Canlyniadau 201–220 o 600 ar gyfer speaker:Rhys ab Owen

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Gwnsler Cyffredinol, rydych yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i a nifer yn y Siambr hon—ym Mhlaid Cymru a'r Blaid Lafur—ynghylch effaith y cynigion cydsyniad deddfwriaethol ar y setliad datganoli a'u defnydd cynyddol yn y Senedd hon. Mae'r llythyr heddiw gan Ddirprwy Weinidog y celfyddydau yn dangos natur anhrefnus proses y cynigion cydsyniad...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Hawliau Dynol 1998 (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn ganolog i ddatganoli yng Nghymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn diogelu cydymffurfiaeth â hawliau'r confensiwn a phleidleisiodd pobl Cymru drosti ddwywaith mewn refferenda. O gofio bod Llywodraeth San Steffan yn honni ei bod yn parchu refferenda, mae'n syndod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Canolfan Breswyl i Fenywod (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Dangosodd data a ryddhawyd o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru fod cynnydd wedi bod yn y nifer gyfartalog o fenywod Cymru a oedd yn y carchar rhwng 2020 a 2021—fe gododd o 208 i 218. Mae hefyd yn dangos bod menywod o ogledd Cymru yn cael eu cadw mewn carchardai ledled Lloegr, ymhell iawn o'u rhwydwaith cymorth. Er...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Canolfan Breswyl i Fenywod (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch sefydlu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru? OQ57779

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Hawliau Dynol 1998 (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y newidiadau arfaethedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ar setliad datganoli Cymru? OQ57785

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cronfa Indemniad Cyfreithwyr (16 Maw 2022)

Rhys ab Owen: 4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a Chymdeithas y Cyfreithwyr ar y cynnig gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr i gau'r gronfa indemniad cyfreithwyr? OQ57784

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Nid yw geiriau caredig yn ddigon i'r cymunedau hyn.

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Mae'n bryd inni gywiro'r methiant yma dro ar ôl tro. Mae'n bryd i'r Senedd yma ddangos i gymunedau Cymru ddatganoli ar ei orau. Mae'n bryd inni rymuso pobl, grymuso cymunedau, a thrwy hynny, grymuso pob rhan o'n cenedl. Grym cenedl yw ei chymunedau. Diolch yn fawr.

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Mae Jenny Rathbone—a dwi'n falch o weld bod Jenny yn dal gyda ni ar-lein—yn gyson yn codi'r bygythiad i dafarn y Roath Park ar Heol Plwca, tafarn sydd wedi bod yno ers 1886, man cyfarfod i bobl leol i drafod, i sgwrsio ac i joio yng nghwmni ei gilydd. Ar ôl ymateb chwyrn i'r cais cynllunio i ddymchwel y dafarn ac i adeiladu blociau o fflatiau dienaid yn ei lle, fe gafodd y cynllun ei...

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Am wlad sy'n aml yn cael ei galw yn gymuned o gymunedau, mae diffyg hawliau i grwpiau cymunedol yma yn anhygoel. Mae gerddi a pharciau lleol, rhandiroedd a ffermydd trefol yn cynyddu gwerth ardal yn fawr, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Mae asedau cymunedol wedi bod, a byddant yn parhau i fod, un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o gryfhau ysbryd cymunedol, o feithrin cydweithrediad ac o greu'r...

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Mae pobl am fyw mewn cymunedau sy'n unigryw, sy'n bersonol, nid rhyw gopi carbon o bob tref a phentref arall. Nid yw pobl eisiau byw, ac nid ydynt am ymweld â threfi sy'n union yr un fath â'i gilydd ac nad ydynt yn cynnig unrhyw beth cyffrous, personol na deinamig. Pa waith, felly, y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i symleiddio'r broses o brynu asedau cymunedol a pha bryd y gwelwn y...

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Pan wasgwyd Cymru gan gyni'r Ceidwadwyr i dalu'r bil ar ran y bancwyr, gorfodwyd cynghorau ar draws ein gwlad i werthu asedau cymunedol. Er bod dinasyddion yn yr Alban ac yn Lloegr wedi gallu trefnu, gweithio a pharatoi i brynu a diogelu eu hasedau, ni ddigwyddodd hynny yng Nghymru. Ni fyddwn byth yn gwybod faint o golled gymunedol a wynebodd y genedl hon yn ystod y blynyddoedd hynny o gyni,...

9. Dadl Fer: Diogelu mannau cymunedol: Adfer rheolaeth ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i weld yr elfen drawsbleidiol yn y ddadl yma, a nifer o Geidwadwyr wedi penderfynu cymryd rhan. Efallai mai'r teitl 'take back control' oedd wedi denu ambell un ohonyn nhw i ymuno. Ddirprwy Lywydd, dwi'n rhoi munud o fy amser i i Peredur Owen Griffiths, Mabon ap Gwynfor, Carolyn Thomas, Joel James, y ddau Samuel—Kurtz a Rowlands—a Tom...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Wel, mae hynny'n bodoli eisoes gyda chomisiynwyr heddlu a throsedd, a datganoli gweithredol a geir ym Manceinion a Llundain, sy'n hollol wahanol. Ac nid oes neb yma wedi sôn am uno heddlu Cymru heblaw amdanoch chi, Mark Isherwood. Nid oedd comisiwn Thomas yn ei argymell; nid oedd comisiwn Silk yn ei argymell. Nawr, y cymesuredd gwleidyddol—os ydych yn pryderu cymaint am yr undeb, pam na...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr i chi, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr i fy nghyfaill Mike Hedges am gyflwyno'r ddadl yma. Diolch hefyd i John Griffiths am ei waith yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar heddlu, gwaith pwysig iawn yn y lle hwn, a hefyd i fy nghyfaill Alun Davies. Tra oedd e'n Weinidog—byddwch chi'n cofio yr oedd e'n Weinidog ar un adeg—Alun Davies wnaeth sefydlu bwrdd heddlua Cymru, bwrdd...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Oherwydd nid yw hon yn ddadl newydd. Yr wythnos diwethaf, gyda Dydd Gŵyl Dewi, rydym wedi bod yma o'r blaen, a gadewch imi ddweud hyn yn dawel wrthych, mae wedi cael cefnogaeth y Torïaid yn y gorffennol. Yn ôl ar ddechrau'r 1990au, roedd yr Arglwydd Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, wedi dod i gytundeb gyda Ken Clarke, yr Ysgrifennydd Cartref, i ddatganoli cyfiawnder i'r Swyddfa...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Bwyd a Diod Lleol ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Fel y cawn ein hatgoffa'n aml gan Jenny Rathbone, mae cynifer o bethau cadarnhaol yn deillio o ailadeiladu economi fwyd leol: mae'n creu swyddi, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd, ac mae cymaint o gyfleoedd busnes rhagorol yma, gan fod y galw lleol yn llawer mwy na'r cyflenwad lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi cael ein hatgoffa eto yn ddiweddar, onid ydym, am bwysigrwydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Bwyd a Diod Lleol ( 9 Maw 2022)

Rhys ab Owen: 7. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol i sicrhau bod bwyd a diod lleol ar gael mewn ysgolion, cartrefi gofal ac ysbytai? OQ57733

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwahaniaethu ar Sail Hil yn y System Cyfiawnder Troseddol ( 8 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Brif Weinidog, a diolch yn fawr am waith y Llywodraeth yma o fewn y system gyfiawnder yng Nghymru sydd, drwy ryw ryfedd wyrth, heb gael ei ddatganoli i Gymru.  

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwahaniaethu ar Sail Hil yn y System Cyfiawnder Troseddol ( 8 Maw 2022)

Rhys ab Owen: Nawr, rydym ni'n gwybod ers degawdau am y rhagfarnau a wynebir gan bobl o leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder yn fyd-eang. Yr hyn nad oeddem ni'n ei wybod, tan y blynyddoedd diwethaf, yw ei bod yn ymddangos bod rhagfarn hiliol yn y system gyfiawnder yng Nghymru yn waeth yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Trwy waith Canolfan Llywodraethiant Prifysgol Caerdydd, rydym ni bellach yn gwybod bod...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.