Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Yr un cyntaf yw datganiad ar gladin a'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd Llywodraeth Cymru ar y mater hwn. Mae hwn yn fater pwysig i fy etholwyr sy'n byw yn Copper Quarter yn SA1. Rwy'n derbyn ceisiadau am yr wybodaeth ddiweddaraf, gan gynnwys amserlen o ran pryd y bydd yr adolygiad cladin wedi'i orffen a phasbortau diogelwch yn cael eu cyhoeddi fel y bydd...
Mike Hedges: Y rheswm dros fy ymyriad oedd ein bod yn sôn am brisiau ynni ym maes tai, ac mae'n amlwg y byddai morlyn llanw'n effeithio ar brisiau ynni. Gallwn drafod y morlyn llanw ar adeg arall; roeddwn am wneud y pwynt hwnnw, dyna i gyd.
Mike Hedges: A ydych yn gresynu yn awr na wnaeth y Llywodraeth Geidwadol ariannu'r morlyn llanw yn Abertawe?
Mike Hedges: Rwy'n cytuno â chi. Byddwn yn dweud 'trydanol' yn hytrach nag 'electroneg'. [Chwerthin.] Ond ie. Hynny yw, yn rhy aml o lawer, gwelsom grefftau'n cael eu hystyried yn ail orau, ac mae arnom i gyd angen manteision plymwyr a thrydanwyr ac adeiladwyr. Mae angen i gynghorau ymrwymo i gyllido tai cyngor, fel y dywedais, gan ddefnyddio benthyca darbodus, ac mae arnom angen yr ewyllys wleidyddol i...
Mike Hedges: Wel, fe wnaeth Llywodraeth Cymru brynu allan o'r system, oni wnaethant? Mae'n destun pryder fod gennym system a oedd yn atal cynghorau rhag adeiladu tai a lle'r oedd tai cyngor yn mynd i gael eu gwerthu a dim ond 50 y cant o werth y tŷ hwnnw y byddech yn ei gael. Ac er gwaethaf honiad Janet Finch-Saunders y gallech adeiladu tri thŷ am bob tŷ, am bob dau dŷ gallech adeiladu un ar y mwyaf....
Mike Hedges: A gaf fi ddechrau drwy ddweud nad oedd modd defnyddio'r arian o werthu tai cyngor i adeiladu mwy o dai cyngor, bu'n rhaid ei gadw mewn cyfrif ar wahân? Dyna oedd y gyfraith; roedd yn gyfraith a gyflwynwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, ond dyna oedd y gyfraith. A gaf fi ddweud mai tai yw un o'n heriau domestig mwyaf? Mae ein system dai wedi bod mewn argyfwng ers y 1980au. Mae'n parhau i fod...
Mike Hedges: Beth am y plismona o ddydd i ddydd a wneir gan bedwar heddlu Cymru? I bob pwrpas, rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, sy’n adrodd i’r Ysgrifennydd Cartref ar hyn o bryd, dylent fod yn adrodd i ba Ysgrifennydd bynnag neu ba Aelod bynnag o'r Cabinet sydd gennym yma. Ac rwy’n tybio, o dan y trefniadau presennol, gan y gwn fod Jane Hutt yn ymateb i’r ddadl hon, mai Jane Hutt fyddai'r...
Mike Hedges: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod yr achos dros ddatganoli plismona yn hynod o gryf. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl. Diolch i fy nghyd-gyflwynwyr, a bydd un ohonynt, Rhys ab Owen, yn ymateb i’r ddadl. Mae dadl fel hon yn rhoi cyfle i’r Senedd ddangos i ba gyfeiriad y mae am i ddatganoli fynd. Mae llawer o’r ysgogiadau sy’n effeithio ar lefelau troseddu eisoes...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Fel y gŵyr yr Aelodau yma, rwyf wedi bod yn gefnogol iawn i'r cynllun buddsoddi i arbed a'r cynllun arloesi i arbed dros nifer o flynyddoedd. Cawsant eu darparu ers sawl blwyddyn. A wnaiff y Gweinidog egluro sut y caiff cynlluniau llwyddiannus eu cyflwyno ar draws sectorau a faint o gynlluniau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf a fydd yn...
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyllid ar gyfer y cynllun buddsoddi i arbed ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23? OQ57735
Mike Hedges: Hoffwn ddweud yn gyntaf ei bod yn braf iawn gweld cynifer o bobl yn eistedd yn yr ystafell hon sydd â phrofiad ar lefel uchel iawn o lywodraeth leol ac yn cymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n credu y bydd hynny ond yn ychwanegu at ansawdd y ddadl ar y setliad llywodraeth leol. Rwy'n croesawu'r setliad. Mae'n newyddion da i awdurdodau lleol. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, mae'r cyllid...
Mike Hedges: Byddwn i'n dweud, hefyd, pan oedd Rhodri Morgan yn Brif Weinidog, na wnaethom ymgysylltu â'r fenter cyllid preifat.
Mike Hedges: Byddai'r ddadl hon yn well o lawer mewn gwirionedd pe bai gennym gynigion amgen, hyd yn oed os mai dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru. Rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd Peter Fox am lunio un y flwyddyn nesaf. Gair o gyngor: mae'n rhaid iddi fantoli, ni allwch barhau i ychwanegu arian yn y golofn wariant, gan dynnu arian oddi ar y golofn incwm a galw honno...
Mike Hedges: A wnewch chi lunio cyllideb Geidwadol?
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch hefyd i fy nghyd-Aelod, Alun Davies, am gynnig y ddeddfwriaeth bwysig hon? Mae'n rhywbeth y byddaf yn ei gefnogi ar ran fy etholwyr sy'n byw yng nghwm Tawe isaf. Mae llygredd difrifol yn Afon Tawe, yn enwedig wrth iddi deithio drwy Abertawe ar y ffordd i'r môr. Mae'r Tawe'n cario gollyngiadau o waith trin dŵr gwastraff Trebannws, ac mae deunyddiau gwastraff fel rhannau o...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i’r Gweinidog am ei ymateb? Fis diwethaf, bûm yn agoriad swyddogol ysgol newydd Tan-y-lan, ysgol fy wyrion, a’r mis hwn, byddaf yn mynd i agoriad ysgol newydd Tirdeunaw. O'r chwe ysgol gyfun yn Abertawe, mae tair wedi'u hailadeiladu ar yr un safle, un wedi'i hadnewyddu'n llwyr ac un yn ysgol gymharol newydd. Yr unig ysgol sydd wedi cael gwaith brys arni yn unig yw Ysgol...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain yn Abertawe? OQ57682
Mike Hedges: Rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar wneud diagnosis o awtistiaeth mewn oedolion a'r ymgyrch wybodaeth sy'n esbonio arwyddion cyffredin awtistiaeth. DSM-IV, a gafodd ei gyhoeddi ym 1994, a gategoreiddiodd awtistiaeth fel sbectrwm am y tro cyntaf. Byddai unrhyw un a gafodd ei eni cyn 1976 wedi gadael yr ysgol cyn 1994. Gwyddom ni fod rhai o arwyddion cyffredin awtistiaeth mewn...
Mike Hedges: Dros y penwythnos, ynghyd â Rebecca Evans, roeddwn i'n bresennol a siaradais mewn rali yn y Mwmbwls i gefnogi Wcráin. Roedd gan Abertawe boblogaeth fawr o Wcráin yn syth ar ôl yr ail ryfel byd, a hyd at ddiwedd y ganrif ddiwethaf roedd clwb Wcrainaidd yn Nhreforys. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder, er gwaethaf torri rheolau dopio yn ddifrifol, y caniatawyd i athletwyr Rwsia...
Mike Hedges: Mae'n rhaid iddynt ddarparu gofal; mae'n ofyniad statudol. Os na wnânt hynny, maent yn torri'r gyfraith—dyfarniad Gloucester, fel y bydd Sam yn dweud wrthych.