadael â'r UE er mwyn ymdrin â phryderon ynghylch materion datganoledig,...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Rôl Hawliau Dynol yn Neddfwriaeth Cymru (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn pellach, ac am hyrwyddo materion hawliau dynol yn gyffredinol. Fel y gŵyr, mae'r Ddeddf hawliau dynol yn effeithio ar Weinidogion Cymru a'r Cynulliad mewn dwy ffordd uniongyrchol iawn. Yn gyntaf, maent yn awdurdodau cyhoeddus at ddibenion y Ddeddf, sy'n golygu na allant weithredu mewn ffordd sy'n anghydnaws â hawliau'r confensiwn, ac mae Bil Cynulliad y tu...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Rôl Hawliau Dynol yn Neddfwriaeth Cymru (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod fy nghyngor yn gyfreithiol freintiedig. Fodd bynnag, bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol fod Deddf Hawliau Dynol 1998 wedi ei hymgorffori'n elfen sylfaenol o'r setliad datganoli, drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, ac o ganlyniad, mae'n effeithio ar ddeddfwriaeth a wnaed gan y Cynulliad a chan Weinidogion Cymru.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Un o fanteision sefydlu comisiwn o'r math yma, yn fy marn i, yw'r gallu i wyntyllu'r math yma o syniadau ynglŷn ag awdurdodaeth a'r proffesiwn ac ati mewn ffordd sydd yn gallu ysgogi'r cyhoedd i ymwneud â chwestiynau sydd yn gallu bod yn rhai eithaf dyrys ac eithaf technegol. Rwy'n credu bod hynny'n rhan bwysig i'r comisiwn allu chwarae, ac rwy'n gobeithio taw dyna y gwnaiff e maes o law.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu'r comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru, fel y gŵyr, a bydd y comisiwn hwnnw'n ystyried y materion hyn. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd y proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru yn ymgysylltu'n llawn â gwaith y comisiwn.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Awdurdodaeth Gyfreithiol ar Wahân (22 Tach 2017)

Jeremy Miles: Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cyfle i fynd i'r afael â fy nghwestiwn cyntaf ar fater awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân? Mae'n rhoi cyfle i mi dalu teyrnged i fy rhagflaenydd am ei waith mewn perthynas â'r mater hwnnw, fel Cwnsler Cyffredinol a chyn hynny ar y meinciau cefn. Bydd gwaith y comisiwn yn sicrhau y ceir dadansoddiad cyfannol o'r holl faterion sy'n berthnasol i...

8. 8. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol (25 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Yr wythnos diwethaf, ymwelais â chanolfan waith lle y cyfarfûm â thîm o bobl a oedd yn cyflwyno’r credyd cynhwysol. Mae’r unigolion y cyfarfûm â hwy yn gwneud yr hyn a allant i gefnogi eu hawlwyr, ond mae eu system weithredu wedi torri, system a gynlluniwyd heb ystyried bywydau hawlwyr, un a gynlluniwyd ar gyfer sut y mae’r Llywodraeth yn teimlo y dylai pobl fyw, nid y ffordd y...

6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit (24 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Pan gyfarfu'r pwyllgor â Michel Barnier, atgoffodd ni fod llawer o'r cytundebau sydd eu hangen i roi effaith i'r berthynas hirdymor rhwng y DU ac Ewrop yn gytundebau cymysg mewn gwirionedd—nid yw o fewn cwmpas y cyngor a'r Senedd i’w datrys: mae angen diplomyddiaeth a strategaeth hirdymor gyda phob un o'r aelod-wladwriaethau. Pa gamau ydych chi’n meddwl bod angen i Lywodraeth Cymru a...

5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol (24 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae croeso mawr i'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Yn benodol, rwy’n cyfeirio at y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn fy etholaeth i fy hun, sy'n ddatblygiad cyffrous iawn. Mae'n debyg y bydd llawer o gyfraniad gan fentrau bach a chanolig i ddyfodol y sector hwn fel sector gweithgynhyrchu modiwlaidd yng Nghymru, a fydd yn gofyn am ddull penodol o...

9. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Teithio Rhatach ar Fws a Thrên i Bobl Ifanc (18 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Heddiw, pan fyddwch yn siarad ag unrhyw berson ifanc am y math o bethau y maent am eu gweld o wleidyddiaeth, mae trafnidiaeth gyhoeddus, o ran ei argaeledd a’i gost, bob amser yn eithaf agos at frig y rhestr. Drwy fforwm economaidd ardal Castell-nedd, clywsom stori am ddyn ifanc a oedd wedi colli hyder am fod cyfle lleoliad gwaith wedi methu, a hynny am ei fod yn gorfod dibynnu ar gludiant...

4. 4. Datganiadau 90 Eiliad (18 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Roedd Hydref 1917 yn fis a adawodd ei ôl ar y byd. Yma yn y DU, mae’n 100 mlynedd ers i’r mudiad cydweithredol benderfynu gyntaf ei fod am roi mynegiant i’w werthoedd drwy’r llwybr seneddol yn San Steffan, drwy ffurfio’r Blaid Gydweithredol. Gwnaed y penderfyniad hwnnw yn ei chynhadledd yn Abertawe—a oedd yn addas, o ystyried y rôl yr oedd Cymru wedi ei chwarae yn hanes y mudiad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynhyrchu a Dosbarthu Ynni (18 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae rôl cynghorau lleol yn cyflenwi ynni wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf hefyd, yn amrywio o gwmnïau gwasanaethau ynni, neu gwmnïau cyflenwi ynni, i’r rheini sydd â threfniadau cyflenwi llawnach, fel Robin Hood Energy, wrth gwrs, yn Nottingham, sy’n honni bod eu biliau’n llai, cynnydd mewn effeithlonrwydd ynni ac allyriadau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig: Cynhyrchu a Dosbarthu Ynni (18 Hyd 2017)

Jeremy Miles: 2. Pa rôl y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei rhagweld ar gyfer awdurdodau lleol yn y broses o gynhyrchu a dosbarthu ynni yng Nghymru? (OAQ51212)

4. 4. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Sefyll Arholiadau TGAU yn Gynnar (17 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad ac rwy’n croesawu ei chyfeiriadau, nad ydynt yn syndod, at bwysigrwydd cau'r bwlch cyrhaeddiad a'r pwyslais ar gofrestru cynnar amhriodol. Oherwydd, i lawer o ddisgyblion, wrth gwrs, y rhai hynny y mae gwella eu perfformiad yn hanfodol i gau'r bwlch cyrhaeddiad, cofrestru’n gynnar yw’r opsiwn cywir. Gall y gallu, yng nghyd-destun cyfle i...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (17 Hyd 2017)

Jeremy Miles: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gefnogi'r sector cydweithredol yn y pumed Cynulliad?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.