Suzy Davies: 2. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dosbarthu'r £78 miliwn a glustnodwyd fel rhan o'r Gronfa Caledi Llywodraeth Leol o fewn y gyllideb er mwyn helpu awdurdodau lleol i reoli incwm a gollwyd o ganlyniad i Covid-19? OQ55361
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a diolch i chi hefyd, Weinidog. Pan gyhoeddwyd bod yr ysgolion yn ailagor yn raddol, gofynnais pam ei bod yn haws i'r undebau gytuno ar wythnos ychwanegol ym mis Gorffennaf yn hytrach na dod yn ôl ddiwedd mis Awst, a bryd hynny nid oedd neb yn gallu ateb y cwestiwn hwnnw. Mae'n ymddangos bellach nad oedd neb yn chwilio o ddifrif am ateb. Er nad oes gennyf unrhyw amheuaeth...
Suzy Davies: Diolch, yn amlwg, am eich cyhoeddiad ddydd Gwener, er bod yn rhaid i mi ddweud nad yw'r cysyniad o gydsyniad cymunedol a'r defnydd o'r gair 'archebion' yn y naratif wedi helpu perchnogion parciau carafannau sefydlog, na pherchnogion carafannau eu hunain, i ddeall yr hyn y gallant ei wneud mewn gwirionedd. Yr wythnos diwethaf, gofynnais i Weinidog yr economi pam fod cwmnïau twristiaeth nad...
Suzy Davies: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Lywodraeth Cymru yn ail-agor sector twristiaeth Cymru? OQ55318
Suzy Davies: Mae pawb yn cael dyddiau gwael, ond nid oedd Oscar yn un i adael i chi deimlo'n isel yn hir. Yn wir, byddai'n dda gennyf pe bai yma heddiw, mewn gwirionedd, oherwydd gallem wneud gyda'i gymorth i fynd drwy un o'n dyddiau gwaethaf, mi gredaf. Bob bore, pan oedd cyfarfod llawn, byddem yn cwrdd wrth y lifft a byddwn bob amser yn cael rhyw fath o gyfarchiad neu gwtsh, neu lysenw annwyl, a'r wên...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i Caroline Jones a'r Gweinidog am ymateb i hynny, ac yn arbennig i'r Gweinidog am y rhesymau pam na fydd etholiadau'n cael eu gohirio tan fis Mai? Ond mewn gwirionedd nid yw hynny'n rhan o'r hyn rwy'n dadlau drosto beth bynnag, ond rwy'n ddiolchgar am y diweddariad. Yn anffodus, fodd bynnag, mae'r ddau ohonoch wedi methu'r pwynt roeddwn yn ceisio'i wneud, ac...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a chyflwynaf y cynnig. Diolch, bawb, am aros i wrando ar hyn. Rwyf am ddechrau drwy wneud dau beth yn glir. Y cyntaf yw bod y rheoliadau hyn yn diogelu swyddogion amrywiol rhag atebolrwydd am beidio â chydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol arferol sy'n llywodraethu galw isetholiadau a'u cynnal. Gohiriwyd y gofynion arferol hynny gan Ddeddf Coronafeirws 2020. Mae'r rheoliadau...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Weinidog. Yn gyntaf oll, a gaf fi ymdrin â rhywbeth yn y fan hon, sef ymestyn y gefnogaeth i weithredwyr nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW. A yw hynny'n berthnasol i gwmnïau cyfyngedig yn unig, neu a yw'n berthnasol i fusnesau ac unig fasnachwyr hefyd? Rydym wedi bod yn siarad cryn dipyn am dwristiaeth heddiw, ac mae rhai wedi sôn am...
Suzy Davies: Diolch am hynny. Credaf fod pwynt difrifol yma am hyder rhieni, ac mae'n debyg mai un ffordd y gallech helpu i wella hynny yw drwy eu helpu i ddeall, er enghraifft, sut y profwyd unrhyw oedolion mewn hybiau ysgol ledled Cymru a pha ganlyniadau a gafwyd, ac a oes unrhyw gynlluniau ar gyfer profi oedolion asymptomatig mewn ysgolion yn ystod y cyfnod o ddychwelyd fesul cam, a hefyd a fydd...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd. A diolch i chi hefyd, Gweinidog; rwy'n credu y bydd llawer—plant yn enwedig— ar draws Cymru wedi bod yn edrych ymlaen at gyhoeddiad o'r math hwn. Ac a gaf i gytuno â'r sylwadau a wnaethoch chi ynghylch ein holl athrawon a theuluoedd, ac, wrth gwrs, staff cymorth sydd wedi helpu i weithio yn yr hybiau yn ogystal â gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn? Roeddwn...
Suzy Davies: Prif Weinidog, dechreuasoch y sesiwn hon drwy ddweud ychydig wrthym ni y dull a ddefnyddiwyd gennych chi i gyflwyno rheolau a rheoliadau, a hoffwn godi'r pwynt y gall achosion mynych o dorri rheoliadau coronafeirws, o 22 Mai, arwain at ddirwy o £1,920. Cyflwynwyd hynny o dan y pedwerydd gwelliant i'r rheoliadau cyfyngiadau coronafeirws, drwy'r weithdrefn a wnaed yn gadarnhaol, sy'n rhoi 28...
Suzy Davies: Prif Weinidog, soniasoch yn eich datganiad am bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n arbennig o ddiogel gartref drwy'r amser, ac mae fy nghwestiwn i'n cael ei gymell gan fy mhryderon amdanyn nhw a nifer gynyddol o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hiechyd meddwl, a chwestiynau sy'n codi o ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch aros gartref. Dim ond i fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â...
Suzy Davies: [Anhyglyw.]—yr atebion yna. Mewn ymateb i ail ran fy nghwestiynau, efallai y gallech chi roi sylw i'r pwyntiau am AHO a mynediad i Hwb na wnaethoch lwyddo i'w cyrraedd. Ond gan droi at sefydliadau addysg uwch, mae prifysgolion, wrth gwrs, yn sefydliadau preifat—statws y maen nhw'n ei warchod yn ffyrnig—ond maen nhw'n allweddol o ran gwella dyfodol ein hetholwyr a'n heconomi, felly mae...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i chi, Gweinidog, am y diweddariad yna a'r dystiolaeth a roesoch inni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y diwrnod o'r blaen. A gaf i ategu eich sylwadau agoriadol am yr holl bobl y mae angen diolch iddyn nhw, ac ychwanegu rhai o'r swyddogion cyngor hynny, gan ei fod yn fy nharo i, bob tro y ceir cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos i mi mai...
Suzy Davies: Nid oes arnaf gywilydd dweud hyn unwaith eto, mai Senedd Cymru sy'n gwneud y gyfraith, nid y Llywodraeth. Felly, dyma'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl fel cam cyntaf gan y Llywodraeth ei bod yn gosod Bil sydd, yn gyntaf, yn gyflawn; yn ail, â chig digonol ar yr esgyrn o ran ei amcan polisi ac o leiaf ei ddarpariaeth gychwynnol; ac, yn drydydd, wedi ei gostio'n iawn. Rwy'n credu bod y methu...
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Esgusodwch fi am funud. Ie, diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Roeddwn i eisiau cyfrannu yn sgil cyfraniad Mick Antoniw yn gynharach a hefyd yn sgil rhan o'r hyn yr oedd Delyth Jewell yn ei ddweud ynghylch pa un ai dyma'r amser priodol i graffu'n iawn ar y Bil hwn, felly rwyf eisiau trafod llai ar amcanion y polisi, ond canolbwyntio ychydig yn fwy ar ein swyddogaeth...
Suzy Davies: Alun, mae'n rhaid imi ddweud, tan yr ychydig frawddegau diwethaf, roeddwn yn gwbl gytuno gyda chi, oherwydd un o'r pwyntiau rwy'n credu sy'n werth ei wneud yn y ddadl hon yw—ac mae wedi'i wneud eisoes; mae'r gair 'llym' wedi ei ddefnyddio fwy nag unwaith—nad ydym ni fel Sbaen; nid oes gennym y pwerau llym hyn ar ein llyfrau statud, pa bynnag mor dda y'u hystyrir. A dweud y gwir, ni fyddwn...
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, yn arbennig? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i chi eich hun, eich cyd-Aelodau yn y fan yma, a hefyd i'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill. Rwy'n credu, yn anarferol i aelod o'r wrthblaid, efallai, eich bod yn bendant yn haeddu ein diolch y tro hwn. A gaf i ymuno â chi hefyd i ddiolch i'n staff rheng flaen? Ond nid y rhai o fewn y gwasanaeth iechyd yn...
Suzy Davies: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch rhoi cymorth i landlordiaid a thenantiaid ym mhob sector yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws?
Suzy Davies: A gaf fi ddechrau drwy ofyn i chi ddiolch i swyddogion y Dirprwy Weinidog ar fy rhan ac ar ran y grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, gan eu bod bellach wedi rhoi rhywfaint o ganllawiau ar y wefan? Ar y pwynt diwethaf, serch hynny, rwy’n derbyn mai ddoe yn unig y rhoddodd y Canghellor fanylion ychwanegol ynglŷn â'r cyllid a oedd ar gael i Gymru, ond hyd yn oed cyn hynny, roedd yr Alban...