David Melding: Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Bydd toriad byr yn awr i ganiatáu newid personél yn y Siambr.
David Melding: Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb.
David Melding: Diolch. Nid wyf yn credu bod gennyf unrhyw Aelodau eraill yn ceisio tynnu fy sylw, felly rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.
David Melding: Diolch. Nid yw'n ymddangos bod gennyf unrhyw Aelodau eraill yn ceisio tynnu fy sylw. A, oes mae. Alun Davies.
David Melding: Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
David Melding: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid yw eitem 6: ymchwiliad i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb. A galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.
David Melding: Helen Mary Jones i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Diolch, Suzy. Y Senedd ar ei gorau, os caniateir i mi wneud sylwadau o'r Gadair. Galwaf yn awr ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
David Melding: Trefn. Trefn. Mae'r Senedd yn ôl yn eistedd.
David Melding: Symudwn at eitem 5, sef dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21, endometriosis—gobeithio fy mod wedi ynganu hynny'n gywir—a galwaf ar Jenny Rathbone i wneud y cynnig.
David Melding: Rwy'n gwisgo fy siwt wlân o frethyn Tywysog Cymru. [Chwerthin.]
David Melding: Weinidog, mae'n debyg bod hwn yn un o feysydd pwysicaf polisi cyhoeddus, a bydd hynny'n wir yn y 2020au, a hyd yn oed yn y sector preifat bydd angen llawer o gymorth grant arnom fel y gall perchnogion cartrefi osod boeleri newydd a chynlluniau inswleiddio ac yn y blaen. Felly, bydd angen sgiliau helaeth i wneud yr holl waith ôl-osod hwn, yn enwedig yn yr hen stoc dai, gyda chyfran dda ohoni...
David Melding: Weinidog, un o ganlyniadau COVID yw ein bod wedi gweld llawer o'n mannau trefol yn cael eu hail-lunio yn gyflymach nag ar unrhyw adeg yn ystod y 25 mlynedd diwethaf: systemau unffordd ar gyfer cerddwyr, parthau di-draffig, neu draffig yn cael ei gyfyngu beth bynnag. Rydym hefyd wedi gweld mwy o alw am lawer mwy o reoleiddio traffig mewn rhai mannau, ac mae dinasoedd eraill ledled y byd, fel...
David Melding: Rwyf i'n siarad fel yr Aelod a gynrychiolodd grŵp y Ceidwadwyr yn nhrafodion Cyfnod 1, ac a etholwyd i'r pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol at y diben hwnnw, ond nid fi yw'r llefarydd ar dai mwyach, a bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn swyddogol ar ran y grŵp yn ddiweddarach. A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn o gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn? Rwyf i'n...
David Melding: Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn cael seibiant byr i ganiatáu newid aelodau yn y Siambr.
David Melding: A David Rees.
David Melding: Na, does dim 'yn olaf', Janet Finch-Saunders.
David Melding: Gweinidog.
David Melding: Diolch, Vikki. Dyna ddau gwestiwn. Rydych chi ar ddwy funud, nawr—munud drosodd. Gweinidog.