Canlyniadau 2141–2160 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Gwnaf, fe fuaswn yn gwneud hynny. Roedd hyn yn rhywbeth, unwaith eto, a drafodwyd gennym ddydd Llun, y Prif Weinidog a minnau, gyda Bimlendra Jha, prif weithredwr Tata Steel. Rwy’n credu bod ailadeiladu ymddiriedaeth yn hollol hanfodol—nad yw’n cael ei lleihau ymhellach, ond ei bod yn cael ei hailadeiladu. Mae hynny’n hanfodol, nid yn unig ar gyfer y cwmni—mae’n gwbl hanfodol ar...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Yn wir.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Na, yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Excalibur yn dal i gynnig yr hyn yr oeddent yn ei gynnig y llynedd. Ond hyd yn oed i Excalibur, roedd mater pensiynau dur yn un real ac yn un difrifol iawn y buasai’n rhaid iddynt ymgiprys ag ef. Roedd pob un o’r partïon a oedd â diddordeb yn y gwaith dur yn cyfaddef fod mater dur yn broblem fawr i’w goresgyn. Rwy’n credu ei bod yn werth nodi...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: [Yn parhau.]—nad yw materion pensiwn wedi’u datganoli. Fodd bynnag, yn ein—gwnaf.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Yn gyntaf oll, mae pensiynau yn fater sydd heb ei ddatganoli, ac mae’r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn gwbl glir, yn absenoldeb unrhyw gyfle, dewis neu drafodaeth arall, mai dyma’r unig gynnig sydd ar gael. A chwestiwn i’r gweithwyr ei benderfynu yw a ddylent dderbyn y cynnig sy’n cael ei gyflwyno iddynt neu ei wrthod a thrwy hynny greu amheuaeth ynglŷn â’r diwydiant dur cyfan...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am eu diddordeb parhaus yn y pwnc pwysig hwn? Hoffwn hefyd ddatgan fy aelodaeth o Unite the Union ar y cam hwn ac awgrymu: ar y cychwyn, gadewch i ni gytuno, pawb ar draws y Siambr hon, na ddylai neb wneud na dweud unrhyw beth i danseilio dyfodol dur Cymru neu swyddi gweithwyr dur. I’r rhai...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

Ken Skates: Yn ffurfiol.

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a'i gyfraniad. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le: mae hyn yn rhan o’r jig-so o ddull y ddinas-ranbarth. Roeddwn i’n falch o weld arweinydd cyngor Sir Fynwy yn cydnabod yr heriau, ond hefyd y cyfleoedd y byddai cael gwared ar y tollau ar y Croesfannau Hafren—neu ostwng y tollau o leiaf—yn ei gyflwyno i’r rhanbarth cyfan, nid dim ond yr...

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Wel, byddwn i'n cytuno â'r Aelod ac yn dweud ei bod i raddau helaeth iawn yn dreth ar fusnesau Cymru ac yn rhwystr i fuddsoddiad, ac rwy’n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn San Steffan yn gwrando ar yr hyn y mae’r Aelodau yn y Siambr hon wedi’i ddweud, ac yn newid eu safbwynt gwrth-gystadleuol.

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Mae'n eironig iawn mai’r blaid yr honnir ei bod yn cefnogi busnes sydd mewn gwirionedd o blaid treth gyson sylweddol ar ddefnyddwyr croesfan Hafren, ond mewn gwirionedd Plaid Lafur Cymru sy’n gwneud mwy dros fusnes drwy ddadlau yn uchel ei chloch dros gael gwared ar y dreth hon ar fusnes. Byddwn yn gwneud hynny’n ddiedifar. Rydym yn dadlau dros welliannau i ragolygon economi Cymru....

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a hoffwn ei sicrhau, hyd yn oed os oedd yn gofyn i mi ystyried codi tollau ar y bont benodol honno yn yr ardal y mae'n ei chynrychioli, byddwn yn gwrthod ystyriaeth o'r fath. [Chwerthin.] Y gwir amdani yw—rwy’n cyfeirio’n ôl at y pwynt a wnes i’n gynharach—o ystyried trethiant cyffredinol, mae defnyddwyr croesfannau Hafren eisoes wedi talu...

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Rwy’n deall bod Llywodraeth y DU wedi cynnal dadansoddiad, yn seiliedig ar fodel TEMPro 7, ac rwy'n siŵr bod yr Aelod yn cofio y bu’n broblem yn y gorffennol, yn enwedig lle mae’r gwaith o fodelu defnydd o’r M4 yn y cwestiwn. Yn bersonol, nid wyf yn credu y dylem ni geisio rhoi mwy o bwyslais ar deithio ar y ffyrdd na theithio ar drên neu fws. Rwy’n credu bod gennym ni hanes...

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n ddrwg gennyf nad yw’r Aelod wedi llwyddo i ddeall ein safbwynt, sydd wedi bod yn gyson iawn yn fy marn i. Rydym wedi gwrthwynebu’n gyson fodolaeth tollau pan fydd y croesfannau’n dychwelyd yn ôl i berchnogaeth y cyhoedd, ac rydym wedi gwneud ein safbwynt yn glir iawn i'r Adran Drafnidiaeth, ar lefel gweinidogion ac ar lefel swyddogion, a...

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Ken Skates: Lywydd, ein safbwynt ni yw y dylid rhoi diwedd ar godi tollau ar unwaith a dychwelyd y croesfannau i berchnogaeth y cyhoedd, o ystyried y rhwystr y maen nhw’n ei gynrychioli i economi a swyddi a thwf yng Nghymru.

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn. Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn, yn enwedig gan fy mod yn gwybod bod Aelodau ar draws y Siambr hon yn ymgodymu ar hyn o bryd â banciau stryd fawr sy'n ystyried cau canghennau ar y stryd fawr ac yng nghanol trefi. Ond mae’n rhaid i ni hefyd ystyried y ffaith bod mwy o weithgarwch yn cael ei wneud ar-lein. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i...

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau? O ran y rhyngwyneb â Busnes Cymru, mae'n mynd i fod yn gwbl hanfodol bod banc datblygu Cymru a Busnes Cymru yn cydweithio'n agos i sicrhau bod cymorth, cyngor ac arweiniad priodol yn cael ei roi gan y cyrff perthnasol. Ddirprwy Lywydd, mae’n fwriad gennyf sefydlu gweithgor ymateb cyflym sy'n cynnwys uwch swyddogion Busnes Cymru, a Cyllid...

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: Diolch i Jeremy Miles am ei gwestiwn. Mewn gwirionedd, mae'r syniad o gyfalaf tymor estynedig yn un rhagorol, ac fe allai’n wir fod yn rhan o gylch gwaith banc datblygu Cymru, ochr yn ochr ag addewidion maniffesto eraill Llywodraeth Cymru, yn bennaf, un sy'n ymwneud â thyfu busnesau cynhenid Cymru canolig eu maint i fod yn fusnesau sydd â photensial gwirioneddol fyd-eang. Yn fy marn i,...

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud y bydd y cylch gorchwyl yn glir? Nid benthyciwr pan fetha popeth arall mohono, ond yn hytrach, sefydliad a fydd yn mynd i'r afael â methiant y farchnad a bylchau ble y mae’n hysbys bod yna fylchau, a chredaf fod hynny yn cael ei adlewyrchu eisoes. Mae'r ffaith bod y cyfraddau llog yn is mewn gwirionedd nag y mae llawer o bobl yn ei gredu...

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Byddaf mor gryno ag y gallaf wrth eu hateb. Yn gyntaf oll, o ran cyllido torfol, mae amcangyfrif y bydd cyllido torfol yn tyfu’n sylweddol iawn erbyn diwedd y ddegawd hon. Y broblem sy'n ein hwynebu yw nad yw pob busnes, ac yn wir, nid yw pob sefydliad trydydd sector, yn ymwybodol o'r potensial na sut i fynd ati i ddenu adnoddau cyllido...

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau ac, unwaith eto, am ei gefnogaeth eang ar gyfer yr hyn yr ydym wedi’i gyflwyno heddiw i'r Cynulliad. Rwyf hefyd yn falch bod yr Aelod yn cydnabod y bydd yr achos busnes yn cael ei gyhoeddi. Byddwn yn gobeithio bod mewn sefyllfa i’w gyhoeddi yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Unwaith eto, mae'n amodol ar dderbyn yr adborth gan randdeiliaid â...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.