Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid yn cynrychioli gweledigaeth a strategaeth ar y cyd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cefnogi menywod, plant a phobl ifanc sy'n troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r glasbrintiau yn 2019 mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Diolch i chi am roi cyfle i mi roi diweddariad ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i sicrhau bod toiledau Changing Places ar gael ar hyd a lled Cymru.
Jane Hutt: A mynd i'r afael â hyn mewn ffordd gadarnhaol iawn o ran yr ymrwymiad sydd gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlwg wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogiad cymunedol llawn a dinasyddiaeth weithgar i holl bobl Cymru, ac rydym yn deall yn iawn y rhan hollbwysig y gall toiledau Changing Places ei chwarae wrth gyflawni'r nod hwn ar gyfer llawer o bobl anabl. Er bod toiledau hygyrch cyffredin yn diwallu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Peredur. Fel y gwyddoch wrth gwrs, nid yw plismona wedi'i ddatganoli i Gymru; Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am hynny, ond rydym yn cydweithio'n agos â'r partneriaid plismona yng Nghymru ac rydym yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r adroddiad hwn. Felly, cyfarfûm â'r prif gwnstabl, Pam Kelly, a Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent, Jeff Cuthbert, fore Llun, dydd Llun y...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn hwn. Mae'r honiadau hyn yn ddifrifol iawn ac rwy'n cydnabod bod ganddynt oblygiadau o bosibl i gysylltiadau cymunedol. Mae'r honiadau yn yr adroddiad yn frawychus. Fel Llywodraeth, rydym yn sefyll yn erbyn pob ffurf ar lygredd, casineb at fenywod, hiliaeth a homoffobia; mae'n ffiaidd.
Jane Hutt: Yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw presennol, fel y dywedwch, mae mater tlodi mislif yn amlycach nag erioed. Felly, rwy'n falch fy mod wedi sicrhau cynnydd o £450,000 i'r grant urddas mislif eleni, i gryfhau ymateb awdurdodau lleol i effaith yr argyfwng costau byw. Mae cyfanswm ein grant urddas mislif ar gyfer y flwyddyn ariannol hon bellach dros £3.7 miliwn. Mae awdurdodau lleol yn...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Ddirprwy Llywydd. A diolch, Heledd, am gyflwyno'r pwnc pwysig hwn ar gyfer eich dadl fer heddiw. Rwy'n cofio trafod tlodi mislif, tua phedair neu bum mlynedd yn ôl mae'n debyg, gyda Jenny Rathbone, rwy'n meddwl—cynnig a gefnogwyd gan y ddwy ohonom—a dyna'r tro cyntaf i hyn gael ei drafod yn Senedd ddatganoledig Cymru. Roedd yn torri tir newydd ar y pryd, ein bod yn ei...
Jane Hutt: Hoffwn ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth ateb y cwestiynau cynharach. Mae Dechrau'n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Dyna'r peth hollbwysig. Mae angen inni dargedu'r cymorth hwnnw. Mae'n cynnwys gofal plant rhan-amser o ansawdd yn rhad ac am ddim i blant dwy a thair oed sy'n byw yn yr ardaloedd hynny, ac ym mis Ebrill, fe wnaethom gyhoeddi y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny. Rwy'n llwyr gydnabod pwysigrwydd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a sut mae hynny'n ein harwain gyda rhaglen hynod bwysig Dechrau'n Deg, sy'n cael cymaint o effaith ar fywydau plant. Nawr, wrth gwrs, fel rydych yn gwybod ac rydych eisoes yn ymwneud â hyn, ni fyddai pob teulu sy'n derbyn darpariaeth cam 2 angen gwasanaethau pellach, ond bydd y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Jenny Rathbone. Fel rydych yn ei ddeall, wrth gwrs, nid yw ffocws y cwestiwn hwn o fewn fy mhortffolio gweinidogol o ran polisi, ond rwy'n hapus iawn i ymateb ar y mater asesu effaith. Mae cam 2 o ehangu Dechrau'n Deg yn adeiladu ar y dull a fabwysiadwyd yng ngham 1. Mae hynny wedi'i adlewyrchu yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb. Ac wrth gwrs, mae...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox, am ddechrau eich cwestiwn atodol drwy gydnabod ein hymateb i'r cwestiwn cynharach, gyda'ch cefnogaeth a'ch cymeradwyaeth i ymgyrch y Rhuban Gwyn, a chydnabod, o ran yr ystadegau, effaith trais yn erbyn menywod a merched ac edrych ar y ffaith bod canran y troseddau cam-drin domestig a gofnodwyd gan yr heddlu hyd at fis Mawrth 2021 wedi nodi bod 73.1 y cant...
Jane Hutt: Diolch am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn parhau i wella ein hymateb i gam-drin domestig drwy ein strategaeth genedlaethol. Rydym yn ariannu prosiect Dyn i gefnogi dynion sy'n dioddef cam-drin domestig ac rydym yn parhau i ariannu hyfforddiant ymwybyddiaeth i gydnabod dangosyddion a ddangosir gan ddynion a allai fod yn profi cam-drin domestig.
Jane Hutt: Diolch, Joyce Watson, oherwydd mae angen inni fynd y tu hwnt. Rydym wedi gwneud sylwadau ar y cyfleoedd a’r gwaith a wnaed mewn ysgolion gyda phlant a phobl ifanc, a phwysigrwydd y cwricwlwm newydd a'r fframwaith addysg cydberthynas a rhywioldeb, ond mae angen inni estyn allan hefyd at bob un o’r sefydliadau lle daw pobl ifanc at ei gilydd. Credaf ei bod yn ddiddorol, a bydd llawer...
Jane Hutt: A gaf fi ddiolch am eich cwestiwn, ac ar y pwynt hwn, a gaf fi hefyd gydnabod a chymeradwyo’r hyn a ddywedwyd gan y ddau Aelod am Joyce Watson a’i harweinyddiaeth mewn perthynas â'r Rhuban Gwyn? Mae’r hyn a ddywedwch yn bwysig o ran sut y gallwn estyn allan at ein plant a’n pobl ifanc, ac yn amlwg, yr ysgol yw’r lle i wneud hyn, oherwydd yn amlwg, gall trais yn erbyn menywod,...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jack Sargeant, a diolch am fod yn llysgennad y Rhuban Gwyn ers cymaint o flynyddoedd. Ac wrth gwrs, rydym yn cofio eich tad a'r ffordd y bu'n hyrwyddo achos y Rhuban Gwyn, ac yn cydnabod, wrth gwrs, fod achos y Rhuban Gwyn yn cael ei arwain gan ddynion i gael gwared ar drais yn erbyn menywod a merched. Byddwn yn dod at ein gilydd ddiwedd mis Tachwedd; mae gennym...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw, Jack Sargeant. Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gweithgareddau bob blwyddyn i hyrwyddo ymgyrch y Rhuban Gwyn a thynnu sylw at yr agenda trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol fel rhan o’r 16 diwrnod o weithredu. Eleni, bydd ein swyddogion yn cynnal digwyddiad mewnol yn Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth ac annog swyddogion i...
Jane Hutt: Wel, yn amlwg, mae’r ymateb i’r argyfwng costau byw yn fater trawslywodraethol, ac mae’r Prif Weinidog wedi sefydlu is-bwyllgor y Cabinet ar yr argyfwng costau byw. Felly, rydym yn edrych ar yr effaith ar aelwydydd a busnesau, a'r cymunedau a'r busnesau gwledig rydych wedi tynnu sylw atynt heddiw, yn gyffredinol. Mae'n bwysig iawn fod pobl yn manteisio ar y budd-daliadau y mae ganddynt...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Adam Price. Mae hyn yn bwysig iawn—ein bod yn cydnabod yr her yn yr aelwydydd hynny, a'r gyfran uchel, nid yn unig yn eich etholaeth chi, ond ledled Cymru, nad ydynt wedi'u cysylltu, neu nad ydynt ar y grid. Ac o edrych ar y problemau a’r ffyrdd rydym wedi bod yn cefnogi pobl yn eich etholaeth, yn eich ardal, hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021, roedd mwy na 5,000 o gartrefi...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiwn.
Jane Hutt: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i’r rheini sydd mewn tlodi tanwydd mewn cartrefi nad ydynt ar y grid, gan gynnwys cynllun Nyth Cartrefi Clyd, y gronfa cymorth dewisol, cynllun cymorth tanwydd Llywodraeth Cymru a’r Sefydliad Banc Tanwydd.