Llyr Gruffydd: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lefelau'r nifer sydd yn pleidleisio mewn etholiadau lleol?
Llyr Gruffydd: Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Dwi ddim eisiau cael fy nhynnu mewn i ryw ddadl ynglŷn â pha ochr i'r ffin sy'n talu'n fwyaf neu'n talu'n lleiaf; y cwestiwn dwi eisiau ei ateb yn y Siambr yma yw: pa ochr o'r ffin sydd â'r gyfundrefn decaf, a'r gyfundrefn sydd yn cael ei gweithredu'n fwyaf effeithiol? A doed a ddelo wedyn beth yw'r gost, cyhyd â bod pobl yn teimlo eu bod nhw'n cael eu...
Llyr Gruffydd: Mi fethwyd cyfle, do, achos fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig ddim byd, er enghraifft, yn natganiad y gwanwyn i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod Cymru'n cael ei tharo'n galetach yn hynny o beth gan fod gennym ni stoc dai llai effeithlon o ran ynni. Mae gennym ni hefyd mwy o gartrefi oddi ar y grid, ac, wrth gwrs, rŷn ni yng Nghymru yn talu cyfraddau...
Llyr Gruffydd: Mae'n rhaid imi ddweud, neithiwr oedd y profiad gwaethaf, mwyaf erchyll dwi erioed wedi ei gael o ddefnyddio trên yng Nghymru. Roedd y siwrnai, oedd i fod yn dair awr, yn siwrnai o saith awr. Buodd fy nhrên i yn llonydd am bedair awr: un trên; dwi'n gwybod am bedwar trên oedd yn yr un sefyllfa. Dim gwybodaeth, achos doedd yr uchelseinydd yn fy ngherbyd i ddim yn gweithio. Dyna gyflwr y...
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Datganiad y Gwanwyn 2022 gan y Canghellor i Gymru? OQ57906
Llyr Gruffydd: Mi wnaeth adolygiad Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd yn Chwefror 2020, wrth gwrs, amlygu bod angen rhyw 60 neu 70 o staff uwchben y waelodlin staffio a oedd ganddyn nhw ar yr adeg hynny er mwyn sicrhau gwelliannau cynaliadwy, hirdymor i'r gwasanaeth rheoli llifogydd. Nawr, mi wnaeth y Llywodraeth, er tegwch, ddarparu'r ariannu hynny ar drefniant dros dro. Mi godais i gyda'r Prif Weinidog...
Llyr Gruffydd: Gadewch inni gofio mai pwerau disgresiwn rŷn ni'n sôn amdanyn nhw fan hyn—peidiwch ag anghofio hynny. Pwerau disgresiwn sydd fan hyn, nid gorchymyn yn dweud, 'Defnyddiwch y pwerau yma', neu, 'Mae'n rhaid ichi roi'r pwerau yma ar waith.' Un elfen yw hon mewn ystod llawer ehangach o arfau posib y bydd ein hawdurdodau lleol ni yn gallu eu defnyddio. Mae'n rhaid ichi beidio ag edrych ar hwn...
Llyr Gruffydd: Yr hawl i brynu yw rhan o'r rheswm ein bod ni yma'n trafod hyn, a bod yn onest.
Llyr Gruffydd: Bydd y Senedd yn ymwybodol, wrth gwrs, fod Plaid Cymru wedi gwrthwynebu creu'r cyd-bwyllgorau corfforaethol yma nôl yn y Senedd ddiwethaf. Mae honno'n frwydr y gwnaethon ni ei cholli, wrth gwrs, ac felly os yw'r cyd-bwyllgorau yma am ddod i fodolaeth, yna mae angen iddyn nhw fod yn atebol i'r un safonau a disgwyliadau ag awdurdodau lleol, ac yn enwedig o ran safonau cod ymddygiad. Felly,...
Llyr Gruffydd: O, datganiad yw hwn. Mae'n ddrwg gen i.
Llyr Gruffydd: Rwyf i hefyd yn dymuno ailadrodd pwynt y pwyllgor am dryloywder gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae'n siarâd rheolaidd, onid yw, gan Lywodraeth y DU yn bennaf, pan fyddan nhw'n cyhoeddi cyllid ychwanegol, maen nhw'n rhoi mwy o arian, ond, fel y gwyddom ni, maen nhw hefyd yn cymryd gyda'r llaw arall yn aml iawn. Ond mae'r dryswch cyson hwn yr ydym yn ei wynebu ynghylch p'un a yw...
Llyr Gruffydd: Dwi, wrth gwrs, yn awyddus i groesawu unrhyw ddyraniadau ychwanegol sydd yn y gyllideb atodol, er fy mod i'n rhannu rhai o'r sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y siaradwr blaenorol, a hefyd gan Gadeirydd y pwyllgor, yn enwedig sicrhau bod modd dangos y gwerth mae'r buddsoddiadau yna'n dod â nhw, o safbwynt, efallai, targedau neu'r impact maen nhw'n eu cael ar y gwahanol feysydd lle mae'r...
Llyr Gruffydd: Ac mae'r wobr yna o ddegau o filoedd o swyddi ychwanegol, wrth gwrs, yn medru digwydd heb wario pres ychwanegol, oherwydd mae'n bres rŷn ni'n gwario ar gaffael yn barod, ond mae yna fodd i'w wario fe mewn ffordd wahanol. Felly, dwi'n croesawu'r ffaith bod hyn yn cael ei edrych arno o ddifrif. Ond nid dim ond buddion economaidd, wrth gwrs, sy'n dod yn sgil cryfhau a gwella polisi caffael; mae...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod, dwi'n siwr, fod pob 1 y cant yn ychwanegol o werth caffael cyhoeddus sydd yn aros yng Nghymru yn gyfwerth â 2,000 o swyddi newydd, a dyna pam roedd maniffesto Plaid Cymru, wrth gwrs, eisiau gweld cynnydd, o'r 52 y cant o'r gwerth yna sy'n aros yng Nghymru ar hyn o bryd i 75 y cant, fel bod hynny, wrth gwrs, yn ei dro, yn creu...
Llyr Gruffydd: Rwyf innau hefyd eisiau cychwyn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma yn y man dyledus, sef i ddiolch i gynghorau, i gynghorwyr ac i swyddogion a staff yr awdurdodau lleol am y gwaith aruthrol maen nhw wedi'i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw wedi profi, os oedd angen profi efallai—dwi ddim yn meddwl bod—pwysigrwydd yr haen yna o lywodraethiant, yr haen agosaf efallai i'r ffas lo. Mi...
Llyr Gruffydd: Mae'r gyllideb yma yn cyflawni ar nifer o brif addewidion Plaid Cymru o'n maniffesto diweddar ni. Dau gan miliwn o bunnau yn y gyllideb i sicrhau bod prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ac mae hynny'n cynnwys dros £20 miliwn yn ychwanegol i estyn prydau ysgol am ddim dros wyliau'r haf eleni. Chwedeg miliwn o bunnau i ddechrau estyn gofal plant i blant dwy flwydd oed. Dros £100...
Llyr Gruffydd: Dim ond ychydig o sylwadau byr am y broses efallai i ddechrau. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y gyllideb yn dychwelyd i'w hamserlen arferol o wyth wythnos eistedd o graffu. Nid ydym wedi cael hynny ers amser maith, ac rwy'n credu nad yw'r cyfnodau craffu byrrach hyn yn helpu mewn gwirionedd. A gwnaf i'r pwynt eto: mae ymatebion gweinidogol i adroddiadau pwyllgorau ar y...
Llyr Gruffydd: Fyddwn ninnau chwaith ddim yn gwrthwynebu'r cynnig yma, ac ar hyd yr un trywydd, dwi innau hefyd yn gofyn am well eglurder, a dweud y gwir, ynglŷn â bwriad y Llywodraeth fan hyn, oherwydd mi wnaethoch chi yn y Senedd ddiwethaf, wrth gwrs, wrthod amrywio trethi am weddill y Senedd, fel roeddech chi'n dweud bryd hynny. Nawr, fel rŷn ni wedi clywed, rŷch chi'n dweud na fyddwch chi yn amrywio...
Llyr Gruffydd: Fe hoffwn i ddweud ychydig am ein staff profi, olrhain a diogelu sydd wedi bod â rhan enfawr yn yr ymdrech i'n cadw ni'n ddiogel dros y blynyddoedd diwethaf. Maen nhw'n cael eu taflu ar y domen nawr ar yr hyn sy'n ymddangos fel y nesaf peth i ddim rhybudd. Fe wn i am weithwyr, er enghraifft, sydd newydd gael 48 awr o rybudd bod eu horiau nhw'n cael eu torri. Roedden nhw'n gwneud gwaith, a...
Llyr Gruffydd: Rŷn ni yn clywed nawr, wrth gwrs, fod yna gymorth dyngarol sydd fod i fynd i Wcráin yn styc ar ffin y Deyrnas Unedig oherwydd y tâp coch ychwanegol i allforio nwyddau yn sgil Brexit. Nawr, yn ôl yr elusennau sy'n cael eu heffeithio, maen nhw'n dweud bod angen nawr gwaith papur ychwanegol am mai rhoddion sy'n cael eu cludo ac nid nwyddau sy'n mynd i gael eu gwerthu ymlaen ar ôl croesi'r...