Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Mae un o bob tri plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac nid oes gan bron i bedwar o bob 10 cartref ddigon o arian i brynu dim byd y tu hwnt i eitemau bob dydd. Ac mae grwpiau gwrthdlodi yn rhybuddio, wrth gwrs, y bydd y lefelau tlodi uchel yma yn gwaethygu wrth i'r argyfwng costau byw dwysáu. Wrth i gyllid gormod o deuluoedd felly gael ei wasgu, mae'n fwy hanfodol nag...
Sioned Williams: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac mae’n dda clywed bod cynnydd yn cael ei wneud ar ein hymateb i gynllun noddi’r DU, gan fod y cynllun hwnnw ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yn gwbl annigonol. Mae'r system yn rhy araf, mae'n anghyson, ac mae wedi cadw awdurdodau lleol Cymru yn y tywyllwch. Ysgrifennodd arweinydd Cyngor Gwynedd ddoe at Brif Weinidog y DU, yn mynegi cryn bryder ynghylch yr...
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae 3 miliwn o ffoaduriaid bellach wedi gadael Wcráin. Mae’r DU yn ei gwneud yn ofynnol i’r ffoaduriaid hynny wneud cais am fisâu, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu rheolau fisâu, er bod hyn yn gwrth-ddweud ein rhwymedigaethau rhyngwladol o dan gonfensiwn ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig 1951, sy’n nodi na ddylai unrhyw un sy'n ffoi rhag...
Sioned Williams: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar blant? OQ57787
Sioned Williams: Ac, yn olaf, dros yr wythnosau diwethaf, bydd y Gweinidog yn ymwybodol y bu nifer o gynigion polisi o du San Steffan a oedd yn cynnwys cynnig i gyfyngu ar gymhwyster ar gyfer cyllid myfyrwyr mewn modd a fyddai'n effeithio ar fynediad at gyfleon addysgol drydyddol. Hoffwn wybod, felly, beth sy'n cael ei gynllunio gan y Gweinidog i sicrhau na fydd unrhyw newidiadau yn Lloegr yn cael effaith ar...
Sioned Williams: Mae undebau llafur wedi galw am ychwanegu dyletswydd strategol ar bartneriaeth gymdeithasol a gwaith teg at y Bil, o gofio y byddai'n cyd-fynd â holl amcanion y Bil. Gwnaethon nhw hi'n glir i ni yn y pwyllgor ei bod yn bwysig cyfeirio'n benodol at y Bil hwn, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) disgwyliedig, gan y byddai'n atgyfnerthu...
Sioned Williams: Rwy'n falch o gyfrannu i'r ddadl ar ran Plaid Cymru a hefyd fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac rwy'n falch o nodi bod Plaid Cymru a rhanddeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i'r Bil hwn, er y nododd pawb a oedd yn gysylltiedig â'r broses graffu feysydd i'w diwygio. Ond hoffwn adleisio'r diolch i'r Gweinidog am y modd agored y mae e wedi cydweithio ac ymateb i'r adborth a'r...
Sioned Williams: Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r baich gofal di-dâl sy'n syrthio'n bennaf ar fenywod?
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Fel y gŵyr pob un ohonom, mae teuluoedd ledled Cymru gyfan yn wynebu un o’r argyfyngau costau byw mwyaf difrifol ers degawdau. Mae costau cynyddol, prisiau ynni cynyddol a chyflogau sy'n aros yn eu hunfan yn golygu bod miloedd o aelwydydd yn fy rhanbarth yn ei chael hi'n anodd talu am eitemau bob dydd. Ac ym mis Ebrill, wrth gwrs, bydd costau ynni'n codi hyd yn oed...
Sioned Williams: 3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gydag awdurdodau lleol ynghylch effaith cyfraddau treth cyngor ar yr argyfwng costau byw? OQ57737
Sioned Williams: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad a hoffwn ategu ei theyrnged i fenywod Wcráin ar fy rhan i fy hun ac ar ran fy mhlaid. Bu'n rhaid i fy mam-gu roi'r gorau i'w swydd pan oedd hi'n briod. Dechreuodd fy mam ei gyrfa fel athrawes ar lai o gyflog na'i chymheiriaid a oedd yn ddynion. Bues i’n gweithio'n rhan-amser am dros ddegawd oherwydd nad oeddwn i’n gallu dod o hyd i ofal plant addas....
Sioned Williams: Diolch. Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, sy'n gwasanaethu trigolion yn fy rhanbarth i, oedd y bwrdd iechyd â'r gostyngiad canrannol uchaf yn niferoedd y deintyddion GIG, gyda 22 y cant yn llai o ddeintyddion yn 2021, o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Efallai fod effaith y pandemig a newidiadau i ffiniau yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa hon, ond mae'r gostyngiad yn niferoedd y...
Sioned Williams: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y gostyngiad yn niferoedd y deintyddion gweithredol yn y GIG yng Ngorllewin De Cymru? OQ57739
Sioned Williams: Mae cysylltiad clir rhwng anhwylderau bwyta a'r cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau ehangach. Yn aml, gall apiau sy'n newid ymddangosiad siâp a maint corff arwain at waethygu anhwylderau bwyta, drwy annog a normaleiddio syniad afrealistig o'r hyn sy'n dderbyniol o ran ymddangosiad corfforol. Mae pwysau ar ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i olygu eu postiau, ac mae algorithmau'n...
Sioned Williams: Gwyddom fwy amdano, ond mae gennym ffordd bell iawn i fynd o hyd, ac mae mwy a mwy, fel y clywsom, o amrywiadau a mathau o anhwylder bwyta yn dod i'r amlwg bob dydd. O ystyried yr ystadegau a glywsom y prynhawn yma, gwyddom mai anorecsia sydd â'r gyfradd farwolaethau uchaf ar gyfer unrhyw salwch meddwl, mae gan 60,000 o bobl yng Nghymru anhwylder bwyta, ac ychydig iawn a wyddom o hyd, am y...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog. Sefydlwyd Cymwysterau Cymru ym mis Awst 2015, ac mae'n gorff rheoleiddio annibynnol a sefydlwyd i sicrhau bod cymwysterau'n effeithiol ar gyfer diwallu anghenion rhesymol dysgwyr yng Nghymru ac i hyrwyddo hyder y cyhoedd mewn cymwysterau a system gymwysterau Cymru. Rhaid i Cymwysterau Cymru lunio adroddiad blynyddol sy'n nodi sut y mae wedi arfer ei swyddogaethau. Fodd...
Sioned Williams: Heddiw, mae myfyrwyr o Gymru yn cymryd rhan mewn streic a drefnwyd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, a nod y streic yw dychmygu gweledigaeth newydd ar gyfer addysg, ac mae hefyd yn dangos cefnogaeth i'r camau diwydiannol a gymerwyd gan aelodau'r Undeb Prifysgolion a Cholegau, lle mae staff ym Mhrifysgol Abertawe a'r Brifysgol Agored yng Nghymru yn mynd ar streic ynghylch contractau ansicr,...
Sioned Williams: Diolch, Llywydd, a hoffwn ddatgan diddordeb bod fy ngŵr yn gweithio i Brifysgol Abertawe.
Sioned Williams: Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r system cyllid myfyrwyr i gefnogi myfyrwyr a graddedigion yn ystod yr argyfwng costau byw?
Sioned Williams: Sawl gwaith ydym ni wedi siarad yma hefyd am yr angen i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a merched, ac eto cafodd y gwelliant i wneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb, a gyflwynwyd gan yr Arglwyddi, ei wrthod gan Aelodau Seneddol y Torïaid? Mae hyn ar adeg pan fo ymddiriedaeth yn yr heddlu, yn enwedig ymddiriedaeth menywod, wedi'i ddifrodi gymaint, ac mae troseddau sy'n cael eu...