Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod yn cytuno ag ef ar lawer o'r pwyntiau y mae wedi’u gwneud am yr angen i sicrhau ein bod yn datganoli lle y gallwn ni wneud hynny a rhannu cyfleoedd ledled Cymru. Byddwn yn fwy na hapus i drafod gyda fy nghydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, y syniad o sicrhau hefyd bod awdurdod refeniw Cymru yn cael ei...
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gyhoeddi bod fy swyddogion wedi derbyn cynllun busnes ar gyfer banc datblygu Cymru, sy'n dal i fod mewn sefyllfa dda i gael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn nesaf, yn amodol ar gymeradwyaeth rheoliadol. Bydd pencadlys y banc yn y Gogledd, a’i brif flaenoriaeth yw helpu meicrofusnesau a busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gael cyllid...
Ken Skates: Mae rheolaeth leol yn allweddol, wrth gwrs, ac mae atebolrwydd i’r gymuned yn hanfodol. Rwy’n credu mai un o’r gwersi y gallwn eu dysgu o’r flwyddyn ddiwethaf yw y bydd cymunedau’n sefyll yn unedig pan fyddant yn wynebu’r posibilrwydd o nifer sylweddol o swyddi’n cael eu colli. Rwy’n meddwl bod hynny, yn ei dro, yn cyfiawnhau ein safbwynt drwy’r rhaglen lywodraethu a...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau. Rydym wedi bod yn gweithio ar hyn, fel y gwyddoch, ers misoedd lawer ac ni chafodd neb ei gau allan. Yn wir, mae’r berthynas sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Tata wedi bod yn gynhyrchiol iawn. Buaswn wedi bod wrth fy modd yn gallu darparu sylwebaeth ar ble roeddem gyda Tata, ond yn anffodus, o ystyried sensitifrwydd y mater a’r...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i John Griffiths am ei gwestiynau a dweud, er fy mod yn ddiolchgar iawn am ei eiriau caredig, rwy’n credu mai’r Prif Weinidog sydd wedi arwain ar y mater hwn, ac sydd wedi gallu sicrhau ein bod ar y pwynt lle rydym heddiw. Hoffwn ddweud hefyd fod Aelodau’r Cynulliad wedi mynegi pryder ynglŷn â dyfodol y diwydiant dur o bob rhan o’r Siambr, ac rwy’n meddwl y bydd...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau a dweud ei fod yn sicr yn gwneud hynny, ac nid fi yw’r unig Aelod yn y Siambr hon, rwy’n siŵr, sydd ag aelodau o’r teulu’n cael eu cyflogi ar ystad gwaith dur Tata. Mae heddiw’n foment arwyddocaol iawn o ran rhoi sicrwydd i lawer o bobl sydd wedi byw dros y flwyddyn ddiwethaf mewn cyflwr cyson o bryder am eu gwaith yn y dyfodol. O ran ein...
Ken Skates: Ie, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiynau. Rwy’n cytuno bod hon wedi bod yn flwyddyn hir ac anodd iawn i holl weithwyr Tata, i’w teuluoedd ac i’r cymunedau ehangach, ac rwy’n falch fod yr ansicrwydd yn awr ar ben ac y gallant edrych ymlaen at y Nadolig ac wynebu’r flwyddyn newydd gyda hyder a sicrwydd. Rwy’n mynd i fod yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law ynglŷn â’r...
Ken Skates: Ie, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Hoffwn hefyd ddiolch i’r Llywydd am ohirio’r cwestiwn brys hwn nes yn awr. Mae hon yn foment enfawr i ddur yng Nghymru a Phrydain. Rwy’n croesawu, fel cam arwyddocaol iawn, y cyhoeddiad yn gynharach y prynhawn yma fod yr undebau dur wedi cael ymrwymiad gan Tata Steel i ddiogelu cyflogaeth a chynhyrchiant ym Mhort Talbot a’i safleoedd dur...
Ken Skates: Roeddwn yn bwriadu bod yn hael yn fy ymateb, yn wahanol i’r Aelod, ac awgrymu mai camgymeriad ar ei ran yn hytrach na drygioni a’i harweiniodd i honni llawer o wallau ffeithiol. Ond rwyf am gychwyn gyda’r dyfyniad y mae wedi’i ailadrodd, gan Chris Grayling, na lwyddodd i’w ailadrodd yn llawn. Dywedodd Chris Grayling, Mae angen i mi gywiro’r gŵr bonheddig ar hynny: nid ydym yn...
Ken Skates: Gwnaf. Mae sylwadau’r Ysgrifennydd Gwladol yn ymwneud â sut y gellid rhannu swyddogaethau cyfreithiol yn y dyfodol, ac nid ydym wedi dod i gytundeb terfynol yn y maes hwn eto. Yr hyn y byddem yn ei bwysleisio, fel y mae’r Ysgrifennydd Gwladol wedi’i gadarnhau, yw y bydd Llywodraeth Cymru naill ai’n derbyn swyddogaethau mewn perthynas â gwasanaethau trawsffiniol, neu’n gallu eu...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod hefyd yn falch mai gogledd Cymru yw’r pedwerydd rhanbarth gorau ar y blaned? Yr wythnos hon, rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod fod Cymru wedi ennill gwobr arall. Rydym wedi ennill y wobr am y lle gorau yn y DU ar gyfer pobl ifanc, myfyrwyr a theithwyr addysgol, a hynny yng Ngwobrau Teithio Ieuenctid Prydain. Mae gan ogledd...
Ken Skates: Gwnaf. Mae’n bleser gennyf ddweud bod nifer yr ymwelwyr rhyngwladol â Chymru wedi tyfu llawer, gyda nifer y teithiau’n cynyddu 10 y cant a gwariant yn cynyddu 25 y cant rhwng 2011 a 2015. Mae ffigurau’r arolwg teithwyr rhyngwladol ar gyfer chwe mis cyntaf 2016 hefyd yn dangos twf o ran teithiau a gwariant.
Ken Skates: Rwy’n falch iawn o allu dweud wrth yr Aelod y byddaf yn ariannu ein gweithgarwch yn yr ŵyl honno. Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein dewis i fod yn bartner allweddol yn 2018, Blwyddyn y Môr, ond hefyd blwyddyn cyfeillgarwch gyda’n partneriaid ledled Ewrop.
Ken Skates: Mae gan ein sector diwylliant ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy’n wynebu tuag allan ac sy’n gwerthfawrogi cyfnewid diwylliannol. Byddwn yn pwyso am gymal eithrio diwylliannol i gyfyngiadau ar ryddid pobl i symud, ac i gronfeydd cenedlaethol y DU lenwi unrhyw fwlch mewn cyllid diwylliannol o ganlyniad i golli arian yr UE.
Ken Skates: Gwnaf. Mae oddeutu 30,000 o adeiladau ledled Cymru wedi’u gwarchod drwy eu rhestru fel adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig sy’n bwysig ar raddfa genedlaethol. Mae 493 o’r rhain yn radd I.
Ken Skates: Gall awdurdodau lleol lunio rhestrau lleol o ddiddordeb hanesyddol, ond o ran yr hyn y mae Cadw yn ei wneud—a chredaf ei bod yn bwysig i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru yno i gefnogi’r amgylchedd hanesyddol, o ran swyddogaethau statudol a swyddogaethau anstatudol—rydym yn arwain ar dair menter allweddol. Un ohonynt yw’r cynllun gweithredu ar gyfer mannau addoli, un arall yw’r...
Ken Skates: Gwnaf, yn sicr. Rwy’n falch o allu dweud wrth yr Aelod heddiw fod Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn deall bod Diwydiant Cymru—sydd wedi bod o gymorth mawr, a hoffwn gofnodi hyn, yn dysgu rhywbeth i mi am ddiwydiant 4.0—yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o brifysgolion Cymru ac yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid mewn perthynas â diwydiant 4.0 yn rownd gyfredol cronfa datblygu...
Ken Skates: Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y ganolfan drafnidiaeth arfaethedig yn y Celtic Manor, yn enwedig o ystyried datblygiad y ganolfan gynadledda yno a’i harwyddocâd cynyddol fel cyrchfan bwysig yn ne-ddwyrain Cymru. O ran costau ac adnoddau mewn perthynas â’r prosiect metro yn ei gyfanrwydd, rydym yn disgwyl y bydd bob ceiniog a oedd i ddod o Ewrop yn dod gan Lywodraeth y DU pan fyddwn yn...
Ken Skates: Mae hwn yn bwnc hynod o ddiddorol ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i harneisio’r cyfleoedd y mae’r pedwerydd chwyldro yn eu darparu. Bydd ein cefnogaeth i dechnoleg, ymchwil a datblygu arloesol yn sicrhau bod arloesedd yn alluogwr economaidd o bwys i Gymru.
Ken Skates: Gwnaf. Croesawir y cyllid ychwanegol ond nid yw’n gwrthdroi’r toriadau i’n cyllideb gyfalaf dros y blynyddoedd diwethaf. Ein blaenoriaeth fydd sicrhau ein bod yn defnyddio’r cyllid ychwanegol hwn i gefnogi’r gwaith o greu a diogelu Cymru ffyniannus.