Rhun ap Iorwerth: Yn ffurfiol.
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n croesawu'r cyhoeddiad, ond dylwn ychwanegu ein bod wedi aros yn hir iawn amdano a dweud y lleiaf. Af yn syth bin at yr amryw gwestiynau sydd gennyf. Mae canolfan £350 miliwn yn ddiwerth heb y staff medrus angenrheidiol i weithio ynddi. Dylwn i ofyn: a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn siŵr na fydd recriwtio yn broblem? Rwy’n dyfalu pa ateb a roddir i mi, y dylai cyfleuster o’r...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i groesawu’r datganiad yma gan yr Ysgrifennydd Cabinet? Rwy’n ddiolchgar hefyd am y cydweithio sydd wedi bod ers y cytundeb wedi’r etholiad wrth inni roi cig ar yr asgwrn o ran yr hyn yr oedd Plaid Cymru wedi’i gynnig i gael adolygiad seneddol fel rhan o’r cytundeb hwnnw. A gaf i nodi fan hyn fy mod i’n dymuno’n dda iawn i’r tîm newydd o dan arweinyddiaeth Dr Ruth...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Byddem ni, wrth gwrs, wedi cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16, ond a ydych yn derbyn pe bai hynny wedi digwydd, efallai y byddai’r canlyniad wedi bod yn wahanol iawn?
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gael cymryd rhan yn y drafodaeth yma. Mae’n od, braidd, bod y drafodaeth yn digwydd yn amser dadl wrthblaid, achos rydym yn sôn yn fan hyn am rywbeth, wrth gwrs, sydd ymhell y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. A dyna pam fy mod i wedi bod yn hapus iawn i fod yn un o’r rhai i arwyddo’r cynnig yma yn drawsbleidiol. Rwy’n...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf am siarad yn fyr am sut y mae llywodraeth leol effeithiol yng Nghymru yn hanfodol ar gyfer cynnal gwasanaethau iechyd drwy eu gwaith nhw ym maes gofal cymdeithasol. Mae gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, i helpu i gadw pobl allan o ysbytai neu, os oes angen iddyn nhw dderbyn triniaeth ysbyty, i’w caniatáu iddyn nhw gael eu rhyddhau o’r ysbyty yn brydlon....
Rhun ap Iorwerth: Yn ffurfiol.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Mae isio dathlu, wrth gwrs, y miloedd o gysylltiadau sydd wedi cael eu gwneud o dan raglen Cyflymu Cymru, ond o dan y straeon positif yna, wrth gwrs, mae yna gymunedau ar hyd a lled Cymru sy’n methu â chael cysylltiad. Fe allaf sôn wrthych chi am ardal Brynsiencyn, lle mae cwmni byd-enwog Halen Môn yn dal yn methu cael band eang cyflym. Fe allaf sôn wrthych chi...
Rhun ap Iorwerth: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau gweithredu pan benderfynir na all cymuned gael ei chysylltu o dan raglen Cyflymu Cymru? OAQ(5)0221(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Yn fyr iawn, fel cadeirydd cangen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, rwy’n falch iawn o allu talu teyrnged i Joyce Watson am y gwaith a wnaeth hi fel y cadeirydd yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Mi oedd hwnnw yn gyfnod, wrth gwrs, pan wnaeth y gangen gynnal cynhadledd rhanbarth ynysoedd Prydain a gwledydd Môr y Canoldir yma yn y Senedd yn 2014. Thema’r gynhadledd bryd hynny...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, ac a gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y drafodaeth adeiladol y prynhawn yma am y cyfraniadau o ar draws y Siambr? Diolch. Rydym ni wedi clywed straeon pwerus iawn. Mi wnaf i enwi Bethan Jenkins fel un a ddaeth â phrofiad un etholwraig i’n sylw ni fel rhan o’r drafodaeth yma mewn modd cryf iawn. So, thank you for all your contributions. Not surprisingly,...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o gael cyflwyno’r cynnig yma. Rydw i’n edrych ymlaen at y drafodaeth y prynhawn yma, a hithau yn wythnos lle rydym ni wedi bod yn nodi Diwrnod Rhyngwladol Iechyd Meddwl. Yn gyffredinol, rwy’n meddwl bod yna ddwy fath o drafodaeth rydym yn eu cael pan fyddem ni’n siarad am iechyd meddwl: yn gyntaf, y ffordd mae’r gwasanaeth iechyd yn ymateb i bobl sydd...
Rhun ap Iorwerth: Mi gyfeiriaf i hefyd at welliant y Llywodraeth. Efo’r hinsawdd wleidyddol fel y mae, allwn ni ddim, rydw i’n meddwl, ymddiried yn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i beidio â thynnu amddiffyniad yn ôl i bobl sy’n agored i niwed yn y gweithle. Mae yna arwyddion, onid oes, bod y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ar radar y Llywodraeth yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i gael fy nghysylltu efo’r cynnig yma ac i gefnogi’r Aelodau eraill sydd wedi siarad mor frwd heddiw dros yr angen i hybu gweithgaredd corfforol ac i sicrhau bod yr isadeiledd priodol yn ei le o ran teithio llesol, i allu sicrhau i hynny ddigwydd o fewn ein cymunedau ni fel rhan o fywyd bob dydd. Mae iechyd pobl Cymru, a phlant...
Rhun ap Iorwerth: Mi fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o’r penderfyniad gan y Grid Cenedlaethol i roi gwifrau mewn twnnel o dan y Fenai. Rydym yn gobeithio gweld pont newydd yn cael ei chodi i ddeuoli pont Britannia; rwy’n siŵr y byddai’r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â fi y bydd yna lai o impact amgylcheddol o roi gwifrau ar y bont honno yn hytrach na chodi pont a thyrchu twnnel. Ond hefyd,...
Rhun ap Iorwerth: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith amgylcheddol cynlluniau’r Grid Cenedlaethol ar draws Ynys Môn? OAQ(5)0050(ERA)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch am y datganiad ac am y cynllun strategol a gafodd ei gyhoeddi ddoe? Rwy’n cydnabod, yn sicr, y camau ymlaen sydd wedi bod ers lansio cynllun 2012, ond mae’r Ysgrifennydd Cabinet ei hun wedi cydnabod gymaint sydd ar ôl i’w wneud, ac rwy’n edrych ymlaen at y ddadl brynhawn fory yn y Siambr hefyd, lle y cawn ni drafod rhai o’r...
Rhun ap Iorwerth: Yn fy etholaeth i, Ynys Môn, mae’r cwestiwn o ffiniau efo Iwerddon yn un o’r cwestiynau mwyaf allweddol o ran y drafodaeth am adael yr Undeb Ewropeaidd. Os oes ffin i gael ei gosod o gwmpas ynys Iwerddon, fel sy’n cael ei hawgrymu—ac mae Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon wedi dweud ei fod am gryfhau rheolaeth ffiniau ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Iwerddon—beth yw asesiad y...
Rhun ap Iorwerth: 9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fasnach rhwng Cymru ac Iwerddon? OAQ(5)0204(FM)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Cwestiwn sydd gen i am yr angen i ddarparwyr band eang sicrhau bod y rheini sydd angen safon uchel o gysylltiad band eang ar gyfer anghenion telefeddygaeth yn ei chael. Rwy’n gwybod am gymuned yn Ynys Môn—cymuned gyfan—sydd heb fand-eang cyflym. Yn eu plith nhw mae yna deulu sydd â’r gŵr wedi cael diagnosis o spinocerebellar ataxia 6, clefyd, rwy’n deall sy’n...