Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Rydym ni'n byw mewn cyfnod digynsail, onid ydym? Mae’r sector amaeth a’r cymunedau a theuluoedd sydd ynghlwm â’r sector o dan bwysau rhyfeddol ac, yn fwy na dim arall, maen nhw'n chwilio am sefydlogrwydd, tra, ar yr un pryd, mae cymdeithas ehangach yn galw allan am ddiogelwch a fforddiadwyedd bwyd. Mae rhyfel Wcráin, Brexit a COVID-19 wedi dwyn...
Mabon ap Gwynfor: Mae'n ddrwg gennyf, dof at y cwestiwn.
Mabon ap Gwynfor: Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Felly y cwestiwn yw: a fydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru nawr yn darparu cymorth cyfatebol i'r rhai sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru, o dan y cynllun Teuluoedd o Wcráin a'r cynllun Cartrefi i Wcráin?
Mabon ap Gwynfor: Mae gennyf i rywun yn fy etholaeth a briododd i mewn i deulu Wcreinaidd. Mae ganddo wraig Wcreinaidd a theulu Wcreinaidd sydd yn dal allan yn Wcráin, ac mae wedi bod yn cael trafferth cael mynediad at wasanaethau ac i ddod â'r teulu yn ôl i Gymru. Mae gennyf i neges e-bost yr hoffwn i ei darllen i chi gan yr unigolyn yma, gyda chwestiwn penodol ar y diwedd, os gwelwch yn dda: 'Nid yw...
Mabon ap Gwynfor: Mae’r argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn un anferthol. Mae chwyddiant ar ei uchaf ers 40 mlynedd, ac wedi chwalu pob rhagamcan a gafwyd gan economegwyr, ac mae’r rhagolygon yn dangos y bydd o’n cynyddu hyd yn oed yn fwy. Mae prisiau ynni wedi chwyddo i lefelau cwbl anghynaliadwy i’r rhan fwyaf o bobl, ac mae’r cynnydd yn y pris ynni yn cael ei adlewyrchu yn y cynnydd ym mhris bwyd,...
Mabon ap Gwynfor: Diolch i'r pwyllgor am ei waith. Dwi’n croesawu’r adroddiad ac mae o’n ategu llawer iawn o beth dwi wedi’i glywed. Yn wahanol i’r pwyllgor, fedraf i ddim siarad ar ran gweddill Cymru, ond mi fedraf i siarad ar ran fy etholaeth i, a’r rhwystredigaeth a gafwyd wrth geisio gweithredu rhai o’r cynlluniau, ac wrth gwrs y gwersi sydd i’w dysgu. Dwi am ganolbwyntio ar rai o’r...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am gamu i mewn, munud olaf. Gaf i innau estyn fy nymuniadau gorau i'r Gweinidog am wellhad buan hefyd? Mae tenantiaid a chymdeithasau tai fel ei gilydd yn hynod o bryderus am y misoedd nesaf ac yn ei chael hi'n anodd i flaengynllunio ac i gyllido heb fod ganddynt sicrwydd o beth fydd cyfraddau budd-daliadau. Mae'r synau mae'r Prif Weinidog newydd, Liz Truss,...
Mabon ap Gwynfor: 9. Pa gamau y mae'r Llywodraeth am eu cymryd i helpu tenantiaid yn ystod yr argyfwng costau byw presennol? OQ58408
Mabon ap Gwynfor: 'Ceir prosesau y mae angen eu gwella yn sylweddol o ran diogelwch cleifion a sicrwydd cydymffurfio'
Mabon ap Gwynfor: —pan fod e'n dod i'r bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Bwrdd iechyd gogledd Cymru ydy'r unig fwrdd yng Nghymru i dderbyn sicrwydd cyfyngedig gan eu harchwilwyr. Mae'r adroddiad blynyddol yn un damniol, ac mae'n amlwg fod y bwrdd yn methu. Mae'n amlwg hefyd fod pob dim yr ydych chi fel Llywodraeth wedi trio'i wneud i ddatrys problemau'r bwrdd wedi methu. Ydych chi rŵan yn derbyn ei bod yn...
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn i'r Prif Weinidog am yr ateb. Dwi am gymryd y cyfle yn sydyn i ddiolch i'r prif weithredwr, Jo Whitehead, am ei harweiniad o'r bwrdd dros y 18 mis diwethaf. Rôn i'n obeithiol y buasai pethau yn gwella o dan ei harweiniad hi, ond yn ei hadroddiad blynyddol olaf a gyhoeddwyd ym mis Awst, fe ddywedodd y prif weithredwr,
Mabon ap Gwynfor: Dwi eisiau rhoi ar gofnod, i gychwyn, fy niolch diffuant i'r elusen ambiwlans awyr am eu gwaith yn achub bywydau. Maen nhw'n elusen sydd wedi profi i fod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau, ac mae ein cymunedau ni yn codi miloedd o bunnoedd yn flynyddol fel arwydd o ddiolch. Ond ers i'r newyddion dorri fod yr ambiwlans awyr yn edrych i ganoli gwasanaethau hedfan, mae nifer fawr o etholwyr wedi...
Mabon ap Gwynfor: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru? OQ58418
Mabon ap Gwynfor: Wel, mae'n amhosib gorbwysleisio pwysigrwydd y diwydiant ffermio i Gymru wledig. Busnesau ffermio yng Nghymru ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru, yr echel y mae cymunedau gwledig yn troi o'i chwmpas. Mae cynhwysion crai sydd yn cael eu cynhyrchu yma yn ganolog i'r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru, sy'n werth miliynau o bunnoedd ac yn cyflogi dros 239,000 o bobl yma. Ond mae diciâu mewn...
Mabon ap Gwynfor: A ydych yn cytuno y byddai hyn, incwm sylfaenol cyffredinol, yn dilyn yn nhraddodiad balch Cymru, a gyflwynwyd yn ôl ym 1909, pan gyflwynodd David Lloyd George Ddeddf Pensiynau’r Henoed—un o feibion gorau Dwyfor, a Rhyddfrydwr gwych yn ei amser hefyd?
Mabon ap Gwynfor: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a dwi am ddatgan buddiant sydd ar y record gyhoeddus hefyd.
Mabon ap Gwynfor: Daw'r drafodaeth hon ar adeg pan fo'r argyfwng tai yn gwaethygu, o ddydd i ddydd. Mae rhentwyr a landlordiaid fel ei gilydd yn poeni am yr argyfwng cynyddol hwn, gyda landlordiaid yn ofni y bydd llawer yn gwerthu ac yn rhoi'r gorau i rentu cartrefi oherwydd y rheoliadau newydd, a thenantiaid sy'n wynebu'r bygythiad o gael eu troi allan. Felly, gadewch i ni feddwl o ddifrif am hyn. Ar hyn o...
Mabon ap Gwynfor: Diolch am yr ateb hynny, Brif Weinidog. Pe bai'r bobl gyntaf ddaru adael cyfandir Affrica 80,000 o flynyddoedd yn ôl wedi cloddio am wraniwm a datblygu ynni niwclear, yna mi fyddem ni'n parhau i ddelio efo'r gwastraff heddiw, oherwydd mae gan thoriwm-230, sydd i'w ganfod yn tailings y gweithfeydd wraniwm, hanner bywyd o 80,000 o flynyddoedd. Mae gan plwtoniwm-239, o bosib yr elfen fwyaf...
Mabon ap Gwynfor: 2. Sut mae'r Llywodraeth yn cysoni gwaith Cwmni Egino ar ddatblygu gorsafoedd pŵer niwclear â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ58372
Mabon ap Gwynfor: A ydych yn credu y bydd y cytundeb masnach â Seland Newydd ac Awstralia o fudd i'n cymunedau gwledig a'n ffermwyr?