Ken Skates: A gaf fi ddweud wrth yr Aelod fy mod yn cydymdeimlo â’i sefyllfa a sefyllfa ei gymunedau ar hyn o bryd? Yn fy etholaeth i, De Clwyd, un banc yn unig sydd ar ôl—un banc yn unig. Banc Barclays yw hwnnw. Felly, dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod drwy ymgynghoriadau, fel y’u gelwir, dro ar ôl tro, sydd bob amser yn gorffen gyda banc yn cau. Credaf ei bod yn hollol hanfodol fod...
Ken Skates: Er nad yw bancio wedi ei ddatganoli, ac er mai mater masnachol i’r banciau yw cau canghennau, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau ac unigolion ledled Cymru yn cael mynediad at gyfleusterau bancio, gan gynnwys peiriannau codi arian a mannau talu arian i mewn a chyfleusterau casglu. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i gefnogi hyn.
Ken Skates: Iawn, gwnaf, yn sicr. Mae’n brosiect hynod uchelgeisiol a hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn caredig iawn i mi. Amcangyfrifir ar hyn o bryd y bydd metro de Cymru yn costio dros £700 miliwn ac mae’r amserlenni fel a ganlyn—fe af drwy bob un o’r pwyntiau allweddol. Byddwn yn dyfarnu pwy fydd y gweithredwr a’r partner datblygu ar gyfer y fasnachfraint a’r metro erbyn diwedd...
Ken Skates: Mae’r Aelod yn hollol iawn fod angen i ni sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yn gwbl integredig. Ddoe, amlinellais i Llyr Huws Gruffydd sut rydym yn cefnogi rhwydwaith bysiau gogledd-ddwyrain Cymru yn yr ardal lle y bydd y metro’n dechrau o ran yr ymagwedd sydd angen ei mabwysiadu ers i GHA Coaches fynd i’r wal. Mae’n gwbl hanfodol ein bod yn sefydlogi’r rhwydwaith bysiau yn y...
Ken Skates: Gobeithiaf y byddai’r Aelod yn cydnabod nad yw tanariannu hanesyddol y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel yr amlinellais i Adam Price, wedi bod o gymorth, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn. Yn wir, nid yw’n rhywbeth newydd; yn hanesyddol, rydym wedi gwneud yn waeth yn ystod misoedd y gaeaf gan na wnaed y buddsoddiad lle y dylid ei wneud. O ran yr hyn y gallwn ni fel...
Ken Skates: Byddwn yn cyflwyno metro de Cymru ar y cyd â datblygiad masnachfraint newydd Cymru a’r Gororau, a fydd yn darparu gwelliannau sylweddol i wasanaethau rheilffyrdd ledled Cymru. Gall teithwyr ddisgwyl gweld newid sylweddol o ran ansawdd y gwasanaethau rheilffyrdd a ddarperir.
Ken Skates: Rydym yn mynd i ddechrau gamblo os yw hyn yn iawn.
Ken Skates: Mae hyn yn ymwneud i raddau helaeth â’r strategaeth sgiliau a’r gwaith a wnaed gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth. Weithiau, mae rhagamcanion yn dod yn wir; rhagwelsom y gallai hyn godi heddiw, y cwestiwn hwn, felly fe’ch trosglwyddaf at sylw’r Gweinidog.
Ken Skates: Mae’r ffordd y mae’n rhaid i rai pobl oddef trafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd yn annerbyniol, ac rydym wedi bod yn llym iawn gyda’r gweithredwyr. Rydym hefyd yn llym gyda Network Rail, sydd wedi tanariannu rhwydwaith Cymru yn fawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Rydym hefyd yn credu’n gryf mai nawr yw’r amser i ddatganoli pob cyfrifoldeb am wasanaethau rheilffyrdd, er mwyn i ni...
Ken Skates: Wel, mae’r Aelod yn nodi nifer o bwyntiau pwysig. Yn gyntaf, roeddwn yn siomedig iawn fod yr ystadegau hynny wedi cael eu gohirio. Roeddent y tu hwnt i’n rheolaeth, fel y gŵyr yr Aelod, ond roeddwn yn gobeithio’n fawr y byddent yn cael eu cyhoeddi yr wythnos hon. Ni allaf roi sylwadau ar yr hyn rwyf wedi ei weld yn y datganiad ystadegol. Wedi dweud hynny, mae rhagamcaniadau yn aml yn...
Ken Skates: Mae ansawdd lleoliad yn gwbl hanfodol wrth sicrhau bod pobl yn ymfalchïo yn lle y maent yn byw, a chytunaf â’r Aelod fod angen ei wella, nid yn unig o ran y lleiniau ar ymylon cefnffyrdd, ond o ran strydoedd yn gyffredinol a chanol trefi. Mae llawer o awdurdodau lleol yn ei chael hi’n anodd gyda chynnydd, mewn rhai ardaloedd, mewn taflu ysbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ond yr...
Ken Skates: Cytunaf fod taflu ysbwriel yn hollol annerbyniol, ond ni ddylid ymateb i broblem o’r fath drwy glirio ysbwriel yn unig, dylid perswadio pobl i newid eu hagweddau, eu hymddygiad a’u diwylliant. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i ffyrdd o atal problemau o’r fath rhag codi yn y dyfodol. Felly nid yw hyn yn ymwneud â...
Ken Skates: Gallaf. Llywodraeth Cymru.
Ken Skates: Nid wyf wedi cael unrhyw sgyrsiau hyd yn hyn gyda’r darpar-Arlywydd nac unrhyw wahoddiad i fynychu unrhyw ddigwyddiadau masnach yn yr Unol Daleithiau. Wrth gwrs, byddem yn eu hystyried, pe baent yn dod i law. Do, mae’r darpar-Arlywydd wedi mynegi y byddai’n dymuno creu cytundebau ffafriol â’r Deyrnas Unedig. Wedi dweud hynny, drwy gydol ei ymgyrch, roedd yn dweud ei fod yn dymuno...
Ken Skates: Gwnaf, yn wir. Bydd allforion, fel rydym wedi’i ddweud ar sawl achlysur, yn nodwedd allweddol o’n gwaith yn y blynyddoedd i ddod. Byddwn yn cynyddu buddsoddiad a gweithgarwch yn y maes hwn, nid yn lleiaf am fod cyfraddau cyfnewid arian yn rhoi mantais gystadleuol glir i ni mewn nifer o farchnadoedd ar hyn o bryd. Dylwn ddweud hefyd, o ran allforion, fod y ffigurau y cyfeiriodd yr Aelod...
Ken Skates: Ydynt, maent wedi bod yn llwyddiant, gan fod data’n dangos bod yr enillion ar fuddsoddiad y teithiau masnach hynny oddeutu 40:1. Felly, llwyddiant mawr o ran yr enillion i’r trethdalwr. Rydym yn cynllunio dwy daith fasnach arall i’r Unol Daleithiau yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, i San Francisco ac i Efrog Newydd. Credaf ei bod yn eithaf clir y bydd y £5 miliwn ychwanegol a...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud mai un unigolyn yn y Ffederasiwn Busnesau Bach oedd hynny, a bod llawer o bobl eraill yn y Ffederasiwn Busnesau Bach yng ngogledd Cymru wedi croesawu toriad Llywodraeth Cymru i drethi busnes ar gyfer busnesau bach a chanolig yn Arfon. Mae’r Aelod yn crybwyll y cynllun yn Lloegr, ond mae hwnnw’n gymwys i lawer llai o fusnesau. Bydd ein...
Ken Skates: Ni chredaf y byddai’n iawn i mi roi sylwadau manwl ynglŷn â mater sy’n amlwg yn fater masnachol, ond os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf gyda manylion ynglŷn â’r ddau brisiad, byddaf yn sicr yn gofyn i fy swyddogion yn y tîm eiddo edrych i weld pam fod gwahaniaeth mor glir a sylweddol rhwng y gwerthoedd a bennwyd ar ei gyfer. Yn ogystal, byddaf yn ymdrechu i sicrhau bod swyddogion...
Ken Skates: Mae llawer o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach a chanolig yn Arfon, ac yn wir ledled Cymru, drwy rwydwaith cefnogi Busnes Cymru.
Ken Skates: Ac mae’r Aelod yn iawn, yn gyffredinol, yn ei honiadau. Credaf fod y ffigurau wedi codi ychydig, ond serch hynny, byddai’r enillion gwirioneddol, cyhyd ag y bo’r gylchffordd yn gweithredu am y cyfnod llawn, yn darparu enillion o oddeutu £2.5 miliwn o ran y gymhareb cost a budd i’r trethdalwr. Felly, mae’r Aelod yn hollol gywir yn hynny o beth. Gan ystyried yr hyn a ddywedodd...