Luke Fletcher: 1. Pa flaenoriaethau y mae'r Gweinidog yn eu hystyried wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol? OQ57577
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog, a dwi'n dymuno iddo fe wellhad cyflym.
Luke Fletcher: Rydym wedi gweld y defnydd anghyson a gwael o gyd-bwyllgorau gweinidogol, a oedd i fod i wella cydweithrediad rhwng Llywodraethau'r DU a Llywodraethau datganoledig, ond a oedd yn bennaf, yn fy marn sinigaidd i, yn ddim ond ymarfer ticio blychau. Rwy'n pryderu y bydd llawer o'r fforymau a sefydlwyd drwy'r cytundeb ymadael a'r cytundeb masnach a chydweithredu yn gweld swyddogaeth Cymru naill...
Luke Fletcher: Diolch, Llywydd, a diolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw ac i'r Gweinidog am ymateb.
Luke Fletcher: Wrth inni gloi'r ddadl hon, credaf ei bod yn werth nodi ac ailadrodd pwynt a wnaeth Jayne Bryant, nad yw'r brwydrau dyddiol oherwydd costau byw yn rhywbeth newydd, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi bodoli ers degawd neu fwy. Ond yr hyn a welwn yn awr yw chwyddo'r trafferthion hynny, brwydr na ddylai byth fodoli yn y lle cyntaf. Bydd y chwyddo hwnnw'n arwain at lefelau Fictoraidd o dlodi, ac mae'n...
Luke Fletcher: Wrth gwrs. Mae llawer o bethau y gellir eu gwneud i fynd i’r afael, yn benodol, â llesiant a chyflogau gweithwyr yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, ac mae pob un ohonynt yn galw am gamau cyflym a phendant gan y Llywodraeth, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond yn San Steffan hefyd. Wrth gwrs, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i a nifer o fy nghyd-Aelodau trawsbleidiol i incwm...
Luke Fletcher: Diolch, Lywydd. Gwyddom ar hyn o bryd fod pobl a gweithwyr yng Nghymru yn byw drwy argyfwng costau byw sydd ond yn mynd i waethygu. Mae cyfradd chwyddiant y DU yn 5.4 y cant ar hyn o bryd—y gyfradd uchaf ers 30 mlynedd—a disgwylir i’r cynnydd barhau, gan gyrraedd uchafbwynt o 6 y cant yng ngwanwyn 2022. Mae’r cyfraddau chwyddiant uchel hyn yn sylweddol uwch na thwf cyflogau cyfredol,...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n rhannu pryderon y Gweinidog ynghylch Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau gwariant mewn meysydd datganoledig, yn enwedig y ffaith ei bod hi'n ymddangos bod y gwariant yn digwydd mewn seddau arbennig a ddelir gan blaid arbennig. Dyma enghraifft arall i ychwanegu at y dystiolaeth gynyddol bod undeboliaeth ffyrnig Llywodraeth y DU yn bygwth ymreolaeth y Senedd....
Luke Fletcher: Ni fydd yn syndod i'r Gweinidog fod gennyf bryderon mawr ynghylch y dirwyon ar weithwyr yn rheoliad Rhif 23, ac nid fi yw'r unig un, wrth gwrs—fel y nododd Rhun ap Iorwerth, mae'r TUC ac Aelodau eraill wedi codi pryderon. Fel y nodais pan gafodd y Senedd ei galw'n ôl, mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth y Llywodraeth yn dangos yn gwbl glir fod y Llywodraeth yn credu bod y berthynas yn...
Luke Fletcher: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r gyllideb hon.
Luke Fletcher: Yn gyntaf, fel y mae'r Aelodau'n ymwybodol, rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn ceisio'i gyflawni, yn enwedig o ran prydau ysgol am ddim. Ymestyn prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau prydau ysgol am ddim i bawb, a bydd hynny'n gwneud llawer i sicrhau bod plant o bob cefndir yn ddi-ffael yn...
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Gan sôn am ddirwyo gweithwyr am y tro, os edrychwch ar y memorandwm cyd-ddealltwriaeth ar gyfer y rheoliadau hyn a'r datganiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ar yr ail ar bymtheg a heddiw mae'n amlwg fod y Llywodraeth yn credu bod y berthynas rhwng gweithiwr a chyflogwr yn gytbwys. Mae meddwl bod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng cyflogwr a gweithiwr, gyda phob...
Luke Fletcher: A gaf fi adleisio'r hyn y mae Jane Dodds wedi'i ddweud wrth ddiolch i'r Aelodau am eu hymwneud ar fater lles milgwn, gan gynnwys y Gweinidog hefyd am ei hymwneud hithau? Mae wedi bod yn wirioneddol drawsbleidiol. Yn dilyn cwestiwn Jane, os aiff y cynlluniau rhagddynt ar drac y Valley yn Ystrad Mynach, bydd y cynnydd mewn rasio yn arwain at fwy o filgwn yn cael eu hanafu neu'n cael anaf...
Luke Fletcher: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y bydd llawer o Aelodau'n sôn, mae'n siŵr, mae'r datganiad hwn, yn wir, yn amserol; mae bron yn teimlo fel stori newyddion beunyddiol y dyddiau hyn bod canghennau banc yn cau yn ein trefi a'n pentrefi ledled Cymru. Rhwng 2015 a 2019, collodd Cymru dros ddwy ran o bump o'i changhennau banc—dyna 239 o ganghennau'n gyfan gwbl. Yn fy rhanbarth i yng Ngorllewin De...
Luke Fletcher: Diolch am yr ymateb, Prif Weinidog.
Luke Fletcher: Yn y lle cyntaf, rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud wrth gydnabod bod cadw'r lwfans ar waith yng Nghymru yn darparu cymorth y mae mawr ei angen i ddysgwyr, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad i ddiogelu'r lwfans yn y rhaglen lywodraethu. Ond tybed a fydd y Llywodraeth yn adolygu'r lwfans ai peidio, yn benodol y swm a delir i fyfyrwyr a'r broses o wneud...
Luke Fletcher: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ57390
Luke Fletcher: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Unwaith eto, mae gennym ddadl arall wedi'i chyflwyno ar dlodi, problem hirsefydlog i'r Senedd hon, ac mae cysylltiadau hysbys na ellir eu gwadu rhwng tlodi ac ansicrwydd bwyd. O gofio bod bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid yw'n syndod bod ansicrwydd bwyd yn broblem fawr sy'n wynebu llawer o aelwydydd yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir camau cadarnhaol...
Luke Fletcher: Diolch am yr ymateb hwnnw, Prif Weinidog.
Luke Fletcher: Yn ddiweddar, gwnes i gyfarfod â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i drafod incwm sylfaenol cyffredinol ac wythnos waith pedwar diwrnod, ac yr oedd yn ddiddorol clywed bod nifer o fusnesau yng Nghymru wedi cysylltu â'i swyddfa yn gofyn am gymorth i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn ceisio dysgu o gynlluniau peilot mewn mannau eraill yn y byd, ond o...