Lesley Griffiths: Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n Weinidog sy'n gwneud llawer o nodiadau. Rwyf i wedi gwneud hynny erioed, ac rwyf i wedi eu dyddio nhw erioed. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn. Ond, rwy'n credu mai'r hyn sydd angen i ni edrych arno o ran llythyr yr archwilydd cyffredinol—. Rwy'n credu ei bod hi'n ddiddorol ei ddarllen. Roedd llawer o bethau positif ynddo, yr wyf i'n siŵr na fyddwch chi'n...
Lesley Griffiths: Gwn fod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi gofyn i'w swyddogion ddechrau'r trafodaethau hynny gyda Llywodraeth y DU. Bydd hi ei hun yn gwneud datganiad i'r Senedd—datganiad ysgrifenedig mae'n debyg, byddwn yn dychmygu. Mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau ac, fel y dywedais, bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyflwyno. Rydych chi yn llygad eich lle, mae gennym ni draddodiad balch iawn....
Lesley Griffiths: Wel, rwy'n gwybod pa gamau y gallech chi eu cymryd, a gallech chi roi rhywfaint o bwysau ar eich Llywodraeth yn San Steffan i gynyddu ein cyllidebau cyfalaf. Nid yw ein cyllidebau cyfalaf wedi cael eu cynyddu gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, rydym ni wedi ymrwymo mwy na £335 miliwn tuag at brosiectau cyfalaf y GIG a gofal cymdeithasol pwysig yn y flwyddyn ariannol hon, a £375 miliwn arall...
Lesley Griffiths: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy'n gyfrifol am gyflwr ei ystad ei hun. Gellir cyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllid cyfalaf ar gyfer blaenoriaethau a aseswyd y bwrdd iechyd, y mae'n rhaid eu hystyried yn erbyn cefndir pwysau cyfalaf sylweddol ar draws GIG Cymru.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r tasglu'n cynnwys Llywodraeth Cymru, cyngor Ynys Môn, Llywodraeth y DU, yr Adran Gwaith a Phensiynau, y cwmni ei hun ac undeb llafur Unite. Bydd dwy ran iddo: bydd grŵp arweinyddiaeth, a fydd yn amlwg yn cael y mewnbwn gweinidogol, ac yna bydd grŵp gweithredol, a fydd ar lefel swyddogol. Ac mae hynny i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo yn gyflym. Rwy'n credu ei bod hi'n...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod 2 Sisters Poultry Ltd yn mynnu ei fod yn ymgynghoriad ystyrlon ac nad oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud. Ond, rwy'n credu eich bod chi yn llygad eich lle—mae angen i ni, yn amlwg, baratoi ar gyfer y gwaethaf. Fel y dywedais, nid oedd gennym ni unrhyw wybodaeth ymlaen llaw am hynny. Rwy'n credu y byddai wedi bod o gymorth pe baem ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth...
Lesley Griffiths: Diolch. Nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw wybodaeth o flaen llaw am gyhoeddi ymgynghoriad y 2 Sisters Food Group. Rydym ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo'r bobl yr effeithir arnyn nhw a sicrhau bod pob parti yn cydweithio i sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer yr economi leol.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n siomedig o glywed eich siom, Mabon, oherwydd, fel y dywedais i, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae dros 80 y cant o fuchesi wedi cael eu profi trwy'r cynllun gwirfoddol. Ac er bod galwad wedi bod am ddeddfwriaeth, fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni'r dystiolaeth honno oedd ei hangen i fwrw ymlaen â'r...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad y prynhawn yma a'r cyhoeddiadau ynghylch dileu BVD a'r clafr. Rwy'n credu, o ran BVD, y bu'n dda rhoi rhywfaint o amser sylweddol i'r cynllun gwirfoddol. Rwy'n credu bod galw gwirioneddol wedi bod i fynd am ddeddfwriaeth, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn nad oedd y sector ei eisiau oedd colli'r enillion a wnaed. Yn amlwg,...
Lesley Griffiths: Un o brif egwyddorion fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio mor llwyddiannus. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y partneriaid cyflawni milfeddygol a'r llawfeddygon a helpodd i gyflawni'r cynllun hwn ar lawr gwlad. Yn dilyn llwyddiant y cynllun Gwaredu BVD, sy'n cael ei...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae effaith negyddol dolur rhydd feirysol buchol, BVD, a'r clafr ar les anifeiliaid a chynaliadwyedd ein ffermydd gwartheg a defaid yn destun pryder mawr. Ni allaf bwysleisio digon bwysigrwydd bod ein sector da byw yn bwrw ymlaen a chydweithio i ddileu'r ddau glefyd hyn o Gymru. Mae rheoli, yn lleol ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, a dileu BVD a'r clafr yn flaenoriaethau...
Lesley Griffiths: Rwy'n deall bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn ymwybodol o'ch pryderon ac yn rhannu'r farn bod gwir angen sicrhau'r buddsoddiad mwyaf posibl mewn safleoedd newydd a gwelliannau i safleoedd sy'n bodoli eisoes. Rwy'n deall bod swyddogion y Gweinidog wedi cwrdd â thrigolion ar safleoedd yn y gogledd ddiwedd y llynedd, a bod ymgysylltu'n mynd rhagddo ledled Cymru dros y misoedd nesaf....
Lesley Griffiths: Unwaith eto, mae'r Aelod yn gofyn i mi am ddatganiad ar ardal, mewn gwirionedd, mae hynny—. Nid ein rôl ni yw dweud wrth Gyngor Sir Ddinbych sut i atgyweirio eu tyllau yn y ffordd na sut mae ail-flaenoriaethu ei gyllideb; eu cyfrifoldeb nhw yw hynny. Maen nhw'n ateb i'r boblogaeth leol, ac mae'n fater iddyn nhw yn llwyr.
Lesley Griffiths: Diolch, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae hwn yn fater pwysig iawn, ac yn amlwg mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fel y dywedoch chi, wedi dangos arweiniad go iawn mewn cysylltiad â hyn. Soniais mewn ateb cynharach iddi gyfarfod ag Ofgem ddoe—rwy'n credu eich bod wedi eu cyfarfod sawl gwaith o'r blaen—yn ogystal â chyflenwyr ynni, i wir fynegi ei phryderon difrifol ynghylch y...
Lesley Griffiths: Wel, rwy'n credu bod eich ail gais yn 'na' ar ei ben. Yn sicr, nid yw'r Dirprwy Weinidog yn mynd i ddod i siarad ynghylch sut mae'n cosbi gyrwyr neu berchnogion ceir. Y peth pwysicaf—rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cydnabod hyn—yw ein bod ni'n wynebu'r argyfwng hinsawdd nad yw ar y ffordd ond sydd yma nawr. O ran eich cais cyntaf, mae pob bwrdd iechyd yn adrodd ar ystadau a rheoli...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cytuno'n llwyr â chi ar y mater sylweddol rydych chi'n ei godi. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael sawl cyfarfod gyda chwmnïau ynni a hefyd gydag Ofgem. Rwy'n credu mai'r tro diwethaf i ni gwrdd ag Ofgem oedd ddoe, pryd y cododd y mater hwn gyda nhw. Rydym yn credu na ddylai fod unrhyw daliadau...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol eisoes yn gwneud hynny. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU heddiw, i Grant Shapps, gan wneud y pwynt hwnnw. Bydd y Gweinidog yn rhannu'r llythyr hwnnw gyda ni, a gobeithio pan fydd hi'n cael ymateb bydd hi hefyd yn rhannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n siŵr bod llawer ohonom wedi coffáu Diwrnod Cofio'r Holocost. Roeddwn i'n ffodus iawn i fod â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn fy etholaeth, ac fe aethon ni i ddigwyddiad gyda'n gilydd. Ar y pwynt a godwyd gennych, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu diffiniad IHRA fel diffiniad gwaith, fel y gwyddoch chi, mater i bob prifysgol yw ei fabwysiadu wedyn. Gwn fod y...
Lesley Griffiths: Rydych chi'n hollol gywir, dim ond y cam cyntaf yw'r cyllid, mewn gwirionedd, o uchelgais llinell cledrau croesi Caerdydd. Felly, fel Llywodraeth, byddwn ni'n parhau i weithio gyda Chyngor Caerdydd a Trafnidiaeth Cymru. Fe fyddwch chi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd ym mhob rhan...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Does dim newidiadau i'r busnes yr wythnos hon. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.