Sam Rowlands: Weinidog, diolch am eich ymateb i’r mater pwysig a godwyd gan yr Aelod dros Arfon. Gellir ailadrodd y mater a godwyd yno mewn llawer o ardaloedd ledled Cymru, yn enwedig fy rhanbarth i yn y gogledd, lle mae perygl arbennig o lifogydd arfordirol. Yn y Siambr yn gynharach y mis hwn, croesawais eich datganiad, neu ddatganiad Llywodraeth Cymru, ar reoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol. Yn...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw ar ddiwygio ardrethi annomestig. Fel y gwyddom, mae ardrethi busnes yn parhau i fod yn bryder enfawr i lawer o fusnesau ar hyd a lled Cymru, a chynhaliodd y Ffederasiwn Busnesau Bach arolwg cyn etholiadau'r Senedd yn 2021 a ganfu mai ardrethi busnes oedd y brif broblem sy'n wynebu busnesau, wrth i 99 y cant o'r rhai a ymatebodd gredu y byddai...
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ymateb. Rwy'n siŵr bod pob Aelod o bob rhan o'r Siambr yma heddiw yn cytuno bod gwrth-semitiaeth yn wrthun i bob un ohonom ni, a bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod hwn a phob math o hiliaeth yn cael eu dileu yng Nghymru. Ac fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, yn ôl ym mis Mai 2017, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru ddiffiniad Cynghrair Ryngwladol...
Sam Rowlands: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddileu gwrthsemitiaeth yng Nghymru? OQ57901
Sam Rowlands: Diolch, ac yn gyntaf hoffwn gofnodi fy niolch i Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl Aelodau hynod bwysig hon ar adeiladau crefyddol, a diolch hefyd i Darren Millar, Jane Dodds a Rhys ab Owen am gyd-gyflwyno. Hoffwn dynnu sylw hefyd at fy nghofrestr buddiannau—rwy'n ymddiriedolwr eglwys hefyd. Mae'n bleser, wrth gwrs, cael fy ngalw'n gefnogwr i'r cynnig hwn a siarad yma heddiw. Fel y dywed y...
Sam Rowlands: Diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei hymateb, ac o na bai pob cwestiwn a ofynnaf yn cael ei ddatrys mor gyflym o ran cymorth, a rhoi’r £500 hwnnw i’r gofalwyr di-dâl hynny. Ond o ddifrif, mae'r taliad hwn yn amlwg yn cydnabod y rhan anhygoel y mae gofalwyr di-dâl wedi'i chwarae drwy gydol y pandemig, ac rwy'n siŵr ei fod yn cael croeso gan bawb. Fodd bynnag, os caf, hoffwn ofyn i chi...
Sam Rowlands: Fe ddeuaf ato yn awr. Mae llawer o bobl yn y sector twristiaeth wedi eu syfrdanu gan y newidiadau hyn, ac yn eu gweld yn niweidiol i'w bywoliaeth. Felly, Weinidog, a ydych yn credu bod y newidiadau hyn yn dda i'r sector?
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac fel y byddech yn cytuno rwy'n siŵr, mae’r sector twristiaeth mor bwysig yma yng Nghymru, a dyna pam ei bod yn bleser cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar dwristiaeth. Edrychaf ymlaen at weld llawer o Aelodau’n dod i'r cyfarfod yr wythnos nesaf. Ond Weinidog, fel y gwyddoch, mae Cymru’n croesawu oddeutu 11 miliwn o ymwelwyr dros nos domestig, 87...
Sam Rowlands: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r sector twristiaeth? OQ57830
Sam Rowlands: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gofalwyr di-dâl yng ngogledd Cymru? OQ57831
Sam Rowlands: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am roi munud imi yn y ddadl fer heddiw, a rhaid imi ddweud iddo fy nychryn drwy ddweud y byddai rhai Ceidwadwyr yn cael eu denu gan deitl y ddadl heddiw, 'Diogelu mannau cymunedol: adfer rheolaeth', a beth bynnag a ddywedwch am Rhys ab Owen, ac mae llawer yn gwneud, mae'n adnabod slogan dda pan fydd yn gweld un. [Chwerthin.] Ond gan roi diffygion yr Aelod...
Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau, o bob rhan o'r Siambr heddiw, am gyfrannu at ein dadl hynod bwysig ar dai yng Nghymru—gyda llawer o wahanol safbwyntiau ac atebion posibl ar gyfer ymdrin â'r materion sy'n ein hwynebu. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb hefyd. Mae'n amlwg o'r cyfraniadau trawsbleidiol heddiw fod Aelodau yn...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Gan ichi grybwyll y cynigion newydd sy'n cael eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, nodaf y newid yn y meini prawf i lety hunanarlwyo fod yn agored i ardrethi busnes yn hytrach na thalu eu treth gyngor, ac felly hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar yr effaith y bydd hyn yn debygol o'i chael ar rôl cynghorau a'u rhan yn hyn o beth. Oherwydd mae'n debygol, wrth...
Sam Rowlands: 1. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ba adnoddau ychwanegol y bydd eu hangen ar awdurdodau lleol i weithredu'r trothwyon newydd ar gyfer llety hunanarlwyo sy'n gymwys ar gyfer ardrethi annomestig? OQ57756
Sam Rowlands: Diolch i'r Gweinidog a Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw ar setliad llywodraeth leol 2022-23. Ar y pwynt hwn, rwyf am ddatgan buddiant fy mod yn dal i fod yn aelod etholedig o Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ac yn anffodus, ar ôl 14 mlynedd, bydd hynny'n newid yn fuan eleni. Yn sicr, hoffwn ymuno â'r Gweinidog i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi ei wneud gan ein cynghorau...
Sam Rowlands: Diolch, Weinidog, am gyflwyno'r datganiad heddiw. Ac wrth ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, ac fel sydd wedi ei amlinellu gennych chi, Weinidog, a gan gyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, ein bod yn parhau i ddathlu llwyddiannau menywod a merched o bob rhan o Gymru. Ac ar y diwrnod hwn hefyd, fel sydd wedi ei amlinellu gan Sioned Williams, mae'n bwysig ein bod...
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi heddiw a'r ymatebion hyd yn hyn yn y Siambr hon. Gan eich bod yn ddilynwyr brwd o'r Cyfarfod Llawn, rwy'n siŵr eich bod chi wedi sylwi fy mod i wedi gofyn cwestiwn yr wythnos diwethaf i'r Gweinidog newid hinsawdd ynghylch y cyfleoedd yn arbennig yn y gogledd ynghylch ynni adnewyddadwy a'r gadwyn gyflenwi yn y fan honno, ac am wneud yn fawr o'r...
Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi hefyd yn gweld y cyfleoedd sydd gan ynni adnewyddadwy i'w cynnig i ni yng ngogledd Cymru a Chymru gyfan. Os ydym yn ddigon uchelgeisiol, gallem weld trawsnewid ein heconomi drwy'r economi werdd sydd yno o'n blaenau. Fel y gwyddoch, rwy'n siŵr, mae nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy sylweddol yn...
Sam Rowlands: Diolch i'r Aelod dros Arfon am godi'r cwestiwn pwysig hwn, oherwydd fel hithau, mae trigolion wedi bod mewn cysylltiad yn rhannu eu straeon trychinebus am y cynllun yn eu heiddo. Weinidog, fe wnaethoch dynnu sylw at rywfaint o'r arian sydd ar gael i gyngor Pen-y-bont ar Ogwr, er enghraifft, a byddwn yn gobeithio y byddai Cyngor Gwynedd am weithio gyda chi ac eraill i gefnogi'r trigolion...