Canlyniadau 201–220 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach' (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl am eu cyfraniadau? Fe geisiaf ymateb yn yr amser sydd gennyf i rai o'r prif bwyntiau a wnaed. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chyfraniadau a'i phwyntiau da iawn am blant sy'n derbyn gofal? Yn ein hymchwiliad gwreiddiol, mae'n debyg mai'r dystiolaeth a gawsom ar blant sy'n derbyn gofal gan benaethiaid gwasanaethau...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach' (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: Ddwy flynedd a hanner yn ôl, gwnaeth ein pwyllgor ein hymrwymiad i'r maes hwn yn glir. Galwasom am sicrwydd fod iechyd a lles emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc yn flaenoriaeth genedlaethol ddatganedig i Lywodraeth Cymru. Galwasom am newid sylweddol ar frys yn y cymorth a ddarperir i'n plant a'n pobl ifanc, gan ddadlau bod y ddarpariaeth wedi bod yn rhy gyfyngedig yn rhy hir....

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Cadernid Meddwl: ddwy flynedd yn ddiweddarach' (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd dros dro. Mae'n ddwy flynedd a hanner ers i mi sefyll yn y Siambr hon i ddweud fy mod yn teimlo'n falch ac yn freintiedig o gael annerch y Senedd ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Ar ddechrau'r ddadl honno, dywedais mai iechyd emosiynol a meddyliol ein plant a'n pobl ifanc oedd un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, inni fynd i'r...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Amgylchedd yn Nhorfaen (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch. Rwy'n bryderus iawn wrth glywed hyn, ac rwy'n sicr yn rhannu eich pryderon, oherwydd yn amlwg, mae cynllunio a thrwyddedu amgylcheddol yn gyfundrefnau sy’n ategu ei gilydd. Mae'r caniatâd cynllunio yn penderfynu a yw'r datblygiad yn ddefnydd tir derbyniol, er enghraifft, ac mae'n gwbl iawn fod y cwynion wedi mynd i'r awdurdod lleol yn y lle cyntaf, ond rwy’n sicr yn fwy na pharod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Amgylchedd yn Nhorfaen (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Mae SL Recycling Ltd wedi bod yn gweithredu safle llosgi gwastraff ar hen safle llosgydd Shanks mewn ardal breswyl yn y Dafarn Newydd yn fy etholaeth. Rhoddwyd caniatâd iddynt gan CNC fisoedd lawer yn ôl, er mai nawr y mae'r cwmni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Ers iddynt ddechrau gweithredu, rwyf wedi derbyn nifer fawr o gwynion gan drigolion...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Amgylchedd yn Nhorfaen (16 Rha 2020)

Lynne Neagle: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn Nhorfaen ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon? OQ56057

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Lynne Neagle: Rwy'n troi yn awr at y prif faterion yr ydym ni o'r farn bod angen gwaith pellach arnyn nhw rhwng nawr a phasio'r Bil. Yn gyntaf, rydym ni'n credu bod angen mwy o sicrwydd ynglŷn â'r cydbwysedd a gaiff ei daro rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol. Rydym ni'n cefnogi'r nod o rymuso athrawon i gynllunio cwricwlwm sy'n diwallu anghenion disgyblion. Rydym ni hefyd yn cydnabod na...

18. & 19. Egwyddorion Cyffredinol y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (15 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gysylltiedig â'r Bil cwricwlwm ac asesu. Rwyf eisiau dechrau drwy ddweud bod ein pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Roedd y dystiolaeth a gawsom yn ei gwneud yn glir bod angen gwelliannau i'r cwricwlwm i alluogi ein...

17. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (15 Rha 2020)

Lynne Neagle: Mae'r sefyllfa sy'n ein hwynebu nawr yng Nghymru yn ddifrifol, ac rydym yn gweld twf eithriadol y coronafeirws. Pan siaradais yr wythnos diwethaf, tynnais sylw at y pwysau enfawr oedd ar y GIG ac ar ofal cymdeithasol yng Ngwent. Ers hynny, mae'r sefyllfa wedi gwaethygu. Ddydd Gwener, bwrdd iechyd Aneurin Bevan oedd y cyntaf yng Nghymru i atal yr holl driniaeth nad yw'n driniaeth frys oherwydd...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Rha 2020)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau Brexit i weithgynhyrchu yng Nghymru?

7. & 8. Dadl: Cyfyngiadau Coronafeirws Newydd (Gohiriwyd o 8 Rhagfyr) a Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Coronafeirws — Cyfyngiadau mis Rhagfyr ( 9 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw ac i gefnogi'r camau pellach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai yn y diwydiant lletygarwch sydd wedi gweithio'n galed i geisio gwneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID, ond rwy'n credu, fel y gwneuthum drwy gydol y pandemig hwn, mai...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth i fabanod a rhieni newydd yn ystod COVID-19 ( 9 Rha 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i gyd-gyflwynwyr y ddadl heddiw, Leanne Wood a Bethan Sayed. Rwy'n gwybod bod swyddfa Bethan wedi cyhoeddi ymchwil werthfawr iawn i'r maes hwn, ond mae hi hefyd yn dod â phersbectif personol hanfodol i'r pwnc hwn ar ôl cael babi ei hun yn ystod y cyfyngiadau. Rwyf hefyd am gydnabod y gefnogaeth gan Aelodau ar draws y Siambr a hefyd y Gymdeithas...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Y Cwricwlwm Newydd (25 Tach 2020)

Lynne Neagle: Weinidog, credaf fod y cynlluniau i bob plentyn yng Nghymru gael hawl orfodol i addysg rhyw a chydberthynas sy'n briodol i'w datblygiad yn un o gryfderau mawr y cwricwlwm newydd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i gytuno â mi fod cael y ddarpariaeth honno'n hanfodol o safbwynt hawliau plant, a hefyd ei bod yn allweddol er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gadw eu hunain yn...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol (18 Tach 2020)

Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (18 Tach 2020)

Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amgylchedd yng nghymoedd de Cymru?

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Tach 2020)

Lynne Neagle: Hoffwn i ofyn am ddatganiad llafar gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ymweliadau â chartrefi gofal. Yr oeddwn i'n ddiolchgar iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog iechyd meddwl am fod yn bresennol yn y grŵp trawsbleidiol ar ddementia a gafodd ei gynnal gennym ni'n ddiweddar a lle'r oeddem ni'n canolbwyntio ar y mater hwn, ond rwy'n siŵr y byddai'r ddau'n cytuno...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Tach 2020)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran sicrhau y gall trigolion cartrefi gofal weld eu hanwyliaid yn ystod pandemig COVID-19?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Iechyd Meddwl ( 4 Tach 2020)

Lynne Neagle: Weinidog, y mis diwethaf, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ein dilyniant i'n hadroddiad pwysig 'Cadernid Meddwl' ac rydym yn aros yn eiddgar am eich ymateb i'n hargymhellion a ddiweddarwyd. Credaf fod yr adroddiad yn nodi trywydd clir ar gyfer y newidiadau y gwyddom fod eu hangen ar frys i gefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Er y bu rhywfaint o gynnydd sydd i'w...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (20 Hyd 2020)

Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal hunanladdiad yng Nghymru?

4. Datganiadau 90 Eiliad (14 Hyd 2020)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Yr wythnos hon, rydym yn dathlu Diwrnodau Erasmus, a gynlluniwyd i nodi'r cyfleoedd sy'n newid bywydau y mae'r cynllun rhyngwladol yn eu darparu i ddysgwyr galwedigaethol gael profiad gwaith a hyfforddiant yng ngwledydd Ewrop. Fel rhywun a gafodd fudd o gynllun Erasmus, rwy'n falch o adrodd bod ysbryd Erasmus+ yn fyw ac yn iach yng Ngwent. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae dros...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.