Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Fel y nodais yn fy natganiad, cynghorir rhieni sy'n amau bod gan eu plant y dwymyn goch i gysylltu â'u meddyg teulu neu gysylltu ag 111. Mae'r cyfleusterau hynny ar gael ac mae pobl yn eu defnyddio. Byddwn yn awgrymu ar hyn o bryd na ddylent fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys, oni bai eu bod yn cael eu cyfeirio gan 111 neu eu meddyg teulu.
Baroness Mair Eluned Morgan: Rwy'n credu ei fod yn bwysig, rydym yn amlwg wedi rhoi llawer o gyllid ychwanegol i 111. Yn amlwg, fel y dywedwch, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn rhedeg allan o'r gwrthfiotigau hynny. Rydym yn credu bod hyn wedi digwydd, o bosibl, oherwydd diffyg cymysgu cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yr hyn rydym yn ei weld nawr yw nifer o achosion o'r...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, Public Health Wales sy'n arwain ar wneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Dwi wedi cysylltu â nhw heddiw, jest i ofyn iddyn nhw symleiddio'r iaith, achos dwi'n meddwl, ambell waith, mae'n mynd yn rhy dechnegol. Mae pobl yn camddeall efallai'r gwahaniaeth rhwng beth yw strep A a iGAS, ac mae pobl yn defnyddio termau nad yw'r cyhoedd yn eu deall. Felly, dwi...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. A gaf fi ychwanegu fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r teulu sydd wedi colli plentyn yn ddiweddar? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pryder gwirioneddol llawer o rieni heddiw oherwydd y cynnydd a welwn mewn achosion o strep A yn ein cymunedau. Cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor i ysgolion a meithrinfeydd ddiwedd mis Tachwedd. Dylai staff fod yn ymwybodol...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae heintiau strep A yn achosi nifer o afiechydon plentyndod cyffredin. Nid yw'n anarferol gweld achosion yn gysylltiedig â meithrinfeydd ac ysgolion. Mae meithrinfeydd ac ysgolion wedi cael arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae rhieni plant sâl yn cael eu cynghori i ofyn am gyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Rwyf am roi sicrwydd i chi y bydd y fwrsariaeth nyrsio'n parhau. Hoffwn bwysleisio mai'r hyn sydd ei angen arnom yw setliad ariannu teg gan Lywodraeth y DU, un sy'n cydnabod gwaith caled holl staff ein GIG a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus ac sy'n eu gwobrwyo'n deg am y swyddi y maent yn eu gwneud. Rwy'n achub ar y cyfle hwn eto i erfyn ar Lywodraeth y DU i ystyried yr effaith...
Baroness Mair Eluned Morgan: Na, nid wyf yn gwneud mwy o ymyriadau, os nad oes ots gennych, oherwydd rwy'n gwybod bod y Llywydd yn mynd i fy ngalw i drefn yn fuan iawn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion yn gweithio ar hyn wrth i ni siarad. Mae llawer o waith yn cael ei wneud. Rwy'n credu bod angen i bobl ddeall bod gennym ofyniad cyfreithiol mewn perthynas â lefelau staffio diogel. Os ydych chi'n dweud, 'Peidiwch â defnyddio staff asiantaeth', bydd hynny'n golygu y bydd rhaid inni gau wardiau. Bydd rhaid i wasanaethau damweiniau ac achosion brys...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wrth gwrs.
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, i fod yn hollol glir, mae'r pwysau'n llawer mwy na hynny. Nid tanwariant yw hyn eleni. Mae'n bryd inni agor ein llygaid. Fe ddywedaf wrthych faint yn ychwanegol y bu'n rhaid imi ddod o hyd iddo mewn toriadau eleni yng nghyllideb y GIG. Toriadau ydyw. Rydym wedi gorwario'n helaeth.
Baroness Mair Eluned Morgan: Na, gallaf ddweud wrthych nad oes cyllid heb ei ddyrannu. Ni allaf fynd ymhellach na hynny. Gallaf ddweud wrthych faint drosodd—. Rwy'n credu y gallwn gael y wybodaeth honno i chi.
Baroness Mair Eluned Morgan: Na, nid wyf am ildio eto.
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r gyllideb atodol yn mynd i ddod allan yn fuan iawn, ac fe gewch chi'r holl fanylion yn y fan honno. Fe welwch effaith pwysau chwyddiant, ac mae'n bell y tu hwnt i unrhyw beth a oedd yn y cyllid heb ei ddyrannu yr edrychoch chi arno ym mis Mehefin. Mae angen pob ceiniog o'n cyllideb. Ond hyd yn oed pe bai gennym danwariant, gadewch inni fod yn glir na ellid defnyddio hwnnw i ariannu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Gwnaf, rwy'n hapus i ildio.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau ein bod yn cydnabod yn llwyr pam fod cymaint o nyrsys wedi pleidleisio dros weithredu diwydiannol am y tro cyntaf yn hanes y Coleg Nyrsio Brenhinol. Credwn y dylai nyrsys, ynghyd â gweithwyr eraill sy'n gweithio'n galed yn y GIG a'r sector gyhoeddus, gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Mae nyrsys, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol,...
Baroness Mair Eluned Morgan: Yn ffurfiol.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Hoffwn longyfarch y staff ar y gwaith aruthrol a wnaed i drawsnewid yr adran hon. Mae'n rhyfeddol yn wir; mae'r arweinyddiaeth wedi cael ei thrawsnewid go iawn. A hoffwn dalu teyrnged hefyd i ddewrder y mamau sydd wedi ein helpu'n fawr wrth inni ystyried pa newidiadau roedd angen eu rhoi ar waith. Felly, diolch enfawr iddynt hwythau, ac mae'n wirioneddol—. Mae arnaf ofn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Ar 7 Tachwedd, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sylweddol a gyflawnwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar wella ei wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ers 2019. Mae'r bwrdd iechyd yn cynnal y ffocws ar sicrhau gwelliannau cynaliadwy pellach mewn arweinyddiaeth, diwylliant ac integreiddio gwasanaethau.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n barod iawn i gael golwg ar beth yw'r cyfleoedd a'r manteision o wneud hynny. Fel y dywedaf, cyfarfûm â Choleg Brenhinol y Bydwragedd heddiw, a'r un peth rwy'n ymwybodol iawn ohono, os ydych yn ei gael yn anghywir gyda mamolaeth, yw bod y costau'n gwbl anferthol. Felly, mae'n fuddsoddiad inni sicrhau nad ydym yn ei gael yn anghywir, oherwydd, os ydym yn ei gael yn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n gwybod bod problem wedi bod gyda rhestrau aros awtistiaeth ers peth amser yn ardal Hywel Dda. Mae yna gynlluniau ar y gweill, wrth gwrs, ac rydym wedi cael yr adolygiad o gapasiti, sydd wedi nodi'n union beth sydd angen inni ei roi ar waith. Os nad oes ots gennych, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn i'm cyd-Aelod Julie Morgan, sy'n gyfrifol am awtistiaeth, roi...