Rhun ap Iorwerth: Rydych wedi datgan fel ffaith, unwaith eto, fel y bydd y cofnod yn ei ddangos, fod cynnydd wedi bod yn nifer y meddygon yng Nghymru. Un o’r ffeithiau pellach roeddem yn ei gweld yn ddiddorol yw bod un maes arbenigol penodol wedi gweld cynnydd o 207 o feddygon ychwanegol yn y flwyddyn ddiwethaf. Y maes arbenigol penodol hwnnw, er ei fod yn cael ei restru fel maes arbenigol ysbyty mewn...
Rhun ap Iorwerth: Rwy’n edrych ymlaen at weld cynnydd yn y llefydd, gan gynnwys, wrth gwrs, ym Mangor a rhannau eraill o Gymru. Byddwn yn croesawu unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru—a byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Llywodraeth a chynnig fy nghydweithrediad—ar fater cynyddu llefydd hyfforddiant meddygol. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, ar sawl achlysur, wedi dweud bod gennym y nifer uchaf erioed o feddygon...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Lywydd. Rydw i’n siŵr y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ymuno â fi i gondemnio’r rhethreg gan Lywodraeth Geidwadol Prydain dros y dyddiau diwethaf a’r amarch sydd wedi cael ei ddangos tuag at staff o’r tu allan i’r ynysoedd yma sydd yn gwneud cyfraniad mor werthfawr o fewn yr NHS. Mi fuaswn i eisiau pellhau fy hun oddi wrth bron popeth y mae Jeremy Hunt yn ei ddweud. Ond,...
Rhun ap Iorwerth: Mi dynnais i sylw rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet at broblem lle roedd busnesau bach yn mharth menter Môn yn methu â gwneud cais am ostyngiad yn eu hardrethi busnes. Roeddwn i’n ddiolchgar iawn iddi hi am gydnabod bod yna broblem ac am agor ffenest newydd ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae’n ymddangos eto rŵan bod yr un broblem yn parhau. Felly, pa fwriad sydd gan yr...
Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu telefeddygaeth? OAQ(5)0041(HWS)[W]
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae rhyw ddau neu dri o bwyntiau gen i, a phump o gwestiynau, rwy’n meddwl. O ran pwyntiau agoriadol, rydym wrth gwrs yn croesawu'r gwelliannau a chyfraddau goroesi gwell a chanlyniadau gwell i gleifion pan mae hynny’n digwydd. Mae wrth gwrs yn digwydd ar draws Ewrop a’r byd yn gyffredinol oherwydd gwelliannau...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Amser byr iawn yn unig sydd gennyf i grynhoi. Yn gyntaf, diolch i’r Aelodau sydd wedi siarad dros y cynnig hwn heddiw. Roedd David Rees yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith fod yna amrywiaeth o bobl ac nid nyrsys yn unig—yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig—yn elwa o’r bwrsariaethau. Diolch hefyd i...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am ildio. Er eglurder, rydym yn ddiolchgar eich bod yn awgrymu y byddwch yn cefnogi’r cynnig heddiw, ond a allwch gadarnhau eich bod yn cadarnhau yr hyn sydd yn y cynnig mewn perthynas â 2016-17 yn unig, a bod yr hyn a fydd yn digwydd y tu hwnt i hynny yn agored i drafodaeth o hyd?
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Yn hollol, oherwydd mae’r cyfnod hyfforddi a gweithio yn y GIG yn ffordd o agor y drws ar yrfa yn y dyfodol yn yr ardaloedd lle rydym yn ei chael hi’n anodd recriwtio iddynt o bosibl. Rwy’n credu bod nyrsys yn haeddu cael eu talu am y gwaith a wnânt—am weithio’r hyn sy’n cyfateb i swydd amser llawn yn y GIG wrth astudio. Er enghraifft, a yw’n ymarferol iddynt weithio’n...
Rhun ap Iorwerth: Rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw, fel y dywedais, i ddangos ein cefnogaeth i gadw’r fwrsariaeth fel rhan o becyn ehangach i annog pobl o gefndiroedd incwm is i mewn i’r proffesiwn. Mae angen hynny ar ein GIG yn y dyfodol. Mae ein nyrsys yn y dyfodol yn haeddu hynny. Mae angen i’r Llywodraeth roi’r gorau i oedi ar y mater hwn a gwneud penderfyniad.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Wel, rydym wedi cyflwyno’r cynnig heddiw am reswm syml iawn: credwn fod y fwrsariaeth nyrsio yn werthfawr ac rydym yn chwilio am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â’i bwriadau mewn perthynas â dyfodol y fwrsariaeth. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu dileu’r fwrsariaeth yn Lloegr gan ganu larymau yng Nghymru, ac yn yr Alban hefyd. Ond ar 20...
Rhun ap Iorwerth: Rydych yn llygad eich lle, ac rwyf yn cytuno â'r pwyntiau a godwyd gennych. Mae materion ymarferol penodol o ran sicrhau y gall cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru wylio gwasanaethau BBC Cymru drwy eu teledu a'u radio, ac mae angen i ni sicrhau yr eir i’r afael a nifer y bobl sy'n derbyn rhaglenni rhanbarthol Lloegr yn hytrach na rhaglenni cenedlaethol Cymru. Mae’r cwbl yn dibynnu ar y...
Rhun ap Iorwerth: Yn sicr.
Rhun ap Iorwerth: Ni wnaf i siarad yn hir, dim ond i ategu llawer o’r hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn barod gan nifer o Aelodau, sef beth sy’n bwysig o ganlyniad i’r broses rydym wedi mynd drwyddi o ran y siarter ydy’r hyn sy’n cael ei weithredu yng Nghymru. Mae yna fygythiadau yn wynebu BBC Cymru a darlledu yng Nghymru, heb os, o ganlyniad i’r siarter a fydd gennym ni wrth symud ymlaen. Heb os,...
Rhun ap Iorwerth: A gaf i groesawu’r datganiad yma? Rydym ni’n siarad yn y fan hyn am ddwy elfen, rydw i’n meddwl, o wendidau yn y ddarpariaeth iechyd sydd ar hyn o bryd yn arwain at rwystredigaeth ymhlith cleifion a’u teuluoedd, a lle mae yna wir deimlad bod yna, mewn rhyw fodd, annhegwch yn y system. Mi rof i sylw yn gyntaf i’r cyhoeddiad ynglŷn â’r adolygiad annibynnol o’r broses ceisiadau...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi ymweld yn yr wythnosau diwethaf â dwy fferyllfa yn fy etholaeth i—fferyllfa Rowlands yn Llanfair Pwllgwyngyll a fferyllfa Boots yn Llangefni. Mae fferyllfeydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan hanfodol o fewn y ddarpariaeth ehangach o ofal sylfaenol ac mi fyddwn i’n sicr yn dymuno gweld y ddarpariaeth honno yn cael ei hymestyn. A ydy’r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod angen cael...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am y datganiad. Mae hwn yn faes sy’n sicr yn flaenoriaeth i ni ym Mhlaid Cymru, a dyna pam, wrth gwrs, yr oeddem ni’n benderfynol o gael ymrwymiad yn y maes yma yn rhan o’r cytundeb ôl-etholiadol. Mi ydym ni’n wynebu argyfwng ac, yn wyneb argyfwng o’r math yma, mae angen gweithredu brys. Mae yna lai o feddygon teulu y pen...
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?