Vikki Howells: Diolch, Weinidog, a chroeso i'ch rôl newydd. Roedd tasglu'r Cymoedd yn ymyrraeth galonogol iawn gan Lywodraeth Cymru yn ystod pumed tymor y Senedd, ac arweiniodd at lawer o fanteision gwirioneddol i fy etholaeth yng Nghwm Cynon, gan gynnwys £1.5 miliwn i Barc Gwledig Cwm Dâr, creu hyb gweithio o bell yn Aberpennar, a phrosiect bwyd dim gwastraff cyffrous iawn yn Aberdâr. Pa gynlluniau...
Vikki Howells: 8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau economi Cymoedd y de yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56537
Vikki Howells: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi menywod yng Nghymru sy'n profi'r menopos? OQ56536
Vikki Howells: Diolch.
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Llongyfarchiadau i chi ar eich penodiad, a llongyfarchiadau i chi, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, hefyd. Diolch i chi am eich datganiad heddiw, a bydd athrawon, myfyrwyr a rhieni ledled Cymru yn croesawu ei gynnwys a'i gywair, rwy'n siŵr. Ac fel cyn-athrawes, rwy'n gwybod yn iawn am y baich y mae biwrocratiaeth yn ei roi ar ein staff addysgu, a sut y mae'r baich...
Vikki Howells: Hoffwn eich llongyfarch, Trefnydd, ar eich swyddogaeth newydd hefyd. Trefnydd, ddechrau mis Ebrill, cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Tŷ'r Cyffredin ei adroddiad ar gynllun pensiwn y glowyr, ac roedd ei ganfyddiadau'n llwm. Dyfynnaf: 'Mae'n hollol amlwg...bod Llywodraeth y DU wedi elwa heb hawl ar drefniadau'r cynllun ac mae'n anniffynadwy i'r Llywodraeth...
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Lywydd. Hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i staff y Comisiwn am y ffordd y maent wedi cefnogi Aelodau o'r Senedd yn ystod y pandemig, ac wrth gwrs, i staff cymorth yr Aelodau o'r Senedd, gan y gwn eu bod wedi mynd y tu hwnt i bob galw i gynorthwyo etholwyr i ymdrin ag ystod o ymholiadau pwysig. Pa asesiad a wnaed gan y Comisiwn o effaith y pandemig ar ein staff gwych...
Vikki Howells: 3. Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i ymateb i bandemig parhaus y coronafeirws? OQ56444
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Yn ogystal â rhoi cartrefi addas i'r diben i bobl sy'n agored i niwed, mae'r grant tai cymdeithasol hefyd wedi helpu i adfywio safleoedd allweddol sy'n ddiffaith a segur, sydd i'w gweld yn aml mewn mannau amlwg iawn yn ein cymunedau. Un enghraifft yn fy etholaeth i yw'r adeilad segur ar Stryd Rhydychen yng nghanol y dref yn Aberpennar, safle y mae Tai Cynon Taf yn ei droi'n...
Vikki Howells: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon? OQ56395
Vikki Howells: Rwy'n siarad heddiw mewn dadl sydd wedi ennyn llawer o ddiddordeb a llawer o angerdd ar y ddwy ochr. Mae'r deisebau ger ein bron yn dystiolaeth o hyn, ac mae ychydig dros 17,000 o bobl i gyd wedi'u llofnodi, ac mae nifer fawr o unigolion a grwpiau wedi cysylltu ag Aelodau i gyflwyno eu hachos. Fodd bynnag, o edrych ar bobl yn fy etholaeth i, mae'r duedd yn fawr iawn tuag at gefnogi deiseb...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â ColegauCymru, sy'n poeni y bydd y costau a'r amserlenni arfaethedig ar gyfer dysgwyr galwedigaethol o'r UE sy'n dymuno gwneud profiad gwaith di-dâl byr yn y DU yn gwneud lleoliadau o'r fath yn anodd iawn. Os ydynt ar waith ar gyfer dysgwyr yr UE sy'n dymuno dod i'r DU, gallent hefyd fod ar waith ar gyfer dysgwyr o Gymru sy'n dymuno mynd ar...
Vikki Howells: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael am leoliadau gwaith tymor byr i ddysgwyr o rannau eraill o Ewrop sy'n dod i Gymru ar ôl Brexit? OQ56350
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghwm Cynon?
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Mae ffigurau diweddar wedi dangos mai Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer fwyaf o ddisgyblion yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg o'r holl ardaloedd cyngor yn ardal Consortiwm Canolbarth y De, gydag ychydig o dan 19 y cant o ddysgwyr. Gwneir llawer iawn o waith i wella'r cynnig cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon ymhellach eto drwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at gyflawni’r amcanion sydd wedi’u nodi yn Cymraeg 2050? OQ56311
Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y canllawiau a roddwyd i gartrefi gofal i ganiatáu ymweliadau diogel yn ystod pandemig y coronafeirws?
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n pryderu yn arbennig am ein plant a'n pobl ifanc yn gallu cael y gofal priodol o ran y pwysau a roddwyd arnyn nhw yn ystod y pandemig. Felly, mae i'w groesawu bod Llywodraeth Cymru wedi eu blaenoriaethu gyda'r £9.4 miliwn diweddar ar gyfer y cynllun arbrofol mewngymorth ysgolion a gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Fodd bynnag, mae'r...
Vikki Howells: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal iechyd meddwl brys? OQ56338
Vikki Howells: Diolch yn fawr iawn am yr ateb cynhwysfawr hwnnw, Weinidog. Mae tystiolaeth wedi dangos yn gyson fod y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn mwy o berygl o syrthio ar ôl eu cyfoedion wrth ddysgu gartref, am amryw o resymau cymhleth a rhyngberthynol. Cefais y fraint yn ddiweddar o fynychu Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, lle sonioch chi am y cynlluniau sy'n dod...