Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gael cymryd rhan yn y ddadl yma, dadl sydd yn un bwysig, ac i gynnig y gwelliannau yn fy enw i. Rydym ni’n sicr yn croesawu’r ddadl yma heddiw. Rydym ni’n cefnogi llawer o eiriad y cynnig, ond yn sicr y cyfan o’r sentiment y tu ôl iddo fo. Yn rhy aml, rydw i’n meddwl, pan fo hi’n dod i ddadleuon am sut i ddarparu gofal a gofal cymdeithasol...
Rhun ap Iorwerth: Mi drof i at y gwelliannau—mae yna nifer ohonyn nhw. Ni fyddwn ni’n cefnogi gwelliannau’r Llywodraeth. Nid ydym ni’n teimlo bod gosod y cap £50,000 yma’n adlewyrchu tegwch. Mi fyddai’n well gennym ni, yn sicr, weld mwy o gynnydd tuag at roi terfyn go iawn ar y dreth dementia yma sydd gennym ni ar hyn o bryd. Mae gwelliant 2, yn ein tyb ni, yn amherthnasol. Mi allai Llywodraeth...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth y prynhawn yma. Let me get straight into the comments made by the UKIP representative. We all know we are told that there is no problem with people staying who are currently in the UK. It’s the kind of throwaway, meaningless comment that has been such a feature of the European debate. UKIP have made a habit, it...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rwy’n codi i gynnig ac i ofyn am eich cefnogaeth chi i’r cynnig sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae dyfodol staff yn yr NHS sydd wedi eu hyfforddi dramor wedi dod dan chwyddwydr eleni gan y newid yn yr hinsawdd gwleidyddol ers y refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae staff NHS sydd wedi cael eu hyfforddi dramor yn wynebu ansicrwydd am, rwy’n meddwl, dau...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i wastad wedi ffansi bod ar gefn moto-beic. Wel, mi ges i gyfle ychydig ddyddiau yn ôl. Yn anffodus, nid oedd o’n symud ar y pryd—nid wyf wedi pasio prawf moto-beic. Ond, yng Nghaergybi yr oeddwn i, y tu allan i Ysbyty Penrhos Stanley, ar gefn moto-beic hyfryd iawn o’r enw Elsa II, i roi sylw i lansiad gwasanaeth newydd beiciau gwaed yn y gogledd-orllewin. I’r rheini ohonoch...
Rhun ap Iorwerth: Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai wedi cysylltu efo fi yn eiddgar i warchod elfennau penodol o waith presennol Cymunedau’n Gyntaf yn y dyfodol. Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn CF yng Nghaergybi, er enghraifft, yn falch iawn o nifer o agweddau o’r gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y dref, ac rydw innau yn eu llongyfarch nhw ar y gwaith hwnnw. Ac maen nhw...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad heddiw. Fel mae’n digwydd, mae’r pwyllgor iechyd yma yn y Cynulliad yn ymchwilio ar hyn o bryd i barodrwydd y gwasanaeth iechyd am y gaeaf. Rydym ni’n edrych ymlaen at y sesiwn dystiolaeth efo’r Ysgrifennydd Cabinet yn y dyddiau nesaf. Oes, mae yna dystiolaeth sydd wedi cael ei chlywed fel rhan o’n hymgynghoriad ni hyd yma sydd yn...
Rhun ap Iorwerth: Rydw i wedi siarad yn y Siambr yma droeon am bwysigrwydd profion diagnostig. Mae e wedi cael ei dynnu i’m sylw i gan feddygon teulu yn fy etholaeth bod amseroedd aros am brofion endosgopi wedi cyrraedd lefelau pryderus yn y misoedd diwethaf, efo sôn am gleifion yn gorfod aros blwyddyn a saith mis ar ôl cyrraedd brig y rhestr. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i edrych ar beth sy’n...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. A ydy’r Aelod yn cytuno â fi fod angen hefyd inni ddefnyddio’r ‘role models’ rhagorol sydd gennym ni mewn chwaraeon, er enghraifft, ar hyn o bryd—rydym yn meddwl am dîm Cymru a chwaraewyr fel Ben Davies a Joe Allen—er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn edrych i fyny at bobl sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg?
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma. Rydw i am ganolbwyntio ar bwysigrwydd safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, neu SSSIs. Fel mae eraill wedi nodi yn barod, rŷm ni’n colli rhywogaethau ar raddfa ddychrynllyd ar hyn o bryd, ac, fel mae’r adroddiad sefyllfa byd natur yn nodi, un o achosion colli bioamrywiaeth ydy dirywiad cynefin. Mae angen lle ar fywyd gwyllt i ffynnu, ac...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n credu ein bod i gyd yn clywed yr hyn rydych yn ei ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, o ran bod Aelodau’r Cynulliad, wrth gwrs, wedi sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Ond er nad yw hwn yn fater sydd wedi’i ddatganoli, ac rydym yn derbyn y pwynt hwnnw hefyd, mae’n gwbl briodol i’r Llywodraeth wneud ei barn yn hysbys a chyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar faterion nad...
Rhun ap Iorwerth: Mae gennym ni ganolfan arbenigol fasgwlar yn y gogledd, a Bangor ydy’r ganolfan honno. Yn ôl yr holl ystadegau sydd o’n blaenau ni, o ran y cwestiwn ynglŷn â gwasanaethau arbenigol yn Ysbyty Gwynedd, rydw i’n sylweddoli nad oes gennych chi ffigwr mewn golwg o faint o wasanaethau, ond, fel y dywedodd Bruce Forsyth unwaith, ‘Higher neu lower?’ Dyna’r cwbl yr oeddwn i’n gofyn...
Rhun ap Iorwerth: Ond rydym yn gwybod, wrth gwrs, am y problemau ehangach ar draws y bwrdd, a phan mae bwrdd iechyd yn cyrraedd pwynt fel yma, mi fyddai rhywun yn disgwyl camau radical—gwirioneddol radical—i newid pethau. Y cwbl rydym wedi ei weld mewn difri ydy newid uwch-reolwyr ac, ar hyn o bryd, rydw i’n dweud wrthych chi nad oes gan bobl ddim ffydd bod hynny ynddo fo ei hun yn mynd i gyflwyno’r...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Mae adroddiad beirniadol arall wedi cael ei gyhoeddi gan yr ombwdsmon heddiw i safon gofal yn Ysbyty Glan Clwyd. Y tro yma, claf canser a wnaeth orfod aros yn llawer rhy hir am driniaeth. Dyma’r trydydd adroddiad beirniadol gan yr ombwdsmon mewn dau fis. Mae’n digwydd, wrth gwrs, yn y cyd-destun ehangach fod bwrdd Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig. Pam fod y gwasanaeth...
Rhun ap Iorwerth: Mae adroddiadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â chynnydd Cyflymu Cymru bob amser yn rhai canmoliaethus iawn ac, wrth gwrs, ni allwch wadu canran y cynnydd a wnaed o ganlyniad i’r rhaglen Cyflymu Cymru ac, wrth gwrs, drwy Lywodraeth Cymru'n Un y lansiwyd y rhaglen band eang cyflym iawn. Felly, yn amlwg, o ran egwyddor, mae'n wych bod rhaglen Cyflymu Cymru ar waith. Yn anffodus, rydym ni i gyd...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad yma? Er nad ydy’r Bil yma yn berffaith, fel y gwnaf i egluro, rwyf yn croesawu y Bil fel ag y mae o. Mae’n drueni na chafodd cynnwys yr hyn sydd o’n blaenau ni rŵan ei roi ar y llyfrau statud yn barod. Mi oeddwn i’n un o’r rhai a oedd yn methu â derbyn y Bil diwethaf oherwydd yr elfen o gyfyngu ar ddefnydd o...
Rhun ap Iorwerth: Y cwestiwn yw faint yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, ac mae wythnos y coffa yn amser da i atgoffa ein hunain bod gennym ddyletswydd gofal i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth gwrs, y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi am hynny. Ond dim ond £585,000 yw’r gyllideb ar gyfer gwasanaeth iechyd a lles cyn-filwyr Cymru gyfan. Mae hynny’n llai na...
Rhun ap Iorwerth: Nid ydym yn gwybod yn union faint o gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl achos nid yw’r ffigyrau union yn cael eu cyhoeddi. Rydym ni yn meddwl bod rhyw 4 y cant yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, neu ‘post-traumatic stress disorder’. Rydym ni’n meddwl bod rhyw un o bob pump yn dioddef o ryw fath o afiechyd meddwl. Lleiafrif o gyn-filwyr ydy hyn, wrth gwrs, ond...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol o faint y broblem o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn dioddef o broblemau iechyd meddwl? A yw’n derbyn beth ddywedodd y cyn bwyllgor iechyd wrth ddisgrifio cefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru fel bod yn annigonol ac amhriodol?
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu, heb os, yng Nghymru o ran triniaeth canser. Mae yna bobl yn goroesi heddiw na fyddai wedi gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwil blaengar yn digwydd yn ein prifysgolion ni, ond mae yna gymaint o le i wella. Mae amseroedd aros afresymol o hir am...