Canlyniadau 2221–2240 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Mae'n gwestiwn diddorol iawn, ac rwy’n credu bod gwerth ystyried, nid yn unig y model hwn, ond hefyd modelau sy'n dod i'r amlwg mewn mannau eraill yng Nghymru. Er enghraifft, gwnaethom dorri tywarchen yn ddiweddar ym Mharc Gwyddoniaeth Menai yn y gogledd-orllewin, a chredaf fod hynny yn cynnig dull tebyg lle y gellid cael systemau fertigol integredig sy'n hybu twf prif denant, boed hynny...

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae'n siomedig mai dim ond ar ôl i'r prosiect gael ei gyhoeddi y sylwyd bod bwlch yn y cyllid, ond swyddogaeth S4C yw ychwanegu rhywbeth o bwys at Yr Egin a gweithredu fel y prif denant a all ddenu rhagor o fusnesau i gychwyn ac i ffynnu yno. Ac, fel yr wyf eisoes wedi’i ddweud, mae S4C wedi gallu dangos, drwy daliad rhent gwerth £3 miliwn ymlaen llaw, bod eu buddsoddiad yn y...

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau a dweud y byddwn i'n awyddus i edrych ar dwf newydd yn y Gymraeg a busnesau sy'n cefnogi'r Gymraeg mewn unrhyw le yng Nghymru, boed hynny yn y gogledd-orllewin, y de-orllewin, y de-ddwyrain neu’r canolbarth a’r gorllewin, mewn unrhyw le ledled Cymru. Felly, rwy'n awyddus i gefnogi unrhyw brosiect a all gyflawni manteision economaidd,...

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Eluned Morgan am ei chwestiwn. Yn union fel y nododd Simon Thomas, mae’r diwydiannau creadigol o fudd enfawr i economi Cymru. Maen nhw’n tyfu'n gynt yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU, ac eithrio Llundain, a'n bwriad yw sicrhau bod y diwydiannau creadigol yn mynd o nerth i nerth. Mae gan y Llywodraeth hanes balch, yn fy marn i, o gefnogi'r diwydiannau creadigol, ac,...

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud fy mod i’n gobeithio y deuir i gasgliad yn fuan iawn ar y mater hwn. Mae’r Aelod hefyd yn gywir bod angen i ni wahaniaethu rhwng S4C yn symud a chyfanrwydd prosiect Yr Egin, sy'n ganolbwynt uchelgeisiol i ddiwydiannau creadigol yng Nghaerfyrddin. O ran cyllid S4C ar gyfer ei chyfran o'r prosiect, mae S4C eisoes wedi nodi ei bod yn credu...

3. Cwestiwn Brys: Canolfan Yr Egin (29 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Bu swyddogion yn trafod gwahanol agweddau ar y prosiect hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac rwyf wedi gofyn bod trafodaethau yn parhau i benderfynu a ellir cyflwyno achos busnes boddhaol, sy’n dangos hyfywedd ariannol a manteision economaidd, diwylliannol ac ieithyddol y datblygiad, ac sy’n egluro’r angen am ymyrraeth gan y sector cyhoeddus.

8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion (22 Tach 2016)

Ken Skates: Rwy'n credu mai un peth y gallwn fod yn sicr ohono gyda Brexit yw, os bydd busnesau yng Nghymru yn gorfod talu tariffau, neu os bydd yn rhaid talu tariffau, yn hytrach, ar eu nwyddau a'u gwasanaethau, y bydd yn llesteirio eu gallu i allforio. Ni fydd yn fantais. Rwyf eisoes wedi amlinellu'r rhesymau dros y gostyngiad yng ngwerth allforion, yn bennaf caiff hyn ei briodoli i gynhyrchion ynni,...

8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion (22 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau sy'n cymryd rhan mewn teithiau masnach yn fusnesau bach a chanolig a, dim ond er mwyn dangos sut yr ydym yn dwysáu ein gweithgareddau tramor, yn y ddau fis diwethaf, rydym wedi mynd â mwy na 110 o fusnesau gwahanol ar deithiau masnach ac i arddangosfeydd tramor. Yn ogystal â Japan, rydym wedi bod i India, Iwerddon, yr Almaen a Gwlad Belg, i enwi ond...

8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion (22 Tach 2016)

Ken Skates: Gaf i ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau a dweud, ie, byddwn yn agored iawn i’r posibilrwydd o weld Cymru'n cynnal expo byd, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion edrych ar y potensial o wneud hyn yn y dyfodol? Yn anffodus, ni welais safle expo byd Osaka. Yn bennaf, roedd fy nhaith yn cynnwys teithio o un swyddfa i'r llall, ond fe wnes i gael golwg ar yr hyn oedd yn gastell anhygoel yn...

8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion (22 Tach 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac, yn wir, am groesawu’r datganiad hwn, sydd yn amserol? Bydd datganiadau pellach o'r math hwn yn dod ymlaen wrth i deithiau masnach ychwanegol gael eu cynnal ac y mae rhagor o wybodaeth ynghylch cyflwr allforion y DU a Chymru. Rwy’n credu bod cyfleoedd cyffrous, ond mae her ar unwaith i ni ymdrin â rhai canfyddiadau negyddol o'r DU ar...

8. 5. Datganiad: Canolbwyntio ar Allforion (22 Tach 2016)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Trwy'r datganiad hwn, byddaf yn dangos i'r Siambr bod y Llywodraeth hon mewn sefyllfa hynod o dda i ymateb i'r heriau digynsail a wynebwn yn awr yn yr amgylchedd busnes byd-eang. Mae cynyddu gwerth allforion a nifer yr allforwyr yng Nghymru wedi bod yn bileri canolog ein strategaeth economaidd ers peth amser. Mae hyn yn cyd-fynd â'r blaenoriaethau a nodir yn yr...

4. Cwestiwn Brys: Y Byrddau Cynghori Economaidd (22 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Adam Price am ei gwestiynau. Rwy'n falch ei fod yn croesawu'r gwaith yr wyf yn ei wneud ar hyn o bryd sy’n edrych ar dirwedd gyfan y byrddau ymgynghorol. Mae'n helaeth ac rwyf innau wedi llunio diagramau tebyg i ddeall yn union faint o fyrddau a chyrff sydd gennym. Nid ydym wedi cyrraedd penderfyniad terfynol hyd yma o ran y byrddau a fydd yn cael eu creu, ond byddwn...

4. Cwestiwn Brys: Y Byrddau Cynghori Economaidd (22 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau a dweud nad yw o reidrwydd yn un brys, y cwestiwn hwn, oherwydd ei fod yn rhan o'r broses honno o ymgynghori ar strategaeth economaidd newydd, strategaeth i wneud Cymru yn fwy llewyrchus a diogel—gwaith sy'n cael ei wneud, gwaith sydd wedi bod yn cael ei wneud yn ystod yr haf a'r hydref, drwy'r gaeaf ac ymlaen i'r gwanwyn, felly, o ganlyniad i hyn,...

4. Cwestiwn Brys: Y Byrddau Cynghori Economaidd (22 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Rwyf wedi bod yn glir iawn fy mod i’n gweithio ar adnewyddu blaenoriaethau economaidd yn rhan o waith ehangach. Rwy’n ystyried yr amrywiaeth o baneli, cyrff a grwpiau sy'n rhoi cyngor i mi.

2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot (22 Tach 2016)

Ken Skates: Rydym yn parhau i drafod â Tata ynglŷn â’r safleoedd dur yng Nghymru, ond ni allaf roi unrhyw fanylion am y prosiectau hyn oherwydd bod y trafodaethau yn parhau ac yn cael eu cynnal ar hyn o bryd. Ond, rwyf yn gobeithio bod mewn sefyllfa yn ystod yr wythnosau nesaf i wneud cyhoeddiad.

2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot (22 Tach 2016)

Ken Skates: Rwyf i ar ddeall mai strategol yw hyn, ac roedd bai arnaf am beidio â rhoi rhagor o fanylion i Bethan Jenkins o ran y cwestiwn ynglŷn â’r gweithwyr asiantaeth. Staff Tata yw’r rhain—cyn-staff Tata—sydd wedi eu diswyddo. Maen nhw’n cael eu tynnu yn ôl i weithio, ac rwy'n sicr bod hynny yn rhywbeth y dylem ni i gyd ei groesawu.

2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot (22 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf, ymunaf â'r Aelod wrth groesawu recriwtio 49 o weithwyr ychwanegol, sy'n cefnogi’r gwaith cynhyrchu. Rwy'n credu y bydd hyn yn anfon neges bod y bont yn sicr wedi gweithio, yn gweithio, a bod y sector dur yng Nghymru mewn sefyllfa gymharol gref o gymharu â lle yr oedd ym mis Ionawr eleni. Byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a phob cwmni dur yng Nghymru i sicrhau bod gan y sector...

2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot (22 Tach 2016)

Ken Skates: Rwyf yn cytuno’n llwyr â'r Aelod na ddylai unrhyw beth beryglu iechyd a diogelwch yn y gweithle, boed hynny yn y sector dur neu unrhyw sector arall o ran hynny. Fy nealltwriaeth i yw bod y 49 o weithwyr yn ychwanegol i'r gyfran o 750 y mae'r Aelod yn cyfeirio ati. Mae pob un wedi ei hyfforddi ac â phasbort diogelwch. Rwyf hefyd ar ddeall bod yr undebau a'r rheolwyr wedi cytuno i'r dull...

2. Cwestiwn Brys: Safle Tata ym Mhort Talbot (22 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Mae Tata Steel yn cyflogi tua 3,600 o bobl ym Mhort Talbot. Ar hyn o bryd mae Tata yn recriwtio 49 o staff asiantaeth profiadol i gymryd lle 21 o swyddi gwag yn sgil gadael naturiol a 28 o ganlyniad i ddiswyddo gwirfoddol.

9. 9. Dadl Fer: Gwerth Busnesau Bach a Chanolig i Economi Cymru (16 Tach 2016)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau, yn enwedig yr Aelod dros Gaerffili am gyflwyno’r ddadl bwysig hon heddiw? Gwyddom fod microfusnesau a busnesau bach a chanolig yn asgwrn cefn i’r economi yma yng Nghymru. Maent yn cynnal mwy na 62 y cant o bobl mewn gwaith ar draws y wlad, a busnesau bach a chanolig yw dros 90 y cant o fentrau ar draws Cymru. Maent...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.