Mark Isherwood: Diolch. Diolch i chi am eich datganiad, sy'n amlwg yn datblygu yn rhywbeth a fydd yn digwydd bob wythnos ar hyn o bryd. Wrth eich holi chi ddydd Mawrth diwethaf, fe gyfeiriais i at eich datganiad ysgrifenedig a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin ar 21 Ebrill. Yn eich diweddariad dilynol chi ynglŷn â'r gefnogaeth i Wcráin ddydd Iau diwethaf ar 28 Ebrill,...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, mae llety hunanarlwyo yn allweddol i sector twristiaeth gogledd Cymru. Wrth eich holi fis diwethaf, tynnais sylw at bryderon a gafodd eu dwyn i fy sylw gan fusnesau llety gwyliau dilys yng Nghymru y byddai eich cynigion trethiant lleol yn eu dinistrio, ac rwy'n dyfynnu perchnogion busnes a ddywedodd wrthyf, 'Rwy'n ofni y byddwn yn mynd yn fethdalwyr yn y pen draw', a, 'Sut y...
Mark Isherwood: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch darparu cymorth ariannol i'r sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru? OQ57916
Mark Isherwood: 'mae'n amlwg bod awydd am ddeddfwriaeth BSL o'r fath ar draws siambr y Senedd. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd hyn ar ran y gymuned B/byddar'. Er fy mod wedi parhau i gyflwyno ceisiadau am Fil Aelod preifat yn y Senedd hon yn unol â hynny, nid wyf wedi bod yn llwyddiannus eto. Nododd fy nghynnig y byddai fy Mil arfaethedig yn sicrhau bod gan y gymuned fyddar a phobl sydd wedi colli eu...
Mark Isherwood: Fel y clywsom ni, ym mis Chwefror y llynedd, cafodd fy nghynnig yn cynnig bod y Senedd yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n 'gwneud darpariaeth i annog pobl i ddefnyddio iaith arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru, a gwella mynediad at addysg a gwasanaethau drwy gyfrwng BSL' ei basio yma gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ni wnaeth yr un Aelod bleidleisio yn ei erbyn, a Gweinidogion Llywodraeth...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, mae hwn yn fater arall rydym ni’n cytuno arno. Fel y dywedodd ein maniffesto Ceidwadwyr Cymreig yn 2016, byddem yn: 'Cefnogi rôl Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, a gweithio i wireddu eu potensial i fynd i'r afael â throseddu.' Ac, fel y dywed ein maniffesto yn 2021, byddem yn: 'Cynyddu'r cyllid ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu bob blwyddyn, ac ehangu'r...
Mark Isherwood: Wrth ymateb i honiadau na all teuluoedd y mae angen iddyn nhw deithio gyda'i gilydd wneud felly oherwydd oedi o ran fisa i un aelod o'r teulu, plentyn yn aml, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Cartref ddoe fod y Gweinidog Ffoaduriaid, yr Aelod anrhydeddus Arglwydd Harrington, wedi mynd i'r rhanbarth dim ond 10 diwrnod yn ôl i ganfod pam a beth arall y gellid ei wneud i ddod â theuluoedd sydd...
Mark Isherwood: Diolch yn fawr i chi am y datganiad. Rwy'n ceisio cysoni—mae cymaint o ffigurau yn hedfan o gylch y lle gan wahanol bobl ac o wahanol fannau. Os byddaf i'n gwneud rhai camgymeriadau o ganlyniad i hynny, mae'n siŵr y byddwch chi'n gallu fy nghywiro i yn hynny o beth. Ond roedd eich datganiad ysgrifenedig chi ynglŷn â'r cynllun Cartrefi i Wcráin ar 21 Ebrill yn dweud bod y ffigurau...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am un datganiad ar gyllid i achub y gylfinir rhag diflannu ar lefel gwlad sydd ar fin digwydd. Dydd Iau diwethaf, 21 Ebrill, oedd Diwrnod Gylfinir y Byd, i amlygu'r peryglon y mae'r gylfinir yn eu hwynebu o ganlyniad i ffactorau sy'n newid, colli cynefin o ansawdd yn bennaf ac ysglyfaethu cynyddol. Dydd Iau diwethaf hefyd oedd diwrnod gwledd Sant Beuno, nawddsant y gylfinir yn y...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw cymhorthion clywed a masgiau'n mynd gyda'i gilydd.
Mark Isherwood: Yr wythnos hon yw Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd, sy'n ceisio helpu i newid agweddau tuag at bobl awtistig. Mae'r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, sy'n nodi 60 mlynedd ers ei sefydlu, am i bawb ddeall awtistiaeth yn well, ac mae'n tynnu sylw at y pum prif beth y mae pobl awtistig a theuluoedd am i'r cyhoedd eu gwybod: y gall pobl awtistig deimlo pryder am newidiadau neu ddigwyddiadau...
Mark Isherwood: Wel, yn ddiweddar cyfarfûm â mam a thad o sir y Fflint a ddywedodd na chafodd eu mab ddiagnosis o awtistiaeth am nad oedd yn arddangos nodweddion awtistig yn yr ysgol, gan ei fod yn celu ac yn atal y rhan fwyaf o'i diciau a'i bryderon. Roeddent yn dweud wrthyf: 'Mae'n ymddwyn yn dda yn yr ysgol, ond mae'n chwalu pan ddaw adref ar ôl cael diwrnod gwael.' Yr un diwrnod, ysgrifennais atoch ar...
Mark Isherwood: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Ngogledd Cymru? OQ57868
Mark Isherwood: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i asesu a diwallu'r angen am gartrefi rhent?
Mark Isherwood: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi yn breifat—galwad arall ddoe. Pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf pam nad oedd Llywodraeth Cymru yn ymddangos yn opsiwn uwch-noddwr ar wefan Cartrefi i Wcráin Llywodraeth y DU, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, fe wnaethoch chi ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd yn uwch-noddwr ddydd Gwener diwethaf ac, felly, rwy'n...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector twristiaeth yng Ngogledd Cymru?
Mark Isherwood: Diolch i’r Gweinidog am fy ffonio ar y trên ddydd Llun i roi cyfarwyddyd imi ar hyn, a nodaf hefyd y diweddariad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru y bore yma, sy’n datgan eu bod yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol, y GIG, gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy’n ffoi rhag y gwrthdaro ac sy’n cyrraedd Cymru drwy...
Mark Isherwood: Mae gennyf berthnasau yn sir y Fflint sydd wedi cael trafferth cael mynediad at ddeintydd y GIG, a chawsant driniaeth yn ddiweddar, diolch byth, ar ôl wythnosau mewn cryn dipyn o boen. Gwyddom fod Betsi Cadwaladr, ym mis Ionawr, wedi mynnu bod angen cymryd camau i fynd i’r afael â deintyddiaeth yn y gogledd, ar ôl i 83 o swyddi deintyddol gael eu colli yng Nghymru yn ystod y flwyddyn, a...
Mark Isherwood: Yn ogystal â gwaith adnewyddu signalau a gefnogir gan Lywodraeth y DU ar brif reilffordd gogledd Cymru a thros £1.2 biliwn o gyllid Llywodraeth y DU ar gyfer dinas-ranbarth Lerpwl, sydd o fudd i wasanaethau rheilffordd ac economïau a thrafnidiaeth rhwng dinasoedd yn ardal Mersi a’r Ddyfrdwy, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Cymru, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy wedi derbyn £59 miliwn yn...
Mark Isherwood: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lletya ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru? TQ610