Canlyniadau 201–220 o 800 ar gyfer speaker:John Griffiths

6. Datganiadau 90 Eiliad (10 Chw 2021)

John Griffiths: Yr wythnos hon yw Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr y DU. Hon yw'r unfed flwyddyn ar hugain ers iddi gael ei sefydlu, a'i nod yw dathlu effaith myfyrwyr sy'n gwirfoddoli ac annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn bywyd dinesig. Heddiw, fel cadeirydd y grŵp hollbleidiol ar addysg bellach, hoffwn rannu stori a gafodd ei dwyn i fy sylw gan ColegauCymru—stori un cyn-ddysgwr yng Ngrŵp Llandrillo Menai....

10. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2021-2022 ( 9 Chw 2021)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fe wnaethom ni gyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft yr wythnos diwethaf. Pan siaradais y llynedd yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft, neu yn hytrach pan siaradais ddiwethaf am y gyllideb ddrafft hon ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, canolbwyntiais ar...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 ( 9 Chw 2021)

John Griffiths: Gweinidog, roeddwn mewn cyfarfod neithiwr yn Y Tŷ Cymunedol yn ardal Maendy yn Nwyrain Casnewydd, sydd â nifer o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan yn ei weithgareddau yn rheolaidd. Cafwyd cyflwyniad ar y rhaglen frechu, ynghylch amharodrwydd rhai o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig i gymryd rhan. Un o'r prif faterion oedd bod y cyflwyniad a gawsom ni gan iechyd y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llacio'r Cyfyngiadau Symud ( 9 Chw 2021)

John Griffiths: Prif Weinidog, mae llawer iawn o bryder yng Nghymru ynghylch effaith y pandemig a'r cyfyngiadau ar blant a phobl ifanc, y gwn eich bod chi'n sicr yn ei rannu. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi o ran y flaenoriaeth o gael ein plant yn ôl i'r ysgol cyn gynted â phosibl, gan ddechrau o bosibl gyda phlant y cyfnod sylfaen. A wnewch chi gytuno hefyd bod angen i ni gael ein pobl ifanc, ein plant, yn...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Clyw fy nghân: ymchwiliad i'r diwydiant cerddoriaeth fyw' ( 3 Chw 2021)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn innau ddiolch i staff y pwyllgor a'r holl dystion a roddodd dystiolaeth inni. Roedd yn waith eithaf sylweddol, ac rwy'n credu ei fod wedi cynhyrchu adroddiad pwysig a sylweddol. Hoffwn gyfeirio at argymhelliad 6 hefyd, a'r angen am strategaeth gerddoriaeth, a fyddai, fel y dywed yr argymhelliad, yn fuddiol iawn y tu allan i Gymru, yn ogystal ag o'i...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol ( 3 Chw 2021)

John Griffiths: Weinidog, mae'n dda gweld cymaint o Aelodau o’r Senedd yn gweithio fel hyrwyddwyr rhywogaethau ac yn gweithio gyda grwpiau bywyd gwyllt. Rwy'n hyrwyddwr rhywogaeth ar gyfer llygoden y dŵr, ac rwy'n falch o ddweud ei bod yn ffynnu ar wastadeddau Gwent, ac mae gwastadeddau Gwent eu hunain yn ein helpu i gyflawni bioamrywiaeth. Fel y gwyddoch, Weinidog, rwy'n cadeirio gweithgor ar wastadeddau...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: Cynnydd o ran Trethi Datganoledig ( 2 Chw 2021)

John Griffiths: Gweinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod wedi bod yn rhwystredig iawn dros flynyddoedd Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan i weld polisïau blaengar Llywodraeth Cymru yn cael eu tanseilio gan y mesurau a gymerwyd yn San Steffan, a pho fwyaf y gallwn ni dynnu pwerau i Gymru, gan gynnwys pwerau trethu, gorau oll fydd sefyllfa Llywodraeth Cymru  i ymateb i'r hyn y mae pobl Cymru yn ei...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 ( 2 Chw 2021)

John Griffiths: Gweinidog, rydym ni'n gwybod bod ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o agored i salwch y feirws, ac mae Llywodraeth Cymru a'i gweithgor wedi gwneud gwaith da iawn yn esbonio a deall ac ymateb i hynny. Mae rhywfaint o bryder ar hyn o bryd y gallai rhai yn ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig fod yn fwy cyndyn o gael y brechlyn na'r boblogaeth yn gyffredinol. Tybed a oes gan Lywodraeth...

5. Penodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Dros Dro (27 Ion 2021)

John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn ac o argymell i'r Senedd y dylid penodi Nick Bennett yn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dros dro am gyfnod o wyth mis. Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn rôl gyhoeddus bwysig. Mae'r penodiad i'r swydd yn arwyddocaol. Yn y materion hyn fel arfer byddai'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cynnal...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19 (26 Ion 2021)

John Griffiths: Gweinidog, mae etholwyr wedi codi materion am y rhaglen frechu gyda mi o ran carcharorion yng ngharchardai Cymru. Nid yw rhai carcharorion sydd yn y pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, a'r grwpiau blaenoriaeth cyntaf sy'n cael eu brechu ar hyn o bryd, wedi cael unrhyw wybodaeth ynghylch pryd y maen nhw'n debygol o gael eu brechu, ac, yn ddealladwy, maen nhw'n meddwl tybed a ydyn nhw wedi cael eu...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (26 Ion 2021)

John Griffiths: Beth yw asesiad y Prif Weinidog o gynnydd y rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (20 Ion 2021)

John Griffiths: Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r modd y darperir triniaeth canser yng Nghymru yn ystod y pandemig?

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau (19 Ion 2021)

John Griffiths: Wrth gwrs, Dirprwy Lywydd. Iawn, mae'r pwyllgor felly yn edrych ymlaen yn fawr at edrych ar y Papur Gwyn yn fanylach dros yr wythnosau nesaf, ac rydym yn croesawu ei gyhoeddi'n fawr iawn. Diolch yn fawr.

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Papur Gwyn ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau (19 Ion 2021)

John Griffiths: A minnau'n Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, croesawaf yn fawr ddatganiad y Gweinidog heddiw, ynghyd â chyhoeddi'r Papur Gwyn yr wythnos diwethaf. Mae'r pwyllgor wedi cymryd diddordeb mawr ym mhob mater sy'n ymwneud â diogelwch tân ers y digwyddiadau erchyll a thrasig hynny yn Grenfell yn 2017, ac yn arbennig rydym ni wedi bod yn pwyso am gyflwyno'r newid...

3. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (19 Ion 2021)

John Griffiths: Mae llawer o gamau gweithredu da wedi'u hawgrymu gan yr Arglwydd Burns a fydd yn cael eu gweithredu gan Lywodraeth Cymru gyda phartneriaid, Dirprwy Weinidog. Gwyddoch, er enghraifft, fod gan yr orsaf reilffordd newydd ym Magwyr gefnogaeth gymunedol dda iawn a'i bod wedi'i chyflwyno ers cryn amser. Felly, credaf fod hynny'n addawol iawn, iawn, a'r gorsafoedd newydd yn Llanwern a Somerton yn yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: COVID-19 yn Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (19 Ion 2021)

John Griffiths: Prif Weinidog, mae'r rhaglen frechu yn hanfodol i achub bywydau, i leihau'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd gwladol, gyda'r holl fanteision sy'n dod yn sgil hynny i wasanaethau iechyd COVID-19 a gwasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID-19, ac o ran caniatáu i gyfyngiadau gael eu lleddfu er mwyn gweld dychweliad gweithgarwch economaidd, ein hysgolion a byw yn fwy normal. Yn ddealladwy, mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: COVID-19 yn Ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (19 Ion 2021)

John Griffiths: 4. Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan? OQ56155

6. Dadl ar ddeisebau sy'n ymwneud â mynediad at gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod cyfyngiadau symud (13 Ion 2021)

John Griffiths: Mae'n sicr yn wir, onid yw, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl wedi dod i sylweddoli a deall o'r newydd beth yw gwerth gweithgarwch corfforol a chwaraeon? Ie, ar gyfer iechyd corfforol, ond, fel mae pobl wedi dweud, ar gyfer iechyd meddwl hefyd, ar gyfer ansawdd bywyd a mwynhad, ac rwyf wedi cael llawer iawn o negeseuon e-bost gan etholwyr sy'n arbennig o bryderus am eu plant. Mae...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Effaith COVID-19 ar Anghydraddoldebau (13 Ion 2021)

John Griffiths: Diolch, Weinidog. Credaf ei bod yn amlwg fod y pandemig wedi cael effaith arbennig ar y rheini a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd mewn sawl ffordd—felly, mae pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig wedi dioddef mwy, o ran iechyd, yn economaidd ac yn gymdeithasol. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawaf y £23 miliwn ar gyfer ehangu'r hawl i brydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau hyd at y Pasg y...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Effaith COVID-19 ar Anghydraddoldebau (13 Ion 2021)

John Griffiths: 1. Pa ddarpariaeth ariannol bellach y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i fynd i'r afael ag effaith COVID-19 ar anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli yng Nghymru? OQ56099


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.