Canlyniadau 201–220 o 50000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford OR speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gofal Sylfaenol (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Yn rhan gyntaf tymor y Senedd hon, rydyn ni wrthi'n cytuno ar gytundebau newydd, diwygiedig gyda phob un o'r pedair cangen o ofal sylfaenol ledled Cymru. Ein blaenoriaeth yw sicrhau'r gwerth mwyaf posibl o'r contractau hynny i gleifion, o ran mynediad, cynaliadwyedd gwasanaethau ac ansawdd gofal.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Gwledig (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wrth gwrs, Llywydd, dwi'n cydnabod bod yna ffactorau sy'n unigryw i bobl sy'n byw yng nghefn gwlad, a gallaf gytuno â beth ddywedodd yr Aelod: ambell waith, mae'n anodd gweld tlodi mewn rhai cymunedau gwledig. Wrth gwrs, mae pob rhan o Gymru yn wynebu sialens ar hyn o bryd—pa un ai eich bod chi'n byw yn y Cymoedd, eich bod chi'n byw yng nghanol Caerdydd, mae sialensau unigryw i'w cael ym...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi Gwledig (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, eleni rydyn ni’n darparu cymorth gwerth £1.6 biliwn drwy raglenni sy’n diogelu cartrefi difreintiedig. Yn benodol, rydyn ni’n rhoi cymorth i gartrefi yng nghefn gwlad nad ydyn nhw ar y grid, buddsoddi mewn mentrau bwyd cymunedol a darparu canolfannau clyd. Mae hyn yn helpu pobl sy’n ei chael hi’n anodd talu costau bwyd a chadw’n gynnes.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dechrau'n Deg (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n dal i gael fy rhyfeddu bod Aelod Ceidwadol yn fodlon sefyll i fyny yma a beirniadu'r twf mewn tlodi plant pan fo'i Lywodraeth ei hun—ei Lywodraeth ei hun—yn cyhoeddi dogfennau ochr yn ochr â'u cyllideb yn dweud y bydd y camau y maen nhw wedi eu cymryd yn arwain yn uniongyrchol—yn uniongyrchol—at filoedd ar filoedd yn fwy o blant ledled y Deyrnas Unedig yn byw mewn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dechrau'n Deg (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges, Llywydd, am y gwaith ardderchog sydd wedi cael ei wneud gan raglen Dechrau'n Deg, ac mae'n un o fanteision datganoli ein bod ni wedi gallu cynnal y rhaglen honno bellach am gyfnod a fydd yn 20 mlynedd cyn bo hir. Ac wrth gwrs mae ei ehangu'n rhan o'r cytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru, ac rydyn ni eisoes wedi gweld ffrwyth hynny—2,000 yn fwy o blant...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dechrau'n Deg (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar flaenllaw Llywodraeth Cymru. Mae'n parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig, ac rydym ni wedi ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi'r rhaglen drwy gydol tymor y Llywodraeth hon.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac oherwydd y pwyntiau hynny'n union, bydd hwn yn ysbyty cymunedol lle bydd gofal cymdeithasol yn rhan bwysig iawn o'r cyd-destun y mae'n gweithio ynddo, a gofynnwyd i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol ystyried y prosiect. Felly, rwy'n cytuno gyda'r pwynt a wnaeth hi yn y fan yna.  O ran y pwyntiau terfyn benthyg, byddwn wedi gobeithio...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, diolch i Darren Millar am y ffordd y gofynnodd y cwestiwn yna ac am ei gydnabyddiaeth o'r cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r cynllun ynddo. Rwy'n awyddus i'w sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud yn uniongyrchol â hyn i gyd. Cyfarfu'r Gweinidog iechyd ei hun gyda'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Cytunodd y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cefnogi uchelgais y bwrdd iechyd lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Mae costau cynyddol a chyllidebau cyfalaf sy'n lleihau yn golygu bod yn rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun buddsoddiadau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y gogledd yn gyfan gwbl.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Mae cyfres o gwestiynau yn y fan yna, Llywydd, ac fe wnaf i geisio rhoi sylw i gynifer ag y gallaf. Ar y cwestiwn mwyaf oll, rwy'n cytuno ag arweinydd Plaid Cymru; rwy'n credu bod penderfyniad Llywodraeth y DU i ddefnyddio pwerau sydd erioed wedi cael eu defnyddio yn holl hanes datganoli yn foment beryglus iawn, ac rwy'n cytuno â Phrif Weinidog yr Alban y gallai hwn fod yn llethr llithrig...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, y peth cyntaf yr wyf i eisiau ei wneud yw talu teyrnged i waith staff asiantaeth. Rwy'n poeni am gywair rhywfaint o'r drafodaeth hon sy'n awgrymu, rywsut, mai staff asiantaeth yw'r broblem yn y GIG. Mae'r GIG yn dibynnu'n llwyr ar staff asiantaeth. Felly, nid wyf i'n dweud bod arweinydd Plaid Cymru wedi ei wneud, ond rwy'n clywed yn y drafodaeth ehangach rhyw fath o synnwyr fod staff...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, yn gyntaf oll, ar hyn, rydym ni'n llwyr gydnabod yr effaith y mae degawd o gyni cyllidol wedi ei chael ar becynnau cyflog gweithwyr yn y sector cyhoeddus. Maen nhw'n cael llai o dâl mewn termau real heddiw nag yr oedden nhw 10 mlynedd yn ôl, ac mae effaith chwyddiant wedi cynyddu'r effaith honno ym mywydau teuluoedd mewn sawl rhan o Gymru. Felly, wrth gwrs rydyn ni'n deall pam mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, byddwch chi'n gweld y cyfrifon ym mis Mawrth, pan fyddan nhw bob amser yn cael eu cyhoeddi. Byddan nhw'n cael eu cyhoeddi ym mis Mawrth 2023. Maen nhw'n cael eu cyhoeddi bob—. Nid fy mhroblem i yw'r ffaith nad yw'r Aelod yn gallu dod o hyd iddyn nhw. [Chwerthin.] Mae angen iddo gyflogi pobl i wneud ei waith ymchwil iddo felly. Dywedaf hyn wrth y Siambr, Llywydd: mae'r maes awyr yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, nid yw'r Blaid Geidwadol Gymreig erioed wedi cefnogi'r maes awyr. Mae wedi gwneud ei gorau erioed i fychanu ei siawns o lwyddo. Nid ydyn nhw byth yn hoffi wynebu eu cyfrifoldebau eu hunain, Llywydd. Dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Senedd, rwyf i wedi clywed llefarwyr y Ceidwadwyr yma yn cwyno am y maes awyr, yn awgrymu na ddylid fod wedi ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, rwyf i wedi credu erioed bod maes awyr rhanbarthol yn rhan hanfodol o seilwaith economaidd unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig sy'n ceisio cefnogi'r amodau modern y mae'n rhaid i'r economi weithredu oddi ynddyn nhw. Nid oedd y sector preifat yn gallu gwneud hynny. Roedd hi'n iawn i bwrs y wlad gamu i'r adwy. Mae'n fuddsoddiad yn nyfodol economi Cymru, ac yn un yr oedd y Llywodraeth hon yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoli Cymhorthdaliadau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Mae Alun Davies yn gwneud nifer o bwyntiau grymus iawn yn y fan yna. Dylwn atgoffa Aelodau'r Senedd bod y Senedd hon, wrth gwrs, wedi gwadu caniatâd deddfwriaethol i Fil y DU ar 1 Mawrth y llynedd, ac yna diystyrwyd confensiwn Sewel ac anwybyddwyd diffyg cydsyniad y Senedd hon gan Lywodraeth y DU a aeth ymlaen a gorfodi'r ateb hwn arnom ni beth bynnag. Dyma ddwy ffordd yn unig, Llywydd, y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoli Cymhorthdaliadau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'r drefn cymorthdaliadau newydd eisoes yn weithredol; daeth i rym ar 5 Ionawr. Yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o fanylion yr achos unigol y mae Joel James yn ei grybwyll, ond ni fyddwn yn synnu o ddarganfod bod cymhlethdodau newydd y drefn cymorthdaliadau yn chwarae eu rhan mewn unrhyw oedi oherwydd, am y tro cyntaf erioed, cyflwynodd y system, trwy gyflwyno cymorthdaliadau o fewn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoli Cymhorthdaliadau (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Llywydd, nid trefn cymorthdaliadau'r DU yw'r drefn y byddai Llywodraeth Cymru wedi'i dylunio, ac nid yw chwaith yn un a gefnogwyd gan y Senedd hon. Fodd bynnag, byddwn yn gweithio gydag awdurdodau cyhoeddus i baratoi staff i ddeall a defnyddio'r drefn newydd, gan liniaru ei agweddau amherffaith niferus.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n credu eu bod nhw'n ddau bwynt pwysig iawn a wnaed yn y fan yna gan Huw Irranca-Davies. Mae angen i ni ddysgu gwersi ynni adnewyddadwy blaenorol. Nid oes strategaeth ddiwydiannol ynni gwynt ar y môr gan Lywodraeth y DU o hyd, er gwaethaf y ffaith ein bod ni wedi bod yn galw am un, a bod eraill yn y diwydiant wedi bod yn galw am un. Mae gennym ni bryderon, yn y ddibyniaeth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prosiectau Ynni Adnewyddadwy (17 Ion 2023)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi fod yn ofalus yn yr hyn yr wyf i'n ei ddweud, oherwydd mae proses ac mae ceisiadau yn cael eu hasesu'n wrthrychol, fel y mae'n rhaid iddyn nhw, gan weision sifil yma yng Nghymru ac yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Hoffwn atgoffa'r Aelodau nad yw'r cytundeb a darwyd gennym ni gyda Llywodraeth y DU yn diystyru cael dau borthladd rhydd yma yng...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.