Peter Fox: Rwy'n dod ato.
Peter Fox: Iawn. Sut y mae'r Llywodraeth yn gweithio gyda Dŵr Cymru i uwchraddio systemau trin carthion yn sir Fynwy i sicrhau bod mwy o systemau'n gallu trin ffosffadau yn y ffynhonnell a sicrhau y gall datblygiadau newydd gysylltu â'r rhain? Diolch.
Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n siŵr fod pawb ar draws y Siambr yma'n gwybod pa mor bwysig yw cael stoc o dai o ansawdd da. Hebddynt, bydd y stoc dai'n dod o dan fwy byth o bwysau, gan brisio pobl allan o allu bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ac rydym wedi gweld hynny, yn anffodus, ym mhob man. Fodd bynnag, mae nifer o ddatblygiadau newydd yn fy etholaeth wedi profi...
Peter Fox: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog adeiladu tai newydd yn etholaeth Mynwy? OQ58063
Peter Fox: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Roedd i'w groesawu'n fawr. Diolch am eich ymrwymiad i'r achos hwn. Rwy'n gwybod eich bod chi'n gwneud llawer iawn yn hyn o beth. Rydych chi wedi ateb rhai o fy nghwestiynau allweddol, a oedd yn ymwneud ag addysg a sgrinio. Cawson nhw eu cwmpasu'n dda ac rwy'n diolch i chi am y ddealltwriaeth ddyfnach o'r sefyllfa yr ydym ni'n ei hwynebu i...
Peter Fox: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, rwy'n croesawu'r ffigurau diweddar a ddarparwyd gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, a ddangosodd fod nifer yr unedau manwerthu gwag yng Nghymru wedi gostwng 2.3 y cant dros y 12 mis diwethaf. Dyma'r gostyngiad mwyaf yn y DU, sy'n wych. Fodd bynnag, nid yw'n newyddion cadarnhaol drwyddo draw. Er gwaethaf y gostyngiad, Cymru sydd â'r gyfradd adeiladau gwag...
Peter Fox: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau'r stryd fawr? OQ58024
Peter Fox: Ffocws y ddadl hon yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros 20 mlynedd, ac nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi codi ychydig iawn o blant allan o dlodi. Mae gennym yr un faint yn byw mewn tlodi yn awr ag a oedd gennym 20 mlynedd yn ôl. Felly, yn yr un modd, pe bai mwy o ffocws wedi bod ar—. O, rwyf wedi siarad am y rhan honno. [Chwerthin.] Mae'r pethau hyn yn creu cyfleoedd...
Peter Fox: Rwyf am orffen y pwynt hwn, os caf, Huw. Er bod Llafur Cymru wedi dweud na fyddai unrhyw blentyn yn byw mewn tlodi—Tony Blair—erbyn 2020.
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n datgan buddiant hefyd fel cynghorydd yn sir Fynwy, a hynny am y tro olaf, gan orffen, fel Sam, gyrfa hir o 25 mlynedd mewn awdurdodau lleol. [Torri ar draws.] Ie. Ddirprwy Lywydd, mae ein cynnig yn iawn ar gynifer o lefelau, boed hynny ar deuluoedd a chymunedau, ar yr economi, ar y diffygion mewn cyrhaeddiad addysgol, ac wrth gwrs, fel y gwyddom i gyd yma, ar...
Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Lywydd, rwy'n llwyr gefnogi bwriad y Llywodraeth i helpu cynifer â phosibl o'n cyfeillion o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru, ac mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'r ffaith bod Cymru wedi'i dynodi yn genedl noddfa. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae Llywodraeth Cymru yn helpu i noddi pobl i ddod i mewn i'r DU, yn hytrach na dibynnu ar gael eu...
Peter Fox: 9. Sut mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio ei statws uwch noddwr i helpu pobl o Wcráin i geisio diogelwch yng Nghymru? OQ57966
Peter Fox: Diolch i'r Aelod dros Ganol Caerdydd am godi'r pwnc pwysig ac amserol hwn, a chytunaf fod angen prosesu mwy o fwyd o Gymru yng Nghymru, yn enwedig o gofio'r amharu a welsom ar gadwyni cyflenwi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'n destun gofid felly, fel y dywedodd yr Athro Terry Marsden yn flaenorol, fod dirywiad sylweddol wedi bod yn y seilwaith bwyd yng Nghymru. Er enghraifft, nododd...
Peter Fox: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Lywydd, fel y mae’r Gweinidog eisoes yn gwybod, rwy’n siŵr, mae newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru i godi’r meini prawf defnydd ar gyfer cael eich dosbarthu'n fusnes 160 y cant wedi creu cryn dipyn o gynnwrf yn y diwydiant twristiaeth. Ar adeg pan fo'r sector yn dal i wella o effeithiau ariannol y pandemig, mae newid o'r fath wedi...
Peter Fox: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch effaith Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 Llywodraeth Cymru ar y diwydiant twristiaeth? OQ57912
Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad, ac rwy'n croesawu'r negeseuon cadarnhaol yr ydych wedi'u rhoi i ni y prynhawn yma ac awgrym o symud ar welliannau. Llywydd, yn anffodus, serch hynny, nid yw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig mewn sefyllfa i gefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Deddfau trethi Cymru, ac felly byddwn yn pleidleisio yn erbyn y ddau gynnig gerbron y Senedd heddiw. Pan gyflwynwyd y Bil...
Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog. Cysylltwyd â mi—rwy'n siŵr y cysylltwyd â llawer ohonom ni yma—gan nifer o etholwyr sy'n ei chael yn anodd cael gafael ar wasanaethau deintyddol y GIG. Yn sicr, yn fy etholaeth i, un enghraifft oedd lle cysylltodd rhiant â mi yn ddiweddar y cafodd ei blant eu gweld gan ddeintydd ddiwethaf adeg Pasg 2019. Roedden nhw wedi llwyddo i gael eu gweld gan hylenydd yn...
Peter Fox: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG? OQ57911
Peter Fox: A gaf fi ddiolch i Adam Price am gyflwyno'r ddadl hon heddiw a chaniatáu munud o'i amser imi, ond hefyd am y ffordd huawdl y gwnaethoch ddisgrifio'r sefyllfa unwaith eto? Mae hwn yn glefyd dinistriol sy'n effeithio mor ofnadwy ar deuluoedd, fel yr ydych wedi'i ddisgrifio mor dda, Adam. Ac mae'r broblem y mae Bob a Lowri yn ei hwynebu yn cael ei hailadrodd mewn llawer o deuluoedd ledled...
Peter Fox: Rwy'n ymwybodol o'r amser, Gweinidog, felly rwyf i am grynhoi yr hyn yr oeddwn i am ei ddweud. Gweinidog, diolch i chi am bopeth yr ydych chi'n ei wneud, ac rwy'n croesawu datganiad heddiw yn fawr iawn. Cysylltodd etholwr â mi sydd wedi bod mewn cysylltiad ei hun yn ei dro, drwy gynllun ffoaduriaid Wcráin, â myfyriwr meddygol o Wcráin sy'n awyddus iawn i barhau â'i hastudiaethau yn y DU....