Ken Skates: Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau ar sefyllfa bresennol Silverstone. Ond o ran Fformiwla 1, wrth gwrs, mae’n un o’r digwyddiadau chwaraeon blynyddol mwyaf sy’n digwydd ym Mhrydain, yn Silverstone ar hyn o bryd. Mae tîm Cylchffordd Cymru wedi rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru na fyddai unrhyw gais posibl yn y dyfodol am Fformiwla 1 angen cyllid ar unrhyw ffurf gan Lywodraeth Cymru....
Ken Skates: Rwy’n cytuno. Mae’r potensial o ran hysbysebu neu gyfwerth hysbysebu mewn perthynas â digwyddiadau mawr yn enfawr. Pan fyddwn yn cynnal digwyddiadau mawr, megis rygbi, megis cyfres y Lludw, gwyddom fod ffocws y byd ar Gaerdydd, ac ar Gymru, yn anferth. Ac ar gyfer ardal megis y Cymoedd, byddai’n hynod o werthfawr pe bai llu o ddigwyddiadau mawr yn digwydd yno’n rheolaidd, yn ei...
Ken Skates: Gwnaf. Bydd Cylchffordd Cymru yn cyflwyno cais diwygiedig cyn bo hir, wedi i mi osod her iddynt ym mis Gorffennaf i sicrhau bod unrhyw gymorth a ddarperir gan y trethdalwr yn gymesur ac yn deg. Pan dderbynnir cais ffurfiol, byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau.
Ken Skates: Ydw, rwy’n cydnabod y brwdfrydedd a’r gefnogaeth i’r prosiect. Ac wrth gwrs, rwyf yr un mor rhwystredig â llawer o bobl o ran pa mor hir y mae’r prosiect yn ei gymryd. Ond mae’n bwysig sylweddoli bod hwn yn brosiect a ariennir yn breifat, ac nad y Llywodraeth sy’n pennu cyflymder y prosiect, ac nad yw ychwaith o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. Felly, hoffwn weld pwynt penderfynu...
Ken Skates: Rwy'n credu bod y feirniadaeth o Gyngor Sir y Fflint yn benodol yn sgil cymhelliant gwleidyddol, os caf ddweud hynny, oherwydd bod awdurdodau lleol eraill yn defnyddio gwasanaethau GHA. Y ffaith amdani yw bod Cyngor Sir y Fflint—mewn gwirionedd, yn wahanol i awdurdodau lleol eraill—wedi cadw grant cynnal gwasanaeth o fwy nag £1 miliwn. O ganlyniad i hyn, maent wedi gallu adfer...
Ken Skates: Bydd, bydd yr Aelod yn ymwybodol o ddadlau lleol yn sgil cyhoeddi contract RJ o Wem â’r cyngor. Lluniodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gontract ag RJ gan wybod bod y cyfarwyddwyr gynt yn goruchwylio GHA Coaches. Nawr, mae colli'r drwydded weithredu yn golygu y bydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am asesu amgylchiadau a blaenoriaethau lleol, gan gynnwys unrhyw wasanaeth y gellir ei ddarparu...
Ken Skates: Gwnaf. Rydym ni wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac awdurdodau lleol eraill yn y gogledd-ddwyrain ers peth amser i helpu i nodi a chefnogi rhwydwaith bysiau lleol cynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a gydag eraill, gan gynnwys Bus Users Cymru a Busnes Cymru, er mwyn helpu i greu amgylchiadau lle gellir cyflawni rhwydwaith bysiau cynaliadwy.
Ken Skates: Rwy’n credu ei bod yn amlwg, gyda £10 miliwn ar gael i gynorthwyo busnesau bach, y bydd y Llywodraeth hon yn helpu, lle bynnag y bo modd, gyda’r her y mae rhai busnesau bach yn ei hwynebu o ganlyniad i ailbrisio. Byddwn yn parhau i wneud hynny a byddwn yn asesu unrhyw fodd o gynorthwyo’r busnesau sy’n dioddef fwyaf. Ond nid mesur ar gyfer codi trethi yw ailbrisio, ac rwy’n credu y...
Ken Skates: Iawn.
Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau i’r ddadl bwysig hon heddiw? Fel rydym eisoes wedi clywed gan gyd-Aelodau ar bob ochr i’r Siambr heddiw, mae canol trefi yn ganolog i gymunedau lleol, yn darparu lleoedd i fyw, siopa, gwneud busnes a chymdeithasu. Fel yr amlinellodd Jenny Rathbone, mae canol trefi a strydoedd mawr yn dod â phobl at...
Ken Skates: Cynnig
Ken Skates: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Fe ddywedaf mai fy mhryder yw swyddi hirdymor y bobl sy’n gweithio yn y sector dur, ac o ran pensiynau, mae Tata wedi cadarnhau ei fod yn chwilio am ateb i gynllun pensiwn Dur Prydain. Unwaith eto, buasem yn annog pob parti i ddod o hyd i ateb boddhaol sydd er budd gorau holl aelodau’r cynllun.
Ken Skates: Wel, buasai’n ymddangos ei fod yn gwrth-ddweud hynny. Yr hyn a wyddom—. Y ffeithiau yw bod yna gynllun strategol ar safle Port Talbot ac o ganlyniad, mae nifer sylweddol—mwy na phedwar dwsin o bobl a oedd, neu sydd, yn y broses o gael eu recriwtio’n uniongyrchol gan Tata ym Mhort Talbot. Rwy’n hapus i gyhoeddi fy llythyr at Ratan Tata pan fydd wedi’i gael, a buaswn yn gobeithio y...
Ken Skates: Rwy’n cytuno’n llwyr â’r Aelod. Rwy’n credu ei fod yn siarad yn huawdl am yr angen i sicrhau diogelwch ar adeg pan fo sïon y cyfryngau’n achosi rhyw fath o chwyrlwynt emosiynol i lawer o deuluoedd ac aelwydydd sy’n dibynnu ar y sector dur. A byddaf yn sicr yn gofyn am gyfarfod â Ratan Tata yn dilyn fy llythyr ato, a anfonwyd ddoe. Roedd y cyfarfod a gefais gyda’r prif...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod yn deall y pryderon a fydd wedi cael eu cyflwyno o ganlyniad i adroddiadau diweddar yn y cyfryngau? Ond mae yna lawer o adroddiadau sy’n cylchredeg ar hyn o bryd, gan gynnwys rhai mwy cadarnhaol. Rwy’n meddwl am un a gyhoeddwyd ddydd Gwener, er enghraifft, yn ‘The Guardian’ a oedd yn awgrymu bod Tata yn bwriadu cyhoeddi’n...
Ken Skates: Ie, rwy’n credu’n gryf fod gan ein diwydiant dur ddyfodol cynaliadwy yng Nghymru, ac rydym yn gwbl ymroddedig i wneud popeth yn ein gallu i sicrhau hyn. Fodd bynnag, ni fyddwn yn ymateb i ddyfalu yn y cyfryngau wrth i Tata archwilio opsiynau ar gyfer dyfodol y gweithfeydd yng Nghymru.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei chwestiynau a dweud fy mod yn cytuno’n llwyr â’i phryderon? Rwyf hefyd yn cydnabod gwaith pwysig ei phwyllgor a’i bwysigrwydd cynyddol dros y blynyddoedd nesaf wrth fynd ati i ddadansoddi tirlun y cyfryngau a’r rôl bwysig y mae cyfryngau print yn ei chwarae. Mae’r cynnig hwn yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol. Yn...
Ken Skates: Gwnaf. Cyfarfûm heddiw â thîm rheoli Trinity Mirror South Wales, lle y codais y mater gofidus hwn a mynegais fy mhryder ynglŷn â’r cynnig i gau’r wasg argraffu yng Nghaerdydd.
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Julie Morgan am ei chwestiynau. Ac efallai y byddai'n briodol ar y pwynt hwn i ddweud mai lle S4C yw ateb unrhyw gwestiynau ynghylch penderfyniad S4C, ar sail eu cystadleuaeth i adleoli, boed hynny i Gaerfyrddin neu Gaernarfon. Yn yr un modd, mae’r mater o adleoli o Gaerdydd yn fater i S4C ymdrin ag ef yn hytrach na Llywodraeth Cymru, o ran y cwestiynau ynghylch pam y...
Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau, a dweud fy mod i’n credu ei fod yn hollol iawn. Yn gyntaf, credaf fod temtasiwn i lawer—wel, i bob un ohonom—siarad fel aelodau'r meinciau cefn ar ran ein rhanbarthau a’n hetholaethau priodol. Ond mae'n hanfodol i gydnabod y ceir cyfleoedd i hybu’r broses o greu cyfoeth ledled Cymru. Er ein bod yn sôn yn bennaf heddiw am Gaerfyrddin,...