Canlyniadau 201–220 o 10000 ar gyfer speaker:Vaughan Gething OR speaker:Vaughan Gething OR speaker:Vaughan Gething OR speaker:Vaughan Gething

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig — 'Codi’r bar: Sicrhau dyfodol y sectorau lletygarwch, twristiaeth a manwerthu' ( 9 Tach 2022)

Vaughan Gething: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn innau hefyd ddiolch i aelodau Pwyllgor yr Economi, Masnach, a Materion Gwledig am eu hymchwiliad manwl a'u hadroddiad ar ddyfodol lletygarwch, twristiaeth a manwerthu a arweiniodd at y ddadl hon heddiw. Fel y gwyddom i gyd, mae profiad y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn her sylweddol i'r rhan fwyaf o fusnesau yn y rhan fwyaf o sectorau yma yng...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Mae'r banc datblygu yn weithredol yn y maes hwn eisoes, yn cefnogi perchenogaeth gan y gweithwyr, ond mae'n rhaid iddo weithio ochr yn ochr ag eraill fel Cwmpas Cymru, fel gwyddoch chi. Fe fyddwn i'n hapus i gael sgwrs ehangach â chi. Fel gwyddoch chi, yn y digwyddiad heddiw, fe wnes i ymrwymo i gael sgwrs â chi a gweithredwyr eraill yn y maes hwn nid yn unig ar gyfer ystyried y syniadau a...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Fe geir dau bwynt bras yn y fan yna. Y cyntaf yw hyn, ydw, pan fyddaf i'n siarad â'r banc datblygu rwy'n hoffi gwybod i ble y bydd y buddsoddiad hwnnw'n mynd. Pe byddai hwnnw'n mynd i gyd yn ddestlus i ranbarth Caerdydd a'r cyffiniau yn unig, ni fyddai hynny'n briodol wedyn yn fy marn i, oherwydd fe gafodd ei sefydlu yn rhannol i ymdrin â'r bwlch y soniwyd amdano ynglŷn â chwmnïau bach i...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Nid yw cynyddu diogelwch bwyd yn y wlad yn amcan penodol i'r banc datblygu. Nid yw'n amcan penodol y gwnaethom ni ei bennu. Er hynny, rydym ni wedi pennu amcanion ynghylch helpu Cymru i bontio i economi fwy cynaliadwy a chynlluniau ynghylch sero net. Lesley Griffiths, fel gwyddoch chi, yw'r Gweinidog sy'n arwain y sector fwyd. Fe soniais i am hynny'r wythnos diwethaf, ac fe nododd Alun Davies...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiynau. Rydych chi'n iawn; mae twf o fach i ganolig ac o ganolig i fawr wedyn yn un o'r heriau mawr i ni o ran yr economi. Mewn gwirionedd, dyma un o'r union bethau y gall Banc Datblygu Cymru ei wneud, oherwydd, yn aml, methu â chael gafael ar gyllid sy'n dal pobl yn ôl. Dyma pryd mae banciau ar y stryd fawr wedi gweld bwlch yn yr hyn y maen nhw'n ei wneud ac mae Banc...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: I ddechrau, ynglŷn â'ch pwynt chi am y cyrsiau unigol sydd ar gael, nid wyf i mewn sefyllfa i ateb y pwynt arbennig hwnnw nawr, ond fe fyddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod yn dod yn ôl atoch chi gyda'r manylion o ran y pwynt arbennig hwnnw. Ynglŷn â'ch pwynt olaf chi ynghylch buddsoddiad sero net a'r cyhoeddiad a wnaethom ni heddiw ynghylch y gefnogaeth newydd a ddylai fod ar gael i helpu...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Diolch am y gyfres o gwestiynau. Mae hon yn sefyllfa fanteisiol i fod yn gwneud datganiad ynddi hi, sef bum mlynedd ar ôl i Ken Skates lansio'r banc datblygu. Mae hi'n deg dweud, ar y pryd, nad oedd pawb mor obeithiol y byddem ni'n gallu dathlu ei daith lwyddiannus ef nawr, a'i gyflawniadau o ran ei nodau buddsoddi sydd wedi bod yn well na'r disgwyl. O ran eich pwynt chi ynglŷn â busnesau...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Nawr, mae gan Gymru gydnerthedd cynhenid. Mae busnesau Cymru wedi camu i'r adwy ac wedi datblygu gallu rhyfeddol i addasu i'r heriau anoddaf. Yr ysbryd hwn sydd wedi cynnal cymaint o fusnesau yn ystod ansicrwydd y cyfnod diweddar. Yn gwrthgyferbynu yn llwyr â Llywodraeth y DU, mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed yn ogystal â rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu i...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Banc Datblygu Cymru — Buddsoddi Uchelgeisiol (25 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Diolch i chi, Llywydd dros dro. Rwy'n gwybod bod busnesau a gweithwyr yn ymgodymu o'r newydd ag ysgytwadau gwirioneddol unwaith eto. Yn dilyn llawer o drafodaethau a gefais i gyda busnesau yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwy'n cydnabod yr anawsterau aruthrol y maen nhw'n eu hwynebu. Nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw amheuaeth ynghylch difrifoldeb y sefyllfa. Mae ein heconomi ni'n fwy...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cymorth i Fusnesau (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Rydym yn gwneud popeth yn ein gallu gyda'r ysgogiadau sydd gennym ar gael i ni i geisio cefnogi busnesau sydd yn yr union sefyllfa hon. Rydym yn gwybod bod yna amrywiaeth o fusnesau sy'n defnyddio llawer o ynni, fel y dywedais yn gynharach mewn ymateb i'ch cyd-Aelod Luke Fletcher, a'n her yw bod eisiau cael setliad ar gymorth Llywodraeth y DU, ond hefyd yr hyn y gallwn ni ei wneud i geisio...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cymorth i Fusnesau (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Mae'r prif ysgogiadau i fynd i'r afael â chynnydd mewn costau i fusnesau, cyfraddau llog ar gyfer benthyca, treth ar ffawdelw a rheoleiddio'r farchnad ynni oll ym meddiant Llywodraeth y DU. Ein blaenoriaeth ni yw cefnogi busnesau i ddatgarboneiddio ac i arbed ynni, fel y soniais mewn ymateb i gwestiynau blaenorol heddiw. Rydym yn parhau i nodi cyfleoedd i ailgyfeirio adnoddau er mwyn lleihau...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cysylltedd Didigol (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Rwy'n fwy na pharod i ddweud hynny. Daw yn sgil gwaith cyson a wnaed ar draws y Llywodraeth hon ar wahanol ffurfiau. Efallai na wnaethoch chi glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad yn gynharach, ond rydym wedi buddsoddi £200 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i Superfast Cymru. Mae hwnnw'n arian mewn maes sydd heb ei ddatganoli. Rydym yn cydnabod manteision sylweddol gwella a llenwi bylchau yn...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cysylltedd Didigol (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Nid yw polisi telathrebu wedi'i ddatganoli i Gymru, ond eto mae economi gogledd Cymru yn elwa'n uniongyrchol o gyflwyno'r cynllun band eang gwerth £56 miliwn a'n grant o £4.2 miliwn i'r ganolfan brosesu signalau digidol ym Mhrifysgol Bangor, wrth i Lywodraeth Cymru barhau i gamu i'r adwy lle nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diffyg yn y Gweithlu a'r Bwlch Sgiliau yng Ngogledd Cymru (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Wrth gwrs, rwy'n credu bod gan hyn a'n Llywodraethau blaenorol dan arweiniad Llafur Cymru hanes da o hyrwyddo prentisiaethau, nid yn unig o ran niferoedd, ond hefyd o ran eu hansawdd a'r ystadegau cwblhau. Rwy'n cofio Ken Skates, pan oedd yn ddyn iau byth, fel Gweinidog sgiliau, a'r gwaith a wnâi a'r ffaith bod ein ffigyrau cwblhau hyd yn oed y pryd hwnnw'n llawer gwell na'r hyn a gâi ei...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diffyg yn y Gweithlu a'r Bwlch Sgiliau yng Ngogledd Cymru (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiynau. Rydym yn sicr yn ceisio gwella rhagolygon cyflogaeth i bobl sy'n anweithgar yn economaidd, yn enwedig pobl dros 50 oed. Yn arbennig o amlwg ar ddiwedd y pandemig a wedyn, gwelsom nifer o bobl yn gwneud dewisiadau, a rhai o'r rheini'n ddewisiadau bwriadol ynghylch eu hawydd i sicrhau cydbwysedd gwahanol rhwng gwaith a bywyd, ond hefyd amrywiaeth o bobl eraill gyda hanes...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diffyg yn y Gweithlu a'r Bwlch Sgiliau yng Ngogledd Cymru (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Rwyf wedi nodi camau o fewn y cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i helpu pawb, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i lywio ac ymateb i unrhyw heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y gallent fod yn eu hwynebu, boed hynny drwy hyfforddiant, uwchsgilio neu newid gyrfaoedd.

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Pyllau Nofio (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Mae hynny'n mynd yn ôl at rai o'r pwyntiau a wneuthum mewn ymateb i gwestiynau cynharach am yr hyn yr ydym yn ei ystyried o ran cynyddu ein cefnogaeth i fusnesau i ddatgarboneiddio a hefyd i ddileu risg eu cyflenwad ynni eu hunain drwy gynhyrchu ynni—mae hynny'n cynnwys cynlluniau gwresogi ardal hefyd—ac edrych ar lle mae gennym fentrau economaidd gwahanol a sut y gellir defnyddio'r...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Pyllau Nofio (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Rydych yn iawn, mae gennym heriau mawr iawn. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn ei amser preifat, fel tad, yn mwynhau nofio, ac rwyf innau hefyd wedi manteisio ar y cyfle i fynd i dreulio amser gyda fy mab fy hun, ond rwy'n cydnabod bod y gweithgaredd hwnnw dan bwysau mawr oherwydd cost ynni, ac un o'r pethau nad yw'n cael ei drafod yn aml yw costau mewnforion cemegol fel problem go iawn i'r sector...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Pyllau Nofio (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Mae pyllau nofio cyhoeddus yn adnodd iechyd a hamdden pwysig, ac yn yr un modd, yn rhan bwysig o lesiant ein cenedl. Gwyddom fod nifer ohonynt yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Nid oes gennym asesiad manwl o'r nifer a allai orfod cau. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos, a lle bo angen, os oes angen, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i wneud popeth posibl i sicrhau eu...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Arloesi (19 Hyd 2022)

Vaughan Gething: Rydym yn ffyddiog yn ein huchelgeisiau o ran ein gallu i ddenu busnesau newydd i Gymru, yn ogystal â thyfu ac ehangu busnesau sydd eisoes wedi eu sefydlu yma. Enghraifft dda o hynny yw'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd. Yn ddiweddar, mynychais y seremoni arloesol gyda Jayne Bryant yn ei hetholaeth ar gyfer KLA Corporation—750 o swyddi newydd yn cael eu creu gyda chyflog cyfartalog...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.