Canlyniadau 201–220 o 6000 ar gyfer speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Plant sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol ( 3 Ebr 2019)

Bethan Sayed: Rwy'n cydnabod bod rhai o'r syniadau y byddwn yn eu trafod yn gysyniadau cymharol newydd yn y DU, ond credaf eu bod yn rhan o chwyldro hanfodol posibl yn y ffordd yr ydym yn trin plant a sut y gallwn gynorthwyo plant, y bydd llawer ohonynt mewn lle truenus o anobaith a thrawma. Mae fy nghynnig yn canolbwyntio ar dri phwynt sylfaenol: sut y gallwn weithio gyda'r heddlu i gynhyrchu canlyniadau...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Plant sydd wedi cael eu Cam-drin yn Rhywiol ( 3 Ebr 2019)

Bethan Sayed: Roeddwn yn awyddus i gyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd fy mod i ac eraill yma wedi bod â diddordeb yn y ddadl hon ar fodelau darparu gwasanaethau cymorth yn y maes hwn. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r ddeiseb, sy'n dal dan ystyriaeth gan y Pwyllgor Deisebau, mewn perthynas â'r model Barnahus a chynyddu'r ddarpariaeth ddiogelwch a chymorth i blant sydd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol....

4. Cwestiynau Amserol: Mynediad at Ofal Cleifion Mewnol CAMHS ( 3 Ebr 2019)

Bethan Sayed: Mewn perthynas ag achos Claire Greaves—yr achos trasig—roedd hwn yn amlwg yn achos o anorecsia yn ogystal ag anhwylder personoliaeth o oedran cynnar. Fel rhan o'r adolygiad ar anhwylderau bwyta, hoffwn wybod a ydych yn ystyried trafodaeth, trafodaeth ehangach, ar anhwylderau bwyta mewn uned neu unedau cleifion mewnol yng Nghymru, nid yn uniongyrchol o ganlyniad i hyn, ond o ganlyniad i'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Newid y Llw Teyrngarwch ( 2 Ebr 2019)

Bethan Sayed: Wel, rwyf i newydd glywed rhywun yn gweiddi oddi ar ei eistedd, 'Gwarthus'. Ond, fel rhywun sy'n weriniaethwr, hoffwn gael y dewis o gael y llw teyrngarwch hwnnw i ddinasyddion Cymru ac nid i gorff sy'n ymgorffori braint a grym etifeddol sy'n aml yn anathema i bobl Cymru. Mae fy mhrif ffyddlondeb i'r bobl. A allwch chi amlinellu pa un a allai Llywodraeth Cymru wneud cais i'r pwerau dros y llw...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol): Newid y Llw Teyrngarwch ( 2 Ebr 2019)

Bethan Sayed: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch a oes gan y Cynulliad bwerau deddfu mewn perthynas â newid y llw teyrngarwch? OAQ53708

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (26 Maw 2019)

Bethan Sayed: Tybed a allwn ni gael dadl yn amser y Llywodraeth ynghylch cyflog teg i weithwyr y gwasanaeth sifil. Byddwch yn ymwybodol bod Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol—y fi yw cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar hyn o bryd—yn pleidleisio’n ddirgel tan 29 Ebrill ynghylch gweithredu’n ddiwydiannol. Nawr, maen nhw'n canolbwyntio ar Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau codiad...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gweithgynhyrchu Dur (26 Maw 2019)

Bethan Sayed: Yn y datganiad ysgrifenedig heddiw, rydych chi'n sôn am leihau allyriadau ac am foderneiddio'r gweithlu dur o ran y gwaith pŵer ac o ran y cyfleusterau newydd sydd ar gael. Wrth gwrs, roedd hyn yn rhan o gytundeb cyllidebol Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, a hoffwn ddeall ar ba gam yr ydym ni erbyn hyn o ran rhyddhau'r cyllid ar gyfer camau'r dyfodol. Rydym ni wedi cael sawl trafodaeth yn y...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (26 Maw 2019)

Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosesau gwneud penderfyniadau mewn cyrff hyd braich?

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Bethan Sayed: Cymerodd bedair munud cyn i chi sôn am Dwrci hyd yn oed—

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Bethan Sayed: —ac am y derfysgaeth y mae Twrci yn ei orfodi ar y gymuned Gwrdaidd. Credaf fod cynnig Plaid Cymru yn cwmpasu'r pwyntiau allweddol sy'n berthnasol i'r ddadl. Rwy'n ddryslyd braidd ynghylch rhai o welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n ymddangos fel pe baent ond yn cyfeirio at y PKK yn rhyfedd ddigon, er bod y ddadl hon yn canolbwyntio ar sefyllfa gyffredinol y Cwrdiaid yn Anatolia a gogledd Syria:...

8. Dadl Plaid Cymru: Y Cwrdiaid yn Nhwrci (20 Maw 2019)

Bethan Sayed: Diolch i Delyth Jewell am agor y ddadl hon, ac rwy'n falch ein bod yn sefyll yma'n cael y dadleuon rhyngwladol hyn, oherwydd dyma'r lle i'w cael. Dyma ein sefydliad cenedlaethol ac ni ddylem ymddiheuro am hynny. I ddechrau, roeddwn eisiau ymateb yn gyflym i rywbeth a ddywedodd Darren Millar. Dyfarnodd Goruchaf Lys Gwlad Belg yn gynharach y mis hwn nad oes unrhyw weithgarwch terfysgol gan y...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Gradd ar Wahân? Effaith Brexit ar Addysg Uwch ac Addysg Bellach (20 Maw 2019)

Bethan Sayed: Wel, nid wyf yn siŵr os gallwn ddweud ein bod yn croesawu dadl arall am Brexit, ond credaf ei bod yn bwysig inni ei drafod mewn perthynas ag addysg. Ond dyma ni unwaith eto, yn sôn am y mater pwysig hwn. Nid wyf am fynd i'r afael â llawer o fanylion yr adroddiad pwyllgor hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonom wedi darllen yr adroddiad ac wedi gwrando ar gyflwyniad Lynne Neagle fel...

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu Ffonau Symudol (20 Maw 2019)

Bethan Sayed: Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd am ei sylwadau agoriadol. O'r hyn a gofiaf, ni chymerais ran yn yr ymchwiliad llawn, ond roeddwn yno ar gyfer diwedd y gwaith, ac mae'n amlwg yn fater pwysig sy'n effeithio ar bawb ohonom. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn edrych tua'r dyfodol ac yn edrych ar ffyrdd o ddatblygu seilwaith. Fodd bynnag, ceir bylchau enfawr yn y cysylltedd ledled...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Ie, sori. [Chwerthin.] Yn anffodus, nid y Gweinidog, gan ei fod yn ddatganiad gen i, ond mae'r Gweinidog yma. Mae posibiliad, achos bod lot o gwestiynau wedi dod at y Gweinidog gan yr Aelodau, y gallwn ni ysgrifennu ar sail rhai o'r cyfraniadau fan hyn at y Gweinidog. Mae hi'n nodio'i phen yn hapus â hynny. Felly, fe wnawn ni hynny fel canlyniad i'r datganiad yma. Gallaf ond fynd nôl at...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Diolch, Delyth. Credaf fod eich dadansoddiad yn ysbrydoledig iawn yn yr ystyr eich bod wedi edrych ar y mater o safbwynt gwahanol fel Aelod Cynulliad newydd gyda golwg newydd ar yr hyn y gallwn fod yn edrych arno mewn perthynas â'r pwyllgor hwn, mewn perthynas ag ieithoedd modern a cholli'r celfyddydau, a sut y gallai hyn fod wedi arwain at rai o'r materion a arweiniodd at Brexit—lleihau'r...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Buaswn yn cytuno â phopeth rydych yn ei ddweud, ac rwy'n teimlo eich angerdd. Yn enwedig mewn perthynas â cherddoriaeth, cefais fy synnu wrth ddarllen bod Cymdeithas Cerddorfeydd Prydain wedi dweud bod 20 y cant o'u cerddorion yn dod o'r UE, a'u bod wedi amlygu'r gost ychwanegol o drefnu fisâu gwaith ar eu cyfer. Felly, os ydym am ei gwneud yn anodd iawn i bobl symud yma, neu i berfformio...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Dwi'n credu bod y rhan fwyaf o'r hyn roedd David Melding yn ei godi yn apelio at y Gweinidog, a dwi'n siŵr bod y Gweinidog wedi clywed yn glir. Dwi'n cytuno o ran y projectau creadigol, Creative Europe, a'n bod ni'n dewis a dethol rhwydweithiau. Mae'n siomedig ein bod ni'n gorfod dod i'r pwynt lle byddwn ni'n dewis a dethol rhwydweithiau byddwn ni'n rhan ohonynt, ond mae'n bwysig ein bod...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Yn ein hadroddiad, felly, fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn rhan o gynlluniau Ewropeaidd sy'n galluogi’n diwydiannau creadigol i gydweithio ar brosiectau a chystadlu am fusnes yn rhyngwladol. O ran parhau i fod yn rhan o raglen Ewrop Greadigol, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym y byddant yn 'parhau i geisio cadarnhad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch y...

5. Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Effaith Brexit ar y celfyddydau, y diwydiannau creadigol, treftadaeth a'r Gymraeg (13 Maw 2019)

Bethan Sayed: Diolch. Hoffwn wneud datganiad am effaith bosibl Brexit ar y sefydliadau sy’n rhan o fy mhortffolio fel Cadeirydd y pwyllgor. Rwyf am danlinellu effaith Brexit ar ein diwydiannau creadigol. Os na allwn fanteisio ar y farchnad sengl, a’r gallu i symud nwyddau a llafur yn rhad ac am ddim, bydd hynny’r un mor niweidiol i'r celfyddydau ag ydyw i'n ffermwyr a'n cynhyrchwyr, yn ôl y bobl a...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.