Dawn Bowden: Diolch, Dirprwy Weinidog, ac a gaf i ddymuno'n dda i chi gyda'r agweddau newydd hyn ar eich portffolio? Nawr, yr wythnos diwethaf, cyflwynodd y Prif Weinidog strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer lle Cymru yn y byd a'r cydberthnasoedd pwysig yr ydym ni'n ceisio eu sicrhau ar gyfer y dyfodol. Ers hynny, rydym ni wedi gweld dau ddigwyddiad arwyddocaol: yn gyntaf, y digwyddiadau annymunol yn...
Dawn Bowden: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau diweddar ar gyfer gwaith cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru? OQ55861
Dawn Bowden: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae pobl yn naturiol yn teimlo rhyddhad ein bod ni bellach wedi gadael y cyfnod atal byr. Fodd bynnag, mae'r data ar gyfer Merthyr Tudful yn dal i beri pryder. Ac er ei bod hi'n wir, fel yr ydych chi eisoes wedi dweud, bod yr arwyddion cychwynnol o'r cyfnod atal byr yn ymddangos yn gadarnhaol yn yr ardal, mae angen i ni barhau i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n...
Dawn Bowden: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y data diweddaraf am heintiau COVID-19 yn ardal awdurdod lleol Merthyr Tudful? OQ55843
Dawn Bowden: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi yn ystad y GIG ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Dawn Bowden: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wella mynediad at wasanaethau gofal argyfwng ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Dawn Bowden: Llywydd, pan aethom ni i'r cyfnod o gyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth a phasio deddfwriaeth frys yn groes i gymaint o'n greddfau naturiol, democrataidd, dywedais bryd hynny—ac fe'i dywedaf eto nawr—wnes i ddim dod i'r lle hwn i wneud penderfyniadau felly, ond, ar adegau o argyfwng, mae'n rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf. Dyna yw ein dyletswydd. Mae hynny'n golygu na...
Dawn Bowden: —y gwnaethoch chi ateb hynny yn eich ateb i Helen Mary. Diolch.
Dawn Bowden: A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, a mynegi fy ngwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddodd Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf i gynnal rhwydwaith hanfodol o wasanaethau bysiau yn ein cymunedau ni? Y penderfyniad i osod cyfnod atal byr—rydym i gyd yn gwybod y bydd yr heriau hyn yn parhau am fisoedd lawer i ddod, ac, wrth gwrs, fel yr amlinellwyd gennych, yn y tymor byr, fe fyddwn...
Dawn Bowden: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, a diolch am eich ymrwymiad personol i'r mater hwn. Tynnodd yr adroddiad diweddar gan End Youth Homelessness Cymru sylw at nifer o faterion tai i bobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal, gan gynnwys effaith y rheolau cysylltiad lleol ar eu dewis o gartref. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ystyried pa gamau pellach...
Dawn Bowden: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth tai Llywodraeth Cymru i blant sy'n gadael gofal? OQ55749
Dawn Bowden: Ymddiheuriadau am hynny, Lywydd; mae fy meic ar agor nawr. A gaf fi ddiolch i Alun Davies am roi munud o'i amser i mi yn y ddadl hon? Clywaf yr achos y mae wedi'i osod ar ran ei etholaeth ef a chymunedau ehangach y Cymoedd. Wrth gwrs, mae gan Alun brofiad sylweddol, fel yr aelod etholaeth dros Flaenau Gwent, ac fel cyn Weinidog a aeth i'r afael yn uniongyrchol â phroblemau dwfn ein cymunedau...
Dawn Bowden: Diolch i chi am y wybodaeth ddiweddaraf, Gweinidog. Yn gyntaf, a allaf ddiolch i'r panel goruchwylio am eu gwaith parhaus dros y misoedd diwethaf a nodi bod yr adolygiad yn dweud bod y bwrdd iechyd wedi cadw at ei ymrwymiad i adolygu gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ac mae hynny i'w groesawu? Fel chithau, hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â chyflawni'r gwelliannau hynny. Yn ail, i...
Dawn Bowden: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn dilyn pryderon a godwyd gyda mi, rwyf i hefyd wedi ysgrifennu at y gwasanaeth llysoedd a thribiwnlysoedd yn ddiweddar yn gofyn am sicrwydd bod eu harferion gweithredol yn dal i gydymffurfio â rheolau COVID Cymru. Rwyf i, wrth gwrs, yn deall bod y gwasanaeth llysoedd o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd, ond roeddwn i'n bryderus o glywed y gallai pobl...
Dawn Bowden: 1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi ynghylch mynd i'r afael â lledaeniad COVID-19 ar ystâd y llysoedd yng Nghymru? OQ55713
Dawn Bowden: A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma am y sylwadau cefnogol at ei gilydd a gafodd eu gwneud? Mae Siân, Huw, Dai, y Llywydd a'r Gweinidog i gyd wedi nodi rhai o elfennau allweddol yr adroddiad ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, consensws gwleidyddol, ffyrdd newydd o weithio, craffu, gwell deddfwriaeth, a'r angen am Senedd gryfach. Dyna y mae'r adroddiad hwn yn...
Dawn Bowden: Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon heddiw, oherwydd yng nghyd-destun y pandemig COVID, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnes y Senedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynorthwyo ein pobl, ein cymunedau a'n heconomi yn yr amserau digynsail hyn. Serch hynny, mae'r materion cyfansoddiadol rydym yn mynd i'r afael â hwy yn...
Dawn Bowden: Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch hefyd i Jack Sargeant am gyflwyno'r cynnig gwirioneddol bwysig hwn rwy'n hapus iawn i'w gefnogi? Hoffwn ddechrau drwy roi rhywfaint o gyd-destun i fy nghyfraniad, gan obeithio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, ac egluro pam rwy'n credu bod hwn yn syniad y mae ei amser yn dod, a pham y byddai o fudd i gymunedau fel y...
Dawn Bowden: A gaf i ddiolch i chi, Dirprwy Weinidog, am y cronfeydd canol trefi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dyrannu yn ystod yr wythnosau diwethaf? Ond un mater yr wyf wedi bod yn ceisio cael eglurhad pellach arno yw'r defnydd o'r cronfeydd hyn mewn canolfannau llai y tu allan i brif ganol tref Merthyr Tudful, yn fy etholaeth i. Er enghraifft, canolfannau lleol fel Rhymni, Ynysowen, Mynwent y Crynwyr,...
Dawn Bowden: Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad ac am yr wybodaeth ychwanegol y gwnaethoch chi ei rhoi i ni heddiw? Oherwydd rwy'n siŵr y bydd y grantiau a'r cymorth pellach a gyhoeddwyd yn cynorthwyo nifer o fusnesau yn fy etholaeth i, y mae llawer ohonyn nhw—yn y sector lletygarwch yn arbennig—wedi cysylltu â mi yn mynegi pryder difrifol ynghylch sut y...