I want to write to Samuel Kurtz
Samuel Kurtz: Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Aberconwy am roi cyfle imi siarad yn ei dadl y prynhawn yma. Efallai fod fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol iawn o fy nghysylltiad â morlo llwyd yr Iwerydd. Yn wir, mae'r cartref teuluol wedi ei enwi ar ôl un. Fel ei hyrwyddwr rhywogaethau yma yn y Senedd, rwy'n hynod ddiolchgar o gynrychioli, a bod yn llais dros greadur mor wych sy'n byw yn y dyfroedd oddi ar ar...
Samuel Kurtz: Diolch, Dirprwy Weinidog, ond byddwch chi'n ymwybodol bod sawl lleoliad yn fy etholaeth i, sef Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn gweld llawer o erydu, ar yr arfordir ac oherwydd llifogydd, ac rwyf i wedi mynegi fy rhwystredigaethau o'r blaen am ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru yn taflu'r cyfrifoldeb yn ôl a blaen o ran pwy sy'n gyfrifol am...
Samuel Kurtz: Diolch, Dirpwy Lywydd, a diolch i'r Dirprwy Weinidog hefyd am y datganiad.
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Rhys.
Samuel Kurtz: Diolch i ti am ddod ymlaen â'r ddadl yma prynhawn yma.
Samuel Kurtz: Hoffwn ddechrau drwy sôn am Barc Penllwyn yn fy etholaeth yn nhref Caerfyrddin, parc sy'n eiddo i Gyngor Tref Caerfyrddin, ond yn anffodus, oherwydd sbwriel a gwydr, nid ydynt wedi gallu agor y gatiau a chaniatáu i bobl fynd yno i'w ddefnyddio, felly mae'r gatiau hynny wedi'u cloi, sy'n golygu mai dim ond y clwb pêl-droed ar fore Sadwrn sy'n gallu defnyddio'r man cymunedol hwn, a chredaf...
Samuel Kurtz: Mae pwynt 1 yn y cynnig hwn yn defnyddio peth o'r iaith gryfaf y gallwn ni fel Aelodau o'r Siambr hon ei defnyddio heb gael ein ceryddu gennych chi, Ddirprwy Lywydd—fod y Senedd hon yn ffieiddio at ymosodiad Ffederasiwn Rwsia ar Wcráin. Ond mae'n bwynt, rwy'n siŵr, na fydd neb yn y Siambr hon yn anghytuno ag ef. Yn ddi-os, mae troseddau rhyfel wedi'u cyflawni yn Wcráin. Mae'r...
Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor dadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar Wcráin. Yfory, bydd yn bythefnos ers i Rwsia ymosod ar wladwriaeth annibynnol sofran Wcráin—ymosodiad sydd wedi brawychu'r byd ac sydd wedi uno gwledydd democrataidd yn eu condemniad o weithredoedd creulon yr Arlywydd Vladimir Putin yn erbyn ein cynghreiriad Ewropeaidd. Mae'n gywir ac yn bwysig ein bod...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am hynny, Weinidog, oherwydd gwn fod Rob yn angerddol iawn ynglŷn â'r mater hwn, ac mae wedi siarad yn helaeth amdano yn San Steffan, mewn sesiynau pwyllgor dethol yno. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech godi'r mater yn eich cyfarfod rhynglywodraethol. Yn olaf, rwy'n falch eich bod yn y Siambr ddoe pan gododd fy nghyd-Aelod Andrew R.T. Davies y pryderon ynghylch sefyllfa...
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'n galonogol gwybod, hyd yn oed os oes llai ohonynt, nad ydynt yn cael eu trin yn llai cyfartal na rhannau eraill o'r diwydiant amaethyddol. Wrth symud ymlaen, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r angen i ddiogelu cyllid ar gyfer swydd cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt Cymru droeon, swydd sy'n cael ei gwneud gan Rob Taylor ar hyn o bryd....
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn 2019, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £1.29 miliwn i gefnogi a thyfu sector moch Cymru, gyda Cyswllt Ffermio yn dweud bod cynhyrchiant moch yn profi adfywiad yng Nghymru. Yn anffodus, mae digwyddiadau byd-eang, megis colli'r farchnad allforio i Tsieina yn achos rhai proseswyr moch, yr aflonyddwch rhyngwladol i gyflenwadau carbon deuocsid, a'r prinder llafur...
Samuel Kurtz: Pa gamau y mae'r Gweinidog wedi'u cymryd i sicrhau bod y setliad llywodraeth leol yn deg i holl drigolion Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y cynllun lles anifeiliaid Cymru gan Lywodraeth Cymru?
Samuel Kurtz: Ac yn olaf, fy mhumed pwynt, ein hiaith. Mae pawb yn siarad ein hiaith gyda balchder, a dyna yn union y pwynt: mae'r iaith Gymraeg i bawb ac mae'n chwarae rhan hollbwysig yn ein treftadaeth, ein hanes, a'n diwylliant. Ddoe, sefais yma a siarad am sut mae hunaniaeth cenedl nid yn unig yn seiliedig ar ddiwylliant a thraddodiad, ond cymuned hefyd.
Samuel Kurtz: Wrth i mi ddirwyn i ben, rwy'n myfyrio ar eiriau mab enwocaf Talacharn, Dylan Thomas, a ddywedodd am Gymru, 'Gwlad fy nhadau? Gall fy nhadau ei chael!' Mentraf ddweud, Ddirprwy Lywydd, fod y bardd Cymreig mor anghywir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Yn wir, Cymru yw'r lle gorau ar y ddaear, a chredaf ei bod yn iawn inni gael gwyliau cenedlaethol i adlewyrchu a chydnabod hynny. Diolch.
Samuel Kurtz: Diolch i Darren Millar am gyflwyno'r cynnig y prynhawn yma. Bydd Aelodau'r Siambr sy'n fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol yn gwybod bod hwn yn achos rwy'n hynod angerddol yn ei gylch. Fel Rhys ab Owen, rwy'n mawr obeithio na fyddwn yn dal i fod yma ymhen 22 mlynedd yn trafod y pwnc hwn. Fodd bynnag, nid wyf am ddefnyddio fy sylwadau byr y prynhawn yma yn trafod y wleidyddiaeth. Byddai'n...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am gyflwyno'r cynnig deddfwriaethol hwn gan Aelod, gan fod cynnig deddfwriaethol gan Aelod hynod debyg wedi bod gennyf fi ar wella ansawdd dŵr mewndirol yma yng Nghymru. Ac er y gallai fod anghytundeb posibl ynghylch semanteg a manylion y polisi, mae'n galonogol gwybod ei fod yn fater sy'n ennyn cefnogaeth drawsbleidiol mewn gwirionedd. Ac fel y...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Ar hyn o bryd, mae 210 o fusnesau Cymru yn allforio gwerth £23 miliwn o nwyddau i farchnad Seland Newydd, ac mae’r arwyddion yn nodi, ar draws y DU gyfan, fod gwerth y berthynas hon yn debygol o gynyddu bron 60 y cant. Er fy mod yn deall pryderon y diwydiant amaethyddol y bydd Cymru yn cael ei gorlethu gan gig oen o Seland Newydd, rydym eisoes yn gwybod nad yw Seland Newydd...
Samuel Kurtz: Weinidog, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddwyfor Meirionnydd am gyflwyno’r cwestiwn hwn heddiw, ond mae’n bwysig nodi a chofio bod y fargen fasnach hon yn werth llawer mwy ac yn llawer ehangach nag amaethyddiaeth yn unig. Nid sbin yw hyn—[Torri ar draws.] Nid sbin yw hyn, fel y dywedodd yr Aelod. Y cytundeb hwn yw'r cytundeb mwyaf datblygedig y mae Seland Newydd wedi'i lofnodi...
Samuel Kurtz: Weinidog, yn gynharach eleni cefais y pleser o ymweld â datblygiad arobryn Pludds Meadow y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai yn Nhalacharn yn fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, safle a weithredir gan Salem Construction, sy'n cynhyrchu cartrefi ansawdd uchel sy'n defnyddio ynni'n effeithlon ar gyrion un o drefi enwocaf sir Gaerfyrddin. Roedd yr adeiladwyr yn awyddus iawn i...