Elin Jones: Ydy. Oes gwrthwynebiad i welliant 11? Nac oes, dim gwrthwynebiad i welliant 11.
Elin Jones: Gwelliant 12 yw'r un olaf. Peredur Owen Griffiths, yn cael ei symud?
Elin Jones: Oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly mi gymrwn ni bleidlais ar welliant 12. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, ymatal 15, un yn erbyn. Felly mae gwelliant 12 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Rydym felly wedi dod i ddiwedd ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), a dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. [Gwrthwynebiad.] [Torri ar draws.]
Elin Jones: Roedd hynna'n agos.
Elin Jones: Mi wnawn ni symud i bleidlais, felly, ar welliant 10, gan fod yna wrthwynebiad. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, 14 yn ymatal, un yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 10 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Peredur Owen Griffiths.
Elin Jones: Y Dirprwy Weinidog i gyfrannu i'r ddadl. Hannah Blythyn.
Elin Jones: Grŵp 11 yw'r grŵp olaf o welliannau, ac mae'r grŵp yma ar welliannau sy'n ymwneud â chofrestr gontractau. Gwelliant 10 yw'r prif welliant yn y grŵp, ac fe wnaf i ofyn i Peredur Owen Griffiths i gynnig y gwelliant yma.
Elin Jones: Peredur Owen Griffiths, gwelliant 8. Ydy e'n cael ei symud?
Elin Jones: Ydy. Gwelliant 8—a oes unrhyw wrthwynebiad i welliant 8? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i welliant 8. Fe gawn ni bleidlais ar welliant 8. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 41, neb yn ymatal, 15 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 8 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Gwelliant 9, Peredur Owen Griffiths.
Elin Jones: Ydy, mae'n cael ei symud. Unrhyw wrthwynebiad? Dim gwrthwynebiad i welliant 9. Ac felly mae gwelliant 9 wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Gwelliant 44.
Elin Jones: Joel James, a yw'n cael ei gynnig?
Elin Jones: Ydy. Oes gwrthwynebiad i 44? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, fe gawn ni bleidlais ar welliant 44. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, ac felly fe fyddaf i'n bwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn gwelliant 44. Canlyniad terfynol y bleidlais, felly, yw 28 o blaid, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Mae gwelliant 44 wedi ei wrthod.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes gwrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad. Fe wnawn ni symud i bleidlais ar welliant 7. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 15 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, mae gwelliant 7 wedi ei gymeradwyo. [Torri ar draws.]
Elin Jones: Bydd y cofnod yn dangos.
Elin Jones: Peredur Owen Griffiths i ymateb.