Hannah Blythyn: Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parhau i ddarparu ystod o gymorth i gymuned ein lluoedd arfog. Mae adroddiad blynyddol y lluoedd arfog, a osodwyd gerbron y Senedd ar 30 Medi 2020, yn nodi'n fanwl y cymorth cynhwysfawr a ddarparwn i gyn-filwyr yng Nghymru.
Hannah Blythyn: We know and recognise that our towns matter. We have provided £9 million to support town centres during the pandemic – £5.3 million for adaptations to enable safe reopening and £3.7 million in specific support for valleys towns. This is in addition to the £90 million Transforming Towns package of support I announced in January.
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a dymuno'n dda i'r myfyrwyr blwyddyn 6, a gobeithio y byddant yn mwynhau eu profiad yn gwylio'r Senedd ar waith heddiw? A gobeithio, yn y dyfodol heb fod yn rhy bell, y byddant yn gallu dod i eistedd yn yr oriel i wylio hefyd. Gadewch imi ddweud wrth yr Aelod, wrth ateb ei chwestiwn, ein bod yn amlwg yn gweithio ar draws y Llywodraeth nid yn unig i...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae sicrhau bod teuluoedd yng Nghymru yn ymwybodol, ac yn bwysig iawn, yn gallu cael mynediad at y gefnogaeth y mae ganddynt hawl i'w chael yn rhan flaenllaw o’n cynllun gweithredu pwyslais ar incwm, a gyhoeddwyd y mis hwn. Rhoesom ystod o gamau ar waith yn y tymor byr. Rydym wedi rhoi strategaeth gyfathrebu ac ymwybyddiaeth ar waith i sicrhau bod...
Hannah Blythyn: Mae ein cynllun gweithredu pwyslais ar incwm yn amlinellu mesurau trawslywodraethol newydd i liniaru tlodi plant yn Ogwr a ledled gweddill Cymru. Bydd y rhain yn sicrhau y cymerir camau ymarferol i helpu teuluoedd i gynyddu eu hincwm i'r eithaf, lleihau costau byw hanfodol a chefnogi gwytnwch ariannol. Bydd yn cael ei roi ar waith ochr yn ochr â rhaglenni tlodi plant sy'n bodoli eisoes.
Hannah Blythyn: We are targeting support for low income families through recognised programmes like Flying Start and Families First and new initiatives outlined in our Income Maximisation Action Plan which will help families tackle the acute financial pressures that many are experiencing as a result of the pandemic.
Hannah Blythyn: Diolch. Bob mis Tachwedd, wrth inni oedi ar gyfer Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad, cawn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth aruthrol ein lluoedd arfog blaenorol a phresennol ynghyd â'u teuluoedd. Mae'n dyst i'r gwasanaeth a'r aberth hwnnw fod y cynnig sydd ger ein bron wedi'i gyflwyno gyda chefnogaeth drawsbleidiol ac mae'n iawn ein bod gyda'n gilydd yn cofio ac yn cydnabod cymunedau ein...
Hannah Blythyn: There are no plans for reviewing the number or sizes of community councils. The Local Government (Democracy) (Wales) Act 2013 places primary responsibility for this with principal councils. We are supporting town councils to exercise their current powers in delivering for their local communities in response to COVID-19, including, through access to Welsh Government funding schemes and our...
Hannah Blythyn: Rwy'n diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Os caf i grybwyll y mater o glytiau gwlyb yn gyntaf, roeddwn i ar fai am beidio â chodi hynny yn fy ateb i Janet Finch-Saunders hefyd. Efallai mai cam cyntaf o ddull gweithredu fesul cam yw'r ymgynghoriad hwn ar blastigau untro, ac, o fewn yr ymgynghoriad hwnnw, rydym yn gwahodd pobl i awgrymu pethau y maen nhw'n credu efallai y dylid eu cynnwys neu...
Hannah Blythyn: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad meddylgar a myfyriol iawn yn y fan yna? Rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran sut yr ydym yn teimlo ein bod bron wedi cwblhau'r cylch o ran arferion defnyddwyr, pryd yr oedd yn ymwneud â chyfleustra, ac yna rydym wedi sylweddoli, mewn gwirionedd, fod cyfleustra'n costio mewn ystyr gwahanol hefyd—felly, edrych a meddwl mwy nawr...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn dweud ein bod yn dal i sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes, rydym yn sôn am gyfrifoldeb estynedig y cynhyrchydd ac rydym yn sôn am weithredu ar blastigau untro. Wel, i fod yn glir, nid siarad am y peth yn unig wyf i—rwy'n gweithredu yn ei gylch, ac mae'r Llywodraeth hon yn gweithredu yn ei gylch. Dyna pam yr ydym ni nid yn unig yn mynd ymhellach na rhannau eraill...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am ei geiriau cynnes ac am ymuno â mi i gydnabod y gwaith y mae ein criwiau casglu wedi'i wneud a'u swyddogaeth ar hyd a lled y wlad ac mewn cymunedau yn ein hetholaethau, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond drwy gydol y flwyddyn hefyd, a'r rhan y maent yn ei chwarae? Gofynnodd yr Aelod rai cwestiynau am her tipio anghyfreithlon yn ein cymunedau, a...
Hannah Blythyn: Diolch, dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o allu gwneud y datganiad hwn heddiw ynglŷn ag ailgylchu a'r adferiad gwyrdd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu. Mae dulliau fel ein casgliad gwastraff bwyd cartref cyffredinol yn destun cenfigen i eraill ac yn golygu bod gennym ni'r gallu i gasglu ac ailgylchu llawer mwy. Fis diwethaf,...
Hannah Blythyn: Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r ddau Aelod am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, ac a gaf i ddiolch i Mick yn rhinwedd ei swydd o fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad am eu cefnogaeth i'r darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth? Rwyf hefyd yn croesawu cefnogaeth Janet Finch-Saunders i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond mae'r Aelod yn codi nifer o faterion sydd y tu...
Hannah Blythyn: Diolch eto, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch am y cyfle hwn i egluro cefndir y cynnig cydsyniad offeryn statudol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau Gwastraff (Economi Gylchol) (Diwygio). Hoffwn i ddiolch hefyd i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y memorandwm cydsyniad offeryn statudol a chydnabod casgliad y pwyllgor ei fod yn fodlon. Roedd y...
Hannah Blythyn: Diolch. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl hon heddiw. Rwy'n ddiolchgar am sylwadau John Griffiths, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, a Mick Antoniw, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd, yn arbennig am y gefnogaeth a'r gwaith pwysig gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ddatblygu'r gwaith yr ydym yn ei wneud a hefyd y gwaith ar argymhellion...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o gynnig y cynnig hwn heddiw ac amlinellu pam y dylai dderbyn cefnogaeth gan Aelodau'r Senedd. Rydym ni i gyd yn cofio, fel y dylem ni ei wneud, y tân a'r marwolaethau trychinebus yn Nhŵr Grenfell dros dair blynedd yn ôl. Rydym ni'n gwybod o'r ymchwiliad cyhoeddus mai diffygion yn y ffenestri allanol a'r cladin ar y tŵr oedd y prif resymau dros...
Hannah Blythyn: Os ymatebaf i'r pwyntiau ynghylch AGB Pontypridd a'r rhan a chwaraewyd ganddynt wrth hyrwyddo'r gwaith o adfywio canol tref Pontypridd yn sylweddol. Rydym wedi siarad o'r blaen am bwysigrwydd cael y gefnogaeth honno ar lawr gwlad gan bobl sy'n byw ac yn gweithio yno i sicrhau llwyddiant unrhyw brosiect adfywio ar gyfer tref neu gymuned. Rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi AGB fel cyfrwng i...
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i Vikki Howells am ei chwestiwn a'i diddordeb? Rwy'n gwybod ei bod yn angerddol iawn ynghylch yr agenda hon a'r maes hwn wrth wasanaethu ei hetholwyr. O ran yr eiddo gwag, rwy'n tybio bod dwy elfen ac nid wyf yn glir, yn benodol, pa un y mae'r Aelod wedi cyfeirio ati, felly gwnaf fy ngorau i geisio mynd i'r afael â'r ddwy. Un ohonynt yw pa un a yw at ddefnydd cymysg neu ar...
Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae arnaf ofn bod yn rhaid i mi ddechrau drwy ddweud fy mod yn deall y rhwystredigaeth o ran y sefyllfa gyda'u trefi yn eu hardal leol, ond rwy'n gwrthod yn llwyr honiad yr Aelod nad yw Llywodraeth Cymru yn uchelgeisiol yn y maes hwn. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ysgogi creadigrwydd, i weithio gyda grŵp gweithredu canol trefi i weithredu yn ein cymunedau...