Heledd Fychan: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fanteisio ar dîm pêl-droed dynion Cymru yn cymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd 2022 fel rhan o'i strategaeth ryngwladol ar gyfer Cymru?
Heledd Fychan: Diolch i Jane Dodds am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn. Fel chithau, cefais fy mrawychu gan y rhaglen ddogfen. Rwy'n credu bod sylwadau Niall wedi aros gyda mi pan ddywedodd, 'Byddai carchar wedi bod yn well i mi.' Carchar yn well na rhywle lle roeddent i fod yn ddiogel. Hefyd, hoffwn ategu'r galwadau am adolygiad annibynnol o waith cymdeithasol plant. Rwy'n credu bod hyn yn hanfodol. Rydym yn...
Heledd Fychan: Gweinidog, hoffwn ddiolch i chi am y datganiad heddiw. Fel y gwyddoch chi, rydym ni’n llawn cyffro ond yn gefnogol i gwricwlwm newydd ac, fel yr amlygwyd gan bumed adroddiad pwyllgor y Senedd, gyda Lynne Neagle yn Gadeirydd, mae'n gyfle mawr iddo fod y newid mwyaf ers dechrau datganoli o ran ein system addysg, ac mae llawer i'w groesawu. Rwy’n credu bod rhai o'r pryderon wedi'u trafod yn...
Heledd Fychan: Wel, mi ydyn ni wedi gallu efo Junior Eurovision, ac mae hi yn bosibl newid rheoliadau o’r fath, oherwydd pam lai ddathlu’r holl amrywiadau? Mae yna alw yna i ni fod yn mynd ati i edrych ar hynny, oherwydd mi ddylem ni fod yn gallu cystadlu, ac mae yna ffyrdd hefyd i sicrhau bod hynny’n bosibl. Os ydy’n bosibl efo Junior Eurovision, mae’n bosibl newid y rheoliadau i ni fod yno yn...
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw a hoffwn ddatgan ein cefnogaeth iddo. Hoffwn hefyd ategu sylwadau Tom Giffard gan ddweud rydyn ni’n cytuno, rydyn ni’n gresynu’n fawr at y ffaith na ellir cynnal y gystadleuaeth hon yn Wcráin oherwydd ymosodiadau anghyfreithlon a pharhaus Rwsia. Nid eisiau manteisio ydyn ni ar y ffaith bod Wcráin yn mynd drwy...
Heledd Fychan: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith ar yr adroddiad pwysig yma? Dwi'n meddwl ei fod o'n anodd i'w ddarllen ond mae o'n adlewyrchu'r gwaith achos rydyn ni i gyd yn ei dderbyn, a dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig iawn ein bod ni'n atgoffa ein hunain yn aml fod yna bobl tu ôl i bob ystadegyn ac, er ein bod ni yn gweld bod yna gynllun ar waith, dydy hynna ddim yn ei wneud o'n...
Heledd Fychan: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n sylweddoli bod yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol #ArosAtalAmddiffyn yn rhedeg yn bennaf dros gyfnod y Nadolig a'i bod yn eithaf tymhorol a chyfyngedig, ac yn canolbwyntio ar brynu cyfrifol mewn perthynas ag anifeiliaid anwes. Mae'n amlwg yn ymgyrch lwyddiannus, ond yn eithaf cyfyngedig. Mewn cyferbyniad, yn Lloegr, mae ganddynt Petfished, ymgyrch hirdymor i...
Heledd Fychan: 1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddarparu ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus rheolaidd ar berchnogaeth gyfrifol ar anifeiliaid anwes i wrthbwyso'r risg o gynnydd yn nifer yr anifeiliaid a gaiff eu gadael o ganlyniad i'r argyfwng costau byw? OQ58257
Heledd Fychan: Hoffwn innau hefyd groesawu hyn yn fawr iawn. Nid wyf yn credu ein bod yn siarad am ddigon o hwyl yn y Senedd hon weithiau, ac mae'n dda gweld y pwyslais hwnnw ar blant a phobl ifanc sydd angen gallu mwynhau, yn ogystal â dysgu, a chael eu cefnogi. Mae fy mhryder yn debyg iawn i bryder Gareth Davies o ran, ie, y bydd rhywbeth at ddant pawb, ond a all pawb ei gyrraedd? Rwy'n derbyn y bu'n...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n meddwl bod yna ddau beth mae rhieni yn hoffi clywed o ran plant mewn ysgolion: un ydy eu bod nhw'n datblygu hyd orau eu gallu nhw, a'n cael eu cefnogi i wneud hynny; a'r ail beth ydy eu bod nhw'n hapus yn yr ysgol. A dwi'n croesawu yn fawr yr un pwyslais yn y newid hwn, o ran ein bod ni ddim jest yn edrych ar y cynnydd academaidd, ond hefyd lles...
Heledd Fychan: Felly, Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i helpu rhieni a gofalwyr sydd yn methu fforddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Heledd Fychan: Diolch, Prif Weinidog. Gyda'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau cynyddol ar rieni a gofalwyr, mae yna fwyfwy o bobl yn cysylltu gyda fy swyddfa ynglŷn â phris trafnidiaeth yn effeithio ar bresenoldeb. Ategwyd hyn ymhellach pan gysylltodd Ruben Kelman, Aelod o'r Senedd Ieuenctid dros Ogledd Caerdydd, gyda mi bythefnos yn ôl, gan rannu canlyniadau arolwg a redodd Ysgol Uwchradd Llanisien,...
Heledd Fychan: 'Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi dadansoddi pa filiau y gallaf ohirio eu talu, fel y gall fy merch fynychu'r ysgol. Mae'n ddigon i'ch digalonni. Helpwch ni rieni os gwelwch yn dda.'
Heledd Fychan: 2. Prif Weinidog, sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio'n andwyol ar bresenoldeb disgyblion cynradd ac uwchradd? OQ58258
Heledd Fychan: A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r drafodaeth bwysig hon? Yn amlwg, mae'n peri pryder mawr. Fel un a arferai fod yn gynghorydd yn Rhondda Cynon Taf, roeddwn yn arbennig o bryderus ynghylch y lefelau uchel o waharddiadau o'r ysgol, ac yn enwedig ymhlith bechgyn ifanc. Roedd i'w gweld yn broblem nad oedd yn cael sylw. Rwy'n gwybod yn awr, o waith achos a ddaw i mewn i fy swyddfa, o...
Heledd Fychan: Fel y gwyddom ni oll, mae grwpiau cymunedol yn chwarae rôl bwysig a hanfodol yn ein cymunedau a hoffwn ddechrau drwy ddiolch, o waelod calon, i bob grŵp cymunedol sydd yn weithgar yn y rhanbarth rwyf yn ei gynrychioli. Ac er bod nifer o grwpiau cymunedol yn derbyn cefnogaeth gan awdurdodau lleol, mae nifer yn wynebu heriau hefyd. Yr hyn yr hoffwn i yn bersonol ei weld yn deillio o'r cynnig...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, yn 2021, fe gomisiynodd ColegauCymru adroddiad oedd yn nodi bod nifer o ddysgwyr sy'n gwirfoddoli ers 2020 wedi colli cyfleoedd ymarferol i gymhwyso eu dysgu, gyda'r mwyafrif o'r rhain yn dod o gyrsiau chwaraeon. O ystyried bod Wythnos Gwirfoddolwyr wedi'i chynnal ar ddechrau'r mis hwn, ydych chi'n cytuno, Weinidog, bod rhaid i ni sicrhau bod y...
Heledd Fychan: 10. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi dysgwyr sydd wedi colli cyfleoedd gwirfoddoli hanfodol o ganlyniad i’r pandemig? OQ58219
Heledd Fychan: Diolch, Llywydd. Trefnydd, ddoe, mi wnes i ymweld efo banc bwyd Rhondda a dwi wedi cael nifer o brifathrawon hefyd yn cysylltu efo fi, yn poeni'n ddirdynnol am deuluoedd yn y rhanbarth dwi'n ei gynrychioli, ac yn benodol yn poeni beth fydd y sefyllfa dros yr haf. Yn amlwg, mae’r Gweinidog a’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd yna gymorth ar gael o ran prydau ysgol am ddim i deuluoedd...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud fan yna o ran y pwynt am y penwythnos, oherwydd mae'n un peth pan ydyn ni'n sôn am fandiau rhyngwladol yn dod yma i Gymru, ond pan fydd ein tîm cenedlaethol ni yn chwarae yn ein prifddinas, mi fyddwn i'n gobeithio y byddem ni'n gallu cael y drafnidiaeth gyhoeddus fel bod pawb yng Nghymru yn gallu dod i gefnogi eu tîm cenedlaethol...