Canlyniadau 201–220 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Med 2022)

Huw Irranca-Davies: Gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Mae un yn ymwneud â'r trefniadau i grwpiau sy'n teithio o'r wlad ar ôl Brexit, a threfniadau ar gyfer llyfrau o docynnau i osgoi costau ar gyfer elusennau a grwpiau eraill. Bydd hi'n ymwybodol iawn, yn ddiweddar, o Prostate Cymru, sef grŵp o feicwyr gwirfoddol sy'n beicio dros elusennau yn mynd drwy borthladd Santander, yn gorfod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prif Weinidog Newydd y Deyrnas Unedig (20 Med 2022)

Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, yn eich ymgysylltiad â Phrif Weinidog newydd y DU, pan fydd hynny'n digwydd, a allwn i ofyn i chi godi'r mater dybryd o eglurhad ar y mater o ffracio? Nawr, mae ffracio yn anghynaliadwy ac yn annaliadwy yn amgylcheddol ac o ran yr argyfwng newid hinsawdd. Mae'n cyfrannu dim byd o gwbl at fforddiadwyedd nac at gyflenwi marchnadoedd domestig y DU gan ei fod yn cael ei werthu i...

8. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 (13 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i siarad yn nadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24, a hynny gan dynnu ar brofiad y pwyllgor o'i waith craffu cyllidebol cyntaf erioed ar gyllideb ddrafft 2022-23. Y rheswm pam rwy'n siarad yw er mwyn canolbwyntio ar fater cyfiawnder, ond hoffwn ddweud wrth fynd heibio ei bod yn wych clywed y cyfraniadau sydd wedi bod...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (13 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Jane, diolch am fod mor barod i ildio. A wnewch chi nodi hefyd fod llais bach ond arwyddocaol ar asgell dde'r Ceidwadwyr sy'n cefnogi incwm sylfaenol cyffredinol ar sail rhyddhau pobl a rhoi'r gallu iddynt fod yn entrepreneuraidd, i sefyll ar eu traed eu hunain, i arbrofi, i greu eu bywydau eu hunain? Nid ydym wedi clywed dim o hynny heddiw nac erioed o’r meinciau acw yn unrhyw un o’r...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Incwm Sylfaenol a'r newid i economi ddi-garbon (13 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Dim ond i wneud pwynt syml iawn ar faniffestos: mae maniffestos ar gyfer y tymor, hyd Senedd gyfan, nid i'w gyflawni ar y diwrnod cyntaf. Er bod yn rhaid imi ddweud, mae pump o'r pwyntiau allweddol a oedd gennym ym maniffesto Llafur eisoes wedi'u cyflawni, ynghyd â rhai eraill a oedd yn rhan o'r cytundeb cydweithio. Fe gyrhaeddwn yno ar y pethau eraill.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (13 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg am wasanaethau gofal sylfaenol?

15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio yn y fan yna?

15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am ildio. Un sicrwydd y gallai'r Gweinidog ei roi i'r Senedd heddiw, yn y ffordd gydweithredol y mae hi wedi bwrw ymlaen â'r newidiadau hyn i'r ddeddfwriaeth a'r cynigion presennol ar gyfer yr hyn a gyflwynir—. Yn y cynigion hynny o'r hyn a ddaw nesaf, a wnaiff hi roi'r sicrwydd i'r Senedd heddiw y bydd yn gweithio gyda'r pwyllgorau perthnasol a gydag Aelodau'r Senedd...

15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Llyr, a wnewch chi dderbyn ymyriad?

15. Dadl: Cyfnod 4 Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Mae'n codi pwynt pwysig a godwyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ond, mewn gwirionedd, roeddem yn gobeithio y byddai'r Gweinidog yn gwneud gwelliannau i'r darn hwn o ddeddfwriaeth nawr er mwyn gallu ymdrin â materion sydd eisoes wedi'u datblygu yn Senedd y DU ac yn y blaen o ran materion treth, ond fe ddywedsom ni hefyd, 'Edrychwch ar y...

12. Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, ac am y tro olaf heddiw, Gweinidog. [Chwerthin.] Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn brynhawn ddoe, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys dau bwynt adrodd am rinweddau. Nid ydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ymateb i'r pwyntiau hynny, ond mae ein hail bwynt o ran rhinweddau yn gwneud sylw am fater pwysig y mae’n werth ei amlygu ar gyfer y Senedd. Fel y dywedodd y Gweinidog,...

11. Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022 (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Yn hytrach na'r materion polisi pwysig yma, mae gennym ni rai pwyntiau technegol a rhinweddau i'w codi o ran gwneud cyfraith Cymru yn hygyrch yn gyntaf. Gwneir y Gorchymyn drwy arfer y pŵer yn adran 81(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae erthygl 2(2) o'r Gorchymyn yn darparu bod y cyfeiriad yn adran 81(1) o'r Ddeddf at '30 milltir yr awr' i'w ddehongli fel...

6., 8. & 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022; Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 a Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Weinidog. Gwnaethom ystyried y gyfres hon o reoliadau yn ystod ein cyfarfod ddoe a gosod ein hadroddiadau yn syth ar ôl hynny.

6., 8. & 9. Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Tenantiaethau Cymdeithas Dai: Darpariaethau Sylfaenol) 2022; Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 a Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022 (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau caredig am y gwaith yr ydym ni wedi'i wneud a'r ymgysylltu rydych chi wedi'i gael gyda ni ar hyn. O ran eich sylwadau agoriadol, rydym ni'n dwlu ar 'technegol a chymhleth'. Mae'r gyfres o reoliadau heddiw yn rhan o'r drydedd gyfran o is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i gefnogi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Roedd ein pwynt adrodd technegol ar...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd; mae'n ddrwg gen i.

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cynlluniau Strategol 10 mlynedd Cymraeg mewn Addysg (12 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Dim ond eisiau dod i mewn ydw i yn dilyn sylwadau Luke yn y fan yna, oherwydd bod y Gweinidog wedi mynegi cryn hyder ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a hefyd yn ardal Rhondda Cynon Taf yn fy etholaeth i, yn eu Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg wrth symud ymlaen. Ond fe wnes i gyfarfod â Meurig, y pennaeth arobryn, y diwrnod o'r blaen, ac rwy'n credu y byddai'n croesawu ymweliad yn...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Cyfarfodydd Hybrid ar Draws Ystâd y Senedd ( 6 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Mae'n dda gweld y gwaith sydd wedi bod yn digwydd eisoes, ac sy'n parhau i ddigwydd, ar gynyddu cyfran yr ystafelloedd y gellir eu defnyddio ar ffurf hybrid, oherwydd, fel y gwyddom i gyd, mae'n ymddangos y bydd yn rhaid inni ddefnyddio hyn fel ffordd fodern o weithio yn awr, ac yn sicr wrth inni wynebu'r hydref a'r gaeaf. A yw'n realistig...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Hawliau ( 6 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw. Mae'r heriau gyda'r bil hawliau hwn sy'n cael ei gyflwyno wedi cael eu trafod yn helaeth y prynhawn yma, yn enwedig y risgiau sylweddol y mae arsylwyr allanol wedi'u nodi i'r setliadau datganoli ledled y DU, a hefyd y goblygiadau sylweddol i hawliau dynol a chydraddoldeb, yn enwedig erthygl 10, rhyddid mynegiant, ac erthygl 11, rhyddid i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Mynediad at Gyfiawnder ( 6 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Credaf fod yr effaith gronnol yn bwysig iawn, Gwnsler Cyffredinol. Rhoddwyd llawer o sylw i'r Bil Hawliau a'r effaith yma yn y Senedd heddiw, a hynny'n gwbl briodol, ond eto gallai'r holl ddeddfwriaeth DU, sydd wedi ei frysio a heb ei graffu'n effeithiol ar hyn o bryd, effeithio ymhellach ar fynediad dinasyddion unigol Cymru at gyfiawnder drwy leihau neu wadu'r cyfiawnder hwnnw i bobl fregus...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Bil Hawliau Arfaethedig Llywodraeth y DU ( 6 Gor 2022)

Huw Irranca-Davies: Felly, Weinidog, diolch am yr ateb, ac ymddiheuriadau am wyro ychydig i hanes, ond gwyddom mai yng nghysgod yr ail ryfel byd y cefnogodd Churchill a Mitterrand ac eraill gonfensiwn, gyda chefnogaeth 100 o seneddwyr o 12 aelod-wladwriaeth Cyngor Ewrop, i ddrafftio'r siarter hawliau dynol a sefydlu llys i'w gorfodi. Yr AS Prydeinig a'r cyfreithiwr Syr David Maxwell Fyfe oedd un o'r aelodau...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.