Canlyniadau 201–220 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cefnogaeth i Fusnesau (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gwestiwn a dweud, yn anad dim, fod yr hyn rydym yn ei wynebu’n fyd-eang yn argyfwng na welwyd mo'i debyg o'r blaen? Nid ydym erioed wedi wynebu pandemig o'r fath yn ystod ein hoes, ac felly nid yw'r cymorth sydd ei angen ar fusnesau, er ei fod wedi bod yn sylweddol, yn ddigon i wneud iawn am lawer o'r costau ychwanegol a’r refeniw y byddai busnesau...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cefnogaeth i Fusnesau (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Laura Jones am dynnu sylw at yr achos penodol hwnnw? Ac yn amlwg, os gwnaiff Laura Anne Jones ysgrifennu ataf gyda rhywfaint o'r manylion, fe roddaf ystyriaeth benodol iddo hefyd i weld a allwn fod o gymorth. Ond yn gyffredinol, o ran busnesau newydd, gwnaethom ddarparu grantiau yn ystod y pandemig ar gyfer busnesau newydd er mwyn eu diogelu, ac yng Nghaerffili ei hun, mae...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cefnogaeth i Fusnesau (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Hefin David nid yn unig am ei gwestiynau, ond hefyd am y cyfle i gyfarfod ag ef yn ddiweddar a chynrychiolwyr busnesau o Gaerffili? Roeddwn yn credu bod y drafodaeth a gawsom yn werthfawr iawn, ac yn sicr, rydym bob amser yn archwilio sut y gallwn lenwi'r bylchau y mae pobl a busnesau yn cwympo drwyddynt o ganlyniad i gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Nawr,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Cefnogaeth i Fusnesau (27 Ion 2021)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Yng Nghaerffili, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu mwy na £4.5 miliwn i dros 1,500 o fusnesau ac mae'r gronfa sector-benodol wedi gwneud 61 cynnig gwerth cyfanswm o £478,000 hyd yma.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gorllewin De Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Dai Rees am ei gwestiwn a dweud bod galwad gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd bellach wedi'i threfnu? Mae hynny yn ein dyddiadur. Roedd gennyf berthynas adeiladol iawn gyda Gweinidogion eraill yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, gan gynnwys, dylwn grybwyll yn benodol, Nadhim Zahawi, sy'n gydweithredol iawn, ac rydym wedi siarad ar sawl achlysur ynglŷn â'r...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gorllewin De Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? O ran ystyried buddsoddiadau cyfalaf, dylwn ddweud ein bod wedi sicrhau bod £100 miliwn ar gael mewn grantiau datblygu busnes, a aeth i nifer enfawr o fusnesau—cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn y cynllun penodol hwnnw a bu’r galw yn anhygoel. Lluniwyd y cynllun yn benodol i annog busnesau i fuddsoddi yn eu dyfodol. Felly, rydym eisoes wedi...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gorllewin De Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Caroline Jones am ei chwestiwn? Rwyf bob amser yn barod i gyfarfod â busnesau a chyrff cynrychiadol. Wrth gwrs, os rhoddir gwahoddiad ffurfiol, byddwn yn rhoi ystyriaeth gydymdeimladol iawn iddo. Mewn perthynas â'r mater sy'n codi, serch hynny—hapchwarae a gamblo—mae'r canllawiau a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yn nodi'n glir, mewn perthynas â'r lleoliadau hynny,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Economi Gorllewin De Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: Diolch. Wel, wrth gwrs, rydym wedi darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig ers dechrau pandemig COVID-19, gwerth mwy na £2 biliwn, ac mae £1.7 biliwn o’r swm hwnnw bellach yng nghyfrifon busnesau. Yn ne-orllewin Cymru, mae'r gronfa ddiweddaraf i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £12.4 miliwn i dros 3,600 o fusnesau, ac mae'r gronfa...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: We have provided the most generous package of support for businesses anywhere in the UK since the start of the COVID-19 pandemic, worth over £2 billion, which includes extensive business rates relief. £1.7 billion of that is now in businesses’ accounts.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru (27 Ion 2021)

Ken Skates: Mae'r tarfu ar fasnach rydym bellach yn ei weld yn ganlyniad anochel o ddull Llywodraeth y DU o fasnachu â’r UE. Rydym yn pwyso ar Weinidogion y DU i wneud popeth posibl er mwyn helpu busnesau i gyfarwyddo â’r fiwrocratiaeth newydd hon a chyfyngu ar y niwed i fusnesau a phorthladoedd sy’n ymwneud â’r UE, gan gynnwys porthladd Caergybi.

3. Cwestiynau Amserol: Rhys Davies Logistics (16 Rha 2020)

Ken Skates: Wel, a gaf fi ddiolch i Andrew R.T. Davies am ei gwestiynau? Rwy'n rhannu'r teimladau y mae wedi'u mynegi ynglŷn â pha mor ofidus yw'r newyddion hwn i'r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt. Wrth gwrs, mae gennym y £40 miliwn ychwanegol ar gyfer yr ymrwymiad COVID. Mae wedi'i gynllunio'n benodol i helpu pobl sydd yn yr un sefyllfa â'r rheini yn y cwmni ar hyn o bryd, ac mae'r ymrwymiad COVID...

3. Cwestiynau Amserol: Rhys Davies Logistics (16 Rha 2020)

Ken Skates: Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw a dweud ei bod yn amlwg bod gweithwyr ffyddlon wedi cael eu trin yn ofnadwy ar y safle penodol hwn? Rydym yn bryderus iawn am rai o'r honiadau sydd wedi'u gwneud yn erbyn y cwmni, yn enwedig yr honiad ynglŷn â chamddefnyddio'r cynllun ffyrlo. Byddwn yn annog Mick Antoniw i ysgrifennu at Drysorlys y DU ynglŷn â'r pwyntiau y mae wedi'u codi heddiw, a...

3. Cwestiynau Amserol: Rhys Davies Logistics (16 Rha 2020)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Mae'r colledion swyddi sydd wedi'u cyhoeddi yn ergyd drom, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn, ac rydym yn cydymdeimlo â phawb a gyflogir ar y safle. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu, ochr yn ochr â'r Adran Gwaith a Phensiynau, i sicrhau bod cymorth ar gael i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Buddsoddi Strategol mewn Trafnidiaeth ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Wrth gwrs, mae cysylltedd digidol yn gwbl hanfodol yn yr oes fodern, ac rydym bob amser wedi bod o'r farn yn Llywodraeth Cymru y dylid trin band eang cyflym fel cyfleustod allweddol ac y dylai fod rhwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol briodol ar waith. Ond wrth gwrs, fel y gŵyr Dawn Bowden, nid yw polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru. Mae'n dal i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Buddsoddi Strategol mewn Trafnidiaeth ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Rydym yn buddsoddi ym mhob dull i greu system drafnidiaeth integredig sy'n cyfrannu at fetro de-ddwyrain Cymru ac sy'n dod â manteision i ardal Merthyr a Rhymni a'r rhanbarth ehangach.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ariannu Trafnidiaeth Cymru ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Mae'r gorsafoedd hynny'n rhan o rwydwaith Cymru a'r gororau ac mae'r buddsoddiad sydd wedi digwydd yn y gorsafoedd hynny, wrth gwrs, ynghlwm wrth y setliad a gawn gan Lywodraeth y DU. Mae'r gorsafoedd hynny'n aml yn cael eu defnyddio gan gymudwyr Cymru hefyd, gan gydnabod natur fân-dyllog y ffin. Ond rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol cydnabod, gyda threfniadau'r fasnachfraint bellach yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ariannu Trafnidiaeth Cymru ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Gwnaf, wrth gwrs. Rydym wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol sylweddol i sicrhau bod y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt yn parhau i weithredu, gan alluogi mynediad cynaliadwy at swyddi, addysg a gwasanaethau.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwaith Dur Trostre yn Llanelli ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Mae Dai Rees yn gwneud y pwynt pwysig fod rhaid i newid i dechnolegau amgen ddigwydd dros gyfnod o amser sy'n caniatáu i gynifer â phosibl o weithwyr medrus gael eu cadw. Mewn ymateb uniongyrchol i'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn, rwyf wedi gofyn am gyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros BEIS; yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd eto. Fodd bynnag, rwyf wedi bod yn ymgysylltu'n rheolaidd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwaith Dur Trostre yn Llanelli ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn? Mae'n gwestiwn hynod ddiddorol; mae potensial enfawr yn y maes hwn. Wrth gwrs, mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth y DU yn arwain arno yn bennaf, ond rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn edrych ar bob cyfle i roi'r dyfodol gorau posibl i'r sector dur yng Nghymru ac yn wir, ar draws y DU. O ran Trostre, wrth gwrs, mae'n cynhyrchu cynnyrch dur yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Gwaith Dur Trostre yn Llanelli ( 9 Rha 2020)

Ken Skates: Yn sicr, gallaf roi'r sicrwydd hwnnw. Yn wir, mae'n rhywbeth a geisir yn rheolaidd gan fy nghyd-Aelod a'r Aelod lleol dros Lanelli, Lee Waters. I gydnabod bod maint yr her y mae Tata yn ei hwynebu yn rhywbeth na all ond Llywodraeth y DU gynorthwyo ag ef, mae ef a Llywodraeth Cymru, ar wahân, yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU yn rheolaidd i weithredu mewn ffordd gyfrifol. Deallaf fod oddeutu...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.