Joyce Watson: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog cyllid am ba gymorth sydd ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd prynu olew gwresogi ar hyn o bryd? Yr wythnos diwethaf, gwnaeth pris cyfartalog olew gwresogi fesul litr gyrraedd £1.55, i fyny o 67c sydd eisoes yn uchel, ychydig wythnosau'n ôl, ac mae hynny tua phedair gwaith yn uwch na'r pris fis Mawrth diwethaf, a hyd yn oed os gallwch...
Joyce Watson: Rwy'n falch o glywed hynny, fel y bydd pobl ledled Cymru, oherwydd maent yn awyddus iawn i gynnig noddfa. Maent yn awyddus iawn i helpu pobl sy'n ffoi rhag yr erchylltra hwn. A phwy yw'r bobl y siaradwn amdanynt? Menywod, plant, yr oedrannus. Ac fel y dywedodd Alun, pan fyddwch yn ffoi am eich bywyd, nid ydych yn chwilio drwy ddrôr i ddod o hyd i basbort neu dystysgrif geni, a chredaf y...
Joyce Watson: Newydd ddechrau ydw i, arhoswch funud. [Chwerthin.] Er mwyn popeth, dim ond munud. Mae'r polisi presennol—unwaith eto, nid fy ngeiriau i—yn ôl rhai o'ch cyd-bleidwyr yn San Steffan, yn dwyn gwarth ar hanes, enw da a greddfau hael y wlad hon. Dim ond y rheini sydd â theulu yn y DU sy'n cael fisâu ac nid yw'r cynllun i fusnesau ac unigolion noddi ffoaduriaid wedi'i sefydlu eto hyd yn...
Joyce Watson: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon, ond rwy'n eu hannog hefyd i ymuno â rhai o Aelodau Ceidwadol y meinciau cefn yn San Steffan i fynnu bod San Steffan yn cyflymu ac yn llacio rheolau fisa i bobl sy'n ffoi rhag ymosodiad Rwsia—
Joyce Watson: Diolch am eich ateb. Mae diwydiant amaethyddol Cymru, wrth gwrs, yn wynebu dyfodol ansicr wedi i gytundeb masnach rydd Awstralia gael ei gymeradwyo fis Rhagfyr diwethaf. Rwyf wedi sôn sawl tro yn y Siambr hon fy mod yn credu bod perygl i'r cytundeb hwnnw ostwng safonau lles yma yng Nghymru a gweddill y DU. Gallai mewnforio cynhyrchion â safonau lles is yn ddigyfyngiad o wledydd fel...
Joyce Watson: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun ffermio cynaliadwy? OQ57759
Joyce Watson: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau i dderbyn ffoaduriaid o Wcráin, yn dilyn ei chyfarfod ag arweinwyr llywodraeth leol?
Joyce Watson: Fel arfer, byddwn i'n myfyrio ar—. Hoffwn i fyfyrio ar thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, sef chwalu'r rhagfarn, ac rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn helpu i frwydro yn erbyn y rhagfarn ym maes gofal iechyd, gyda chyhoeddiad heddiw am nyrsys arbenigol endometriosis. Mae'n gyflwr difrifol sy'n newid bywydau sy'n effeithio ar un o bob 10 menyw, ac mae'n haeddu cael ei drin...
Joyce Watson: Prif Weinidog, mae ymateb graddol wedi'i arwain gan wyddoniaeth Llywodraeth Cymru i'r pandemig wedi cael ei gefnogi gan fwyafrif y bobl yng Nghymru. Pa mor ffyddiog ydych chi o allu Cymru i barhau i fabwysiadu'r dull hwnnw, a pha asesiad ydych chi wedi ei wneud o'r effaith y gallai gweithredoedd Llywodraeth y DU ei chael ar hynny?
Joyce Watson: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o adfer yn dilyn COVID-19 yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ57774
Joyce Watson: Rwy’n ddiolchgar am gael cymryd rhan yn y cwestiwn hwn, a diolch i Mabon am ei ofyn. Yn wahanol i Samuel Kurtz, a fydd yn ceisio amddiffyn yr anghyfiawnadwy, ac sydd wedi llyncu, yn amlwg, y llyfr bach du neu beth bynnag a roddwyd iddo i wneud hynny, nid wyf yn teimlo mor sicr, ac rwy'n siŵr na fydd y ffermwyr yn fy ardal a'i ardal yntau'n teimlo mor sicr ychwaith. Mae'n ffaith—gadewch...
Joyce Watson: Galwaf ar Laura Anne Jones i ymateb i'r ddadl.
Joyce Watson: A wnewch chi dynnu tua'r terfyn?
Joyce Watson: Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans.
Joyce Watson: Mae'n swnllyd iawn acw. Galwaf yn awr ar y siaradwr olaf, Janet Finch-Saunders.
Joyce Watson: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Joyce Watson: Mae eich amser ar ben yn awr. A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben yn awr?
Joyce Watson: Cofiwch fod y bobl sy'n mynd dros yr amser yn mynd ag amser oddi wrth y lleill sydd am gyfrannu. Galwaf ar Carolyn Thomas yn awr.
Joyce Watson: Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths, yn ffurfiol.
Joyce Watson: Y cynnig felly yw cytuno i nodi'r ddeiseb. A oes unrhyw un yn gwrthwynebu? Nac oes. Iawn.