Canlyniadau 201–220 o 2000 ar gyfer speaker:Mick Antoniw

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gwahaniaethu ar sail Hil o fewn y System Gyfiawnder ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch yn fawr am eich cwestiwn. Rydym wedi gweithio gyda phartneriaid bwrdd cyfiawnder troseddol Cymru i ddatblygu'r cynllun gwrth-hiliaeth cyfiawnder troseddol i Gymru, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi. Mae'r ddogfen hon yn nodi saith ymrwymiad i wireddu system cyfiawnder troseddol wrth-hiliol, sy'n ategu ein 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hawliau Undebau Llafur ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn, ac fe wnaethoch chi ymdrin â nifer o feysydd yr ydym wedi eu trafod a dadlau yn eu cylch yn y Siambr hon droeon. A fyddwn i'n hoffi gweld cyfraith cyflogaeth yn cael ei datganoli? Rwy'n credu bod cyfraith cyflogaeth yn symud i sefyllfa lle mae angen datganoli mwy a mwy ohoni. Mae'r frwydr a gawsom ynglŷn â sut yr awn ati i ddeddfu yn y meysydd economaidd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Hawliau Undebau Llafur ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gydag undebau llafur. Byddwn ni'n parhau i wneud popeth y gallwn ni i gefnogi'r gwaith pwysig y mae undebau llafur yn ei wneud ar ran eu haelodau.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: A gaf fi ddechrau gydag agoriad eich cwestiwn efallai, sef eich datganiad fod eich pwyllgor yn mwynhau llwythi gwaith trwm, oherwydd mae hynny'n rhywbeth a fydd yn dod i'r amlwg? Mae'n fater difrifol ac rwy'n credu bod angen inni feddwl yn ofalus iawn amdano. Rydym yn rhoi ystyriaeth ofalus i weld a oes ffyrdd y gallwn ailddatgan deddfwriaeth en bloc, er enghraifft, a rhoi mwy o amser inni...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Roeddwn yn meddwl mai larwm tân amserol ydoedd.  Felly, mae goblygiadau sylweddol iawn. Hoffwn ddweud hyn wrth yr Aelod: ni ddylech danbrisio'r wir effaith, y wir her, y gwir alw sydd ynghlwm wrth hyn. Rwy'n credu bod pryderon difrifol ar draws holl Lywodraethau a gwledydd y DU, yn y gwahanol adrannau, hyd yn oed yn Llywodraeth y DU, ynglŷn â sut ar y ddaear y gellir cyflawni hyn o fewn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Wel, os caf ddechrau drwy ddweud ei bod yn amlwg iawn nad yw'r Aelod wedi darllen y ddeddfwriaeth, neu fel arall, efallai y byddai ganddi fwy o bryderon ynghylch y ffordd y mae'n mynd rhagddi? Yn gyntaf, rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Mr Rees-Mogg cyn i'r Prif Weinidog newid, ac rwyf wedi cael cyfarfod diweddar hefyd, yn benodol i drafod y Bil. Y materion y credaf eu bod yn ymwneud â ni, yn...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Cafodd copi llawn o'r Bil, yn ogystal â chynnwys polisi newydd ar fachlud cyfraith yr UE a ddargedwir, ei rannu gyda swyddogion Llywodraeth Cymru lai na 24 awr cyn ei gyflwyno ar 22 Medi. Rydym yn rhoi ystyriaeth briodol i'r Bil er mwyn deall yr effaith ar Gymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Wel, gwrandewch, rwyf wedi dweud sawl gwaith, ac rydych wedi fy nghlywed yn ei ddweud hefyd, am bwysigrwydd craffu, pwysigrwydd rôl eich pwyllgor, sydd, yn fy marn i, yn gwneud gwaith anhygoel o bwysig yn craffu ar ddeddfwriaeth. Fe wnaethoch fy nghlywed hefyd yn gwneud sylwadau ar yr anghysonderau a'r camweithrediadau cyfansoddiadol sy'n bodoli yn ein perthynas gyfansoddiadol â Llywodraeth...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Wel, diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch eich bod wedi cael cyfle i'w ofyn, a'r ateb syml yw: mae'r ddau ohonynt yn gywir, oherwydd ceir dwy agwedd ar hyn. Un, wrth gwrs, yw ein bod am gyflymu oherwydd yr holl resymau sydd wedi'u hamlinellu ynghylch pwysigrwydd y Bil plastigion untro, cael hwnnw drwodd, ac wrth gwrs o ran yr amserlen sydd wedi'i gosod o fewn terfyn amser Sefydliad Masnach y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Rwy'n credu bod y system bleidleisio drwy'r post yn sicr yn un system mewn amrywiaeth o ffyrdd. Un o'r manteision i ddigideiddio'r gofrestr etholiadol a chael systemau pleidleisio gwahanol yw ei fod yn gwneud pleidleisio'n fwy hygyrch wrth gwrs. Mae'n ei wneud yn fwy hygyrch i'r rhai sydd ag anabledd penodol—mae llawer mwy o opsiynau yno—ac mae'n llawer mwy cynhwysol. A pheidiwch ag...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Na, nid wyf yn derbyn hynny, ac rwy'n credu bod eich cynsail yn anghywir mewn gwirionedd, oherwydd nid dangos cynnydd sylweddol yn y nifer a bleidleisiodd oedd y prif reswm dros wneud hyn, oherwydd mae treialon eraill tebyg wedi bod o amgylch y wlad sydd hefyd wedi bod yn archwilio opsiynau technolegol ac yn y blaen. Nid ydych yn newid diwylliant etholiadau a chanfyddiadau pobl—nid heb...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rwyf eisoes wedi gwneud datganiad ar hynny—mae datganiad ysgrifenedig wedi cael ei gyhoeddi. Credaf ei fod yn ddatganiad a oedd yn cynnwys cryn dipyn o bethau cadarnhaol, oherwydd roedd yn dangos bod modd goresgyn llawer o'r materion technegol a'r problemau a fyddai'n deillio o system etholiadol wedi'i digideiddio a bod modd eu gweinyddu, a chredaf y byddwn yn dysgu'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol o'r llythyr a anfonodd y comisiynydd dioddefwyr, y Fonesig Vera Baird, yn ddiweddar. A gaf fi nodi ambell bwynt? Rwy'n credu mai'r cyntaf, ynghylch fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yw fy mod yn gwybod ei bod wedi cyfarfod â'r Fonesig Vera Baird ar sawl achlysur i siarad am faterion yn ymwneud â dioddefwyr, a hefyd gyda chyrff eraill....

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Ymddiswyddiad Comisiynydd Dioddefwyr Lloegr a Chymru ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn. Mae polisi dioddefwyr yn parhau'n gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i wella canlyniadau i ddioddefwyr yng Nghymru. Rydym yn credu y dylai pob dioddefwr gael ei drin ag urddas a pharch, a chael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.  

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganoli Cyfiawnder ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae mater llysoedd crwneriaid yn un pwysig, ac mae'n un a godwyd gennyf yn y Siambr hon sawl gwaith, ond hefyd fe gafodd ei ystyried yng nghomisiwn Thomas ac fe gyfeirir ato hefyd yng 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, o ran eich etholwr—ac rwy'n gwybod fel rhywun sydd wedi cynrychioli llawer o bobl mewn llysoedd crwneriaid dros...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganoli Cyfiawnder ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: Diolch am eich cwestiwn. Mae gennyf gyfarfod rhagarweiniol gyda'r Twrnai Cyffredinol newydd yn fuan, ac rwyf hefyd yn gobeithio cyfarfod â thîm gweinidogol yr Arglwydd Ganghellor a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder maes o law. Wrth gwrs, byddaf yn gwneud yr achos dros ddatganoli cyfiawnder yn ystod y trafodaethau hyn.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: We have completed our analysis on apprenticeships at level 3 and level 5. From September, employers have been able to enrol employees with training providers to qualify as a paralegal or advanced paralegal. We continue to work with stakeholders to critically assess the need for a solicitor apprenticeship.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: The clear and compelling case for Senedd reform has been repeatedly made, including by the Special Purpose Committee on Senedd Reform. The scrutiny role of the Senedd is vital to a healthy democracy, and it is right that we should ensure that it is fully equipped to carry it out.

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ( 5 Hyd 2022)

Mick Antoniw: I will look for a positive, constructive relationship with the new Government, founded on respect for the devolution settlement. I will ensure that our own priorities are clearly articulated and understood. In turn, the UK Government must demonstrate that it will enter into genuine dialogue on matters of shared interest.

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (20 Med 2022)

Mick Antoniw: Diolch. Mae hynny'n gwestiwn pwysig iawn, oherwydd, wyddoch chi, dydym ni ddim mewn amgylchedd statig. Nid cynhyrchu rhestr yw hyn ac yna gallwn ni gyd fynd i ffwrdd a bod yn fodlon fod popeth yn foddhaol. Ac, wrth gwrs, roedd eich cwestiwn yn arwain yn rhannol at yr hyn a ofynnwyd yn gynharach, sef, 'Beth yw'r meysydd eraill?' Ac, wrth gwrs, gallwn ni i gyd nodi, rwy'n credu, meysydd eraill...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.