Peredur Owen Griffiths: Hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am y cyfarfod ddydd Gwener diwethaf i drafod ein hadroddiadau a'n hargymhellion. Rwy'n croesawu'n fawr ei dull adeiladol o weithredu. Dechreuaf gyda'n barn ni ar yr egwyddorion cyffredinol. Fel pwyllgor, rydym yn llwyr gefnogi'r egwyddor bod angen y gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol i ddiogelu refeniw Cymru sy'n cael ei godi drwy drethi datganoledig. Fodd...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon heddiw er mwyn amlinellu prif gasgliadau ac argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â'r Bil. Gan mai unig ddiben y Bil yw dirprwyo pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio deddfwriaeth ar drethi Cymru o dan rai amgylchiadau, mae ei ddarpariaethau wedi cael eu hystyried yn llawn gan y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor...
Peredur Owen Griffiths: Mae plismona'n newid yn gyflym. Mewn sgyrsiau diweddar gydag uwch swyddogion, mae'n amlwg bod seiber-droseddu, yn ei holl ffurfiau, yn meddiannu amser pob heddlu ledled y wlad. Bellach mae angen i recriwtiaid newydd feddu ar y sgiliau TG i fynd i'r afael â'r bygythiad cynyddol hwn. Wedi dweud hynny, mae lle o hyd i'r mathau mwy traddodiadol o blismona; bydd patrolio'r strydoedd ac...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma.
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. O siarad ag arweinwyr cynghorau yn fy rhanbarth i, mae'n deg dweud bod llawer wedi eu synnu ar yr ochr orau gan y setliad ariannol diweddaraf. Felly, mae'n rhaid ei bod hi'n siomedig, o'ch safbwynt chi, i weld cyd-aelodau yn eich plaid ym mwrdeistref sirol Caerffili yn eistedd ar gronfa wrth gefn o £180 miliwn, cynnydd o £40 miliwn rhwng blynyddoedd ariannol 2019 a 2021. Mae...
Peredur Owen Griffiths: 2. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gan awdurdodau lleol ddigon o gymorth ariannol i gyflawni eu dyletswyddau a'u rhwymedigaethau? OQ57945
Peredur Owen Griffiths: Daeth y modd y cafodd Cymru ei hecsbloetio am ei glo, gan ddisbyddu ein tir o'i chyfoeth mwynol a'r elw enfawr a ddeilliodd o'r adnodd hwn ar gost enfawr i fywydau lleol. Mae ecsbloetio cost ddynol glo yn dal i fod yn graith ar yr undeb honedig hwn. Nawr, dywed San Steffan wrthym fod yn rhaid inni dalu'r gost o wneud ein cymunedau'n ddiogel. Dywedir wrthym fod yn rhaid inni yn awr ddod o hyd...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog, am eich ateb hyd yn hyn.
Peredur Owen Griffiths: Yn ystod fy nghymorthfeydd stryd niferus ar draws y rhanbarth, cwyn gyffredin fu’r gwasanaeth y mae cleifion wedi’i gael yn ysbyty'r Faenor. Mae hyn wedi bod yn wir ar draws y rhanbarth. Ymddengys bod pobl yn cael anawsterau i gyrraedd safleoedd, diffyg trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, a’r amseroedd aros hir i gael eu gweld pan fyddant yn cyrraedd yno yn y pen draw. Mae pethau’n amlwg...
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb.
Peredur Owen Griffiths: Roedd yn amlwg o’r datganiad ar ddiogelwch tomenni glo ddoe fod llawer mwy o waith i’w wneud yn y blynyddoedd i ddod i ddiogelu'r hyn a adawyd ar ôl gan ein gorffennol diwydiannol yng Nghymru. Bydd yn cymryd llawer o flynyddoedd a channoedd o filiynau o bunnoedd i ymdrin â hyn. Afraid dweud mai San Steffan, a gafodd y buddion a’r elw o’r diwydiant glo, a ddylai fod yn talu’r bil....
Peredur Owen Griffiths: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch tomenni glo yn Nwyrain De Cymru? OQ57887
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog.
Peredur Owen Griffiths: Roedd yn dda clywed eich condemniad o driniaeth staff P&O Ferries, sydd wedi cael eu trin yn warthus. Yn absenoldeb hawliau cryfach y mae mawr eu hangen i weithwyr, rwy'n gobeithio y bydd y drychineb cysylltiadau cyhoeddus a ddeilliodd o hynny yn gorfodi penaethiaid y cwmni i ailfeddwl. Roeddwn i hefyd yn falch o glywed sôn dro ar ôl tro am waith teg yn eich datganiad. Wrth i ni ddod allan...
Peredur Owen Griffiths: Dwi'n fab i weinidog, fel tithau. Fyddet ti'n cytuno efo fi mai un o'r ffyrdd gorau i allu symud pethau ymlaen fyddai cydweithio cydenwadol a chydaddoli cydenwadol i ddod â chymunedau at ei gilydd yn lleol?
Peredur Owen Griffiths: Diolch am yr ateb yna, Dirprwy Weinidog.
Peredur Owen Griffiths: Yn fuan iawn, bydd niferoedd sylweddol o Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru wrth i'r DU dynnu ei bys allan o'r diwedd a gwneud ei rhan dros ffoaduriaid sy'n dianc rhag rhyfelgarwch Putin. Yn ddealladwy, bydd llawer o'r bobl hyn sy'n ffoi o'u gwlad wedi dioddef trawma o ganlyniad i'r hyn y maent wedi'i brofi yn ystod y mis diwethaf, a bydd angen cymorth arbenigol arnynt i ymdrin â'r hyn y maent...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Weinidog, fis diwethaf, cofnododd Cymru ei chanlyniadau gwaethaf erioed ar gyfer y ddarpariaeth iechyd meddwl i bobl ifanc. Dangosodd eich ffigurau eich hun fod 78 y cant o gleifion a atgyfeiriwyd at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol i blant a'r glasoed wedi gorfod aros dros bedair wythnos am eu hapwyntiad cyntaf. Rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno bod...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Mae'r pandemig wedi gadael argraff barhaol ar y cymunedau rwy'n eu cynrychioli yn Nwyrain De Cymru, ac mae'r effaith wedi bod yn fwy niweidiol yn y mannau tlotaf yn y wlad, gan waethygu'r anghydraddoldebau a oedd eisoes yn bodoli. Gan ein bod wedi nodi dwy flynedd ers inni ddechrau'r cyfyngiadau symud cyntaf, a yw'r Llywodraeth wedi ystyried sut y gall mesurau economaidd ymgorffori...
Peredur Owen Griffiths: 8. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i wella ansawdd bywyd pobl wrth ddatblygu mentrau economaidd? OQ57837