Jeremy Miles: Nid wyf yn gwybod ai system ffederal ydyw, ond rwy'n cefnogi system sy’n cynnwys mecanwaith cyllid teg statudol i ddiogelu Cymru. Ac rwy’n credu, wrth ddod allan o'r ddadl Brexit, bod pobl yn deall yr angen am hynny, ac y dylem ddadlau dros y dyfodol hwnnw.
Jeremy Miles: Gadewch inni fod yn glir am un peth, nid oes llawer i’w ddathlu—dim byd i'w ddathlu, a dweud y gwir—am weithredoedd Llywodraeth y DU yn yr ychydig wythnosau diwethaf. Unig rinwedd cyflwyno'r hysbysiad erthygl 50 yw ei fod yn rhoi diwedd ar y cwestiwn o ba un a ydym yn cychwyn ar broses o adael yr Undeb Ewropeaidd ai peidio. Yr hyn y mae gennym gyfle i’w wneud nawr yw ymladd am y math...
Jeremy Miles: Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gynhwysiant digidol?
Jeremy Miles: A wnaiff yr Aelod ildio?
Jeremy Miles: Nodaf ei fod yn awyddus i gyflwyno ei hun fel ffrind i’r iaith Gymraeg. A wnaiff fanteisio ar y cyfle hwn i gondemnio’r sylwadau gan Gareth Bennett, a ddisgrifiodd ymgyrchwyr dros yr iaith Gymraeg fel ‘loonies’, sylw a oedd yn sarhaus ar sawl lefel?
Jeremy Miles: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl y diwydiannau creadigol o ran datblygu economi Cymru?
Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle heddiw i gyflwyno’r ddadl hon ar yr economi las yng Nghymru, ynghyd â Jayne Bryant, Lee Waters, Angela Burns, Rhun ap Iorwerth a Simon Thomas. Mae’r ‘economi las’ yn cyfeirio at ystod eang o weithgareddau economaidd sy’n gysylltiedig â’n moroedd—yn cynnwys ynni morol adnewyddadwy, cludiant morol, porthladdoedd, twristiaeth a...
Jeremy Miles: Bydd arweinydd y tŷ yn gwybod bod Iechyd Cyhoeddus Cymru y bore yma wedi cadarnhau bod nifer o ffynonellau tystiolaeth yn dangos bod proffylacsis cyn-gysylltiad yn hynod effeithiol o ran atal haint HIV. Mae PrEp eisoes yn cael ei ragnodi yn yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Norwy ac Israel. Felly, a gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd gyflwyno datganiad, sy’n cadarnhau’r...
Jeremy Miles: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Yr wythnos diwethaf, amlygodd adroddiadau yn y wasg brofiad pobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghastell-nedd. Roedd y bobl a gyfwelwyd wedi bod trwy golli swyddi, anhawster yn hawlio budd-daliadau, carchar a chaethiwed, a gwnaethant siarad yn deimladwy am yr effaith ar eu hiechyd a'u hymdeimlad o unigrwydd. Cydnabyddir bod y ddeddfwriaeth y mae'r Prif...
Jeremy Miles: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chysgu allan yng Nghymru? OAQ(5)0518(FM)
Jeremy Miles: A gaf fi adleisio’r diolch y mae fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor eisoes wedi’i roi i staff Comisiwn y pwyllgor a phawb sydd wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor? Credaf fod tystiolaeth ddefnyddiol iawn yn y trawsgrifiadau nad yw o bosibl wedi cyrraedd yr adroddiad, a byddai’n werth myfyrio arni. Croesawaf ymateb Ysgrifennydd y Cabinet hefyd. Mae’n drueni nad oedd yn teimlo y gallai fynd...
Jeremy Miles: Rwyf yn rhannu'r sylwadau am Gymru. Dylem ni longyfarch ein hunain ar fod yn drydydd yn y byd. Mae hynny mewn gwirionedd yn anrhydedd arwyddocaol iawn, iawn ac yn amlwg yn gyfle i gynnal ein safle ar y blaen o ran ailgylchu fel cyfraniad at ein nodau amgylcheddol, ond mae hefyd yn darparu cyfle inni sicrhau bod cynaliadwyedd wrth wraidd ein heconomi. Mae hyn yn cyflwyno cyfleoedd mwy eang...
Jeremy Miles: A gaf i groesawu’r datganiad gan y Gweinidog? Mae’n gwybod fy mod i’n un o’r rhai a wnaeth gyd-lofnodi’r llythyr iddo yn gofyn iddo beidio â setlo, fel y gallwn ni ei ddweud, am gynlluniau heb uchelgais. Felly, rwy’n falch iawn o glywed eich bod chi mor glir yn eich datganiad am y cwestiwn o uchelgais. A gaf i ofyn dau gwestiwn i chi? Mae’r cwestiwn cyntaf ynglŷn â’r...
Jeremy Miles: Roeddwn yn falch o glywed Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi’r Bil hwn yng nghyd-destun cyfres o bolisïau a gynlluniwyd i gadw stoc tai cymdeithasol, a chynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy. A yw'n rhannu fy mhryder am yr hyn fyddai'r effaith ar y cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru pe byddai Plaid Cymru, y Torïaid ac UKIP wedi llwyddo'r wythnos ddiwethaf yn eu hymdrech i atal y...
Jeremy Miles: Er nad yw’n ddadansoddiad cyflawn o’n heconomi, mae’r economi sylfaenol yn ddadansoddiad pwysig iawn o ran allweddol ohoni. O ystyried yr anghenion y mae’r sectorau yn eu diwallu, mae’r economi sylfaenol yma i aros, ond nid yw polisi cyhoeddus ym mhob rhan o’r DU wedi mynd i’r afael yn ddigonol â sut y gallwn ei helpu i ffynnu ac i ddarparu swyddi sy’n cefnogi bywoliaeth...
Jeremy Miles: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Rwy’n ymwybodol o dendr Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect tyrbin unigol yn ne Cymru, sydd ar raddfa ddelfrydol, mewn gwirionedd, ar gyfer prosiect cymunedol. Mae’r meini prawf ar gyfer y tendr yn wirioneddol waharddol ar gyfer prosiectau cymunedol ar y raddfa honno, ac yn gofyn am hanes o gyflenwi a gwerth sawl blwyddyn o gyfrifon....
Jeremy Miles: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer targedau ynni o brosiectau cynhyrchu ynni sy’n eiddo i’r gymuned yng Nghymru? OAQ(5)0114(ERA)
Jeremy Miles: A gaf i longyfarch Llywodraeth Cymru ar y cynnydd o ran cyflwyno band eang cyflym iawn? Wrth i ni symud i fynd i'r afael â'r bylchau terfynol yn hynny o beth a gwella cysylltedd symudol, mae'n amlwg bod topograffi Cymru, mor hardd ag ydyw, yn creu heriau penodol i gysylltedd digidol ac efallai fod angen mynediad mwy cymesur at seilwaith arnom na rhannau eraill o’r DU i gyrraedd yr un lefel...
Jeremy Miles: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y seilwaith cyfathrebu digidol yng Nghymru? OAQ(5)0488(FM)
Jeremy Miles: Mae gennyf gwestiwn byr ar hynny.