Canlyniadau 2241–2260 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Tollau Pontydd Hafren (16 Tach 2016)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i’r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw ac am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Fel sydd wedi’i wneud yn glir yn ystod y ddadl hon, mae pontydd yr Hafren yn gyswllt allweddol yn ein seilwaith trafnidiaeth a’n seilwaith economaidd, ac fel rhan o goridor strategol yr M4, y croesfannau yw’r brif fynedfa i Gymru, ac maent yn rhoi mynediad...

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Tollau Pontydd Hafren (16 Tach 2016)

Ken Skates: Yn ffurfiol.

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiwn, a dweud fy mod i hefyd yn mwynhau yn fawr ailadrodd y ffaith mai’r gogledd yw'r pedwerydd lle gorau i ymweld ag ef ar y blaned, ac mae'n rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch iawn ohono? O ran Blwyddyn y Chwedlau, bydd 2016, y Flwyddyn Antur, yn gweld un o'r digwyddiadau mwyaf yn cael ei ddal yn ôl ar gyfer diwedd y flwyddyn—yr adeg pan...

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau caredig iawn. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r sector cyfan yn ystod y Flwyddyn Antur ac yn enwedig y llysgenhadon sydd, yn fy marn i, wedi gwneud gwaith rhagorol wrth hyrwyddo Cymru dramor. Soniodd yr Aelod am ZipWorld ac rwy'n credu mai’r hyn sy’n werth tynnu sylw ato yw y byddwn, y flwyddyn nesaf, yn gweld lansio cynnyrch unigryw newydd yn...

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau. Rwyf innau, hefyd, yn edrych ymlaen at rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA, ac rwy'n falch iawn bod clwb pêl-droed Abertawe yn aros yn yr uwch gynghrair ac, yn wir, byddwn yn defnyddio eu digwyddiadau, eu gemau, i hyrwyddo Cymru fel lle ar gyfer masnach a buddsoddi drwy wahodd buddsoddwyr posibl i ymuno â ni yn rhai o gemau allweddol y tymor...

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn ceisio ymdrin â'r cwestiynau mor gryno ag y bo modd. Mae'n wir bod hon yn bartneriaeth sydd wedi tyfu yr economi ymwelwyr. Mae hynny nid yn unig oherwydd gwaith da gan Lywodraeth Cymru neu Croeso Cymru—mae'n fater o weithio mewn partneriaeth agos â'r sector cyfan. Credaf fod llwyddiant y Flwyddyn Antur yn dangos, yn awr yn fwy nag erioed, ein bod yn...

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: Oedd, roedd nifer o bwyntiau ynghylch arwyr lleol, arwyr cymunedol a chwedlau cenedlaethol yr wyf yn credu bod yr Aelod wedi’u codi, yn gyntaf oll o ran Billy Boston. Mae hwn yn fater y mae’r Aelod wedi’i godi yn y gorffennol, a byddwn i'n falch iawn o dderbyn unrhyw ddiddordeb gan unrhyw grwpiau lleol ynghylch cais am adnodd i helpu i ddathlu'r anfarwolyn penodol hwn. Mae gennym, fel...

5. 5. Datganiad: Blwyddyn Chwedlau (15 Tach 2016)

Ken Skates: Enwyd Gogledd Cymru yn ddiweddar yn un o ranbarthau gorau’r byd gan Lonely Planet. Mae'n addas ac yn dystiolaeth i waith Croeso Cymru fod hyn yn dod ar ddiwedd y Flwyddyn Antur, gyda’r cyhoeddiad yn datgan bod Gogledd Cymru wedi ennill ei lle yn sgil y trawsnewid y mae’r rhanbarth wedi mynd drwyddo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Atyniadau antur cyntaf y byd, llwybr arfordirol...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Digwyddiadau Chwaraeon Mawr
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, rydym yn cyfarfod â gweithredwyr trenau’n rheolaidd i drafod effaith a goblygiadau digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol mawr ar y rhwydwaith rheilffyrdd, ac yn wir, ar y rhwydwaith ffyrdd hefyd. Rwy’n ymwybodol nad y digwyddiadau chwaraeon yn unig sy’n gallu achosi tagfeydd ar ffyrdd a gorlenwi ar drenau; gall digwyddiadau diwylliannol achosi problemau hefyd. Roedd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Digwyddiadau Chwaraeon Mawr
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Yn 2016, rydym wedi cefnogi ystod eang o ddigwyddiadau chwaraeon mawr gan gynnwys Hanner Marathon y Byd, y Gyfres Hwylio Eithafol, Tour of Britain a Rali Cymru Prydain Fawr. Rydym eisiau cynnal mwy o ddigwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau diwylliannol rhyngwladol mawr ledled Cymru ac mae trafodaethau ar y gweill gyda phartneriaid i glustnodi llawer o gyfleoedd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwelliant mewn Amseroedd Teithio ar ôl Trydaneiddio
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, buaswn yn cytuno y bydd trydaneiddio’r brif reilffordd o fudd i Gasnewydd, yn ddi-os. Bydd hefyd o fudd i Gaerdydd, ond buaswn hefyd yn disgwyl i’r gwaith gael ei ymestyn mewn modd amserol i Abertawe, ac rwy’n gobeithio y bydd newyddion cadarnhaol i’r perwyl hwnnw yn natganiad yr hydref. Buaswn yn annog Llywodraeth y DU—oherwydd rwy’n ymwybodol fod yna bellach nifer o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwasanaeth Trên rhwng Glynebwy a Chasnewydd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae cam 1 y metro eisoes ar y gweill, gyda chyfres o welliannau i orsafoedd ac i seilwaith rheilffyrdd. Rwy’n ymwybodol fod yr Aelod wedi mynegi ei farn ar y mater hwn ers 2007, ond rwy’n falch iawn fod hyn yn cael ei ddatblygu’n gyflym yn awr, ac edrychaf ymlaen at glywed yr Aelod yn llongyfarch Llywodraeth Cymru ar gyflwyno’r prosiect pwysig hwn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwelliant mewn Amseroedd Teithio ar ôl Trydaneiddio
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y mater hwn, ond maent yn dweud wrthyf y bydd gostyngiad o tua 17 munud yn yr amser teithio o Lundain i Gaerdydd pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwasanaeth Trên rhwng Glynebwy a Chasnewydd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gallaf. Rydym yn buddsoddi er mwyn caniatáu ar gyfer gwasanaethau amlach a chyflymach ar y rheilffordd, ac rydym hefyd yn ychwanegu platfformau newydd mewn nifer o orsafoedd. Rydym wedi ariannu Network Rail i gyflawni’r prosiect, ac maent wedi gosod y rhan fwyaf o’r trac newydd sy’n angenrheidiol ar gyfer y camau nesaf er mwyn i waith allu dechrau ar y gorsafoedd eu hunain. Bydd gwaith...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Gwasanaeth Trên rhwng Glynebwy a Chasnewydd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Ar hyn o bryd rydym yn caffael gweithredwr a phartner datblygu fel rhan o wasanaethau Cymru a’r Gororau o 2018 ymlaen ac wrth gwrs, y metro. Bydd y broses hon hefyd yn cynnwys trafodaethau â chynigwyr ynglŷn â’r ffordd orau i ddarparu gwasanaethau o Lyn Ebwy i Gasnewydd fel rhan o ddarpariaeth ehangach metro de-ddwyrain Cymru.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Grantiau Busnes
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mater i Swyddfa Archwilio Cymru yw asesu unrhyw achosion y gallai Aelodau fod yn bryderus yn eu cylch. Mae’r enghreifftiau y mae’r Aelod wedi’u crybwyll yn faterion dadleuol, ac ni fuasem wedi dymuno unrhyw golledion i’r trethdalwr. Ond mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal ymchwiliad trylwyr o brosiectau y mae’n barnu eu bod er budd y cyhoedd, a buaswn yn disgwyl i’w gwaith...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Grantiau Busnes
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae’n hanfodol fod diwydrwydd dyladwy yn cael ei ystyried yn llawn fel rhan o’r broses o benderfynu a ddylai busnes gael cymorth Llywodraeth Cymru neu’r trethdalwr, ac mae’r prosesau’n llym. Rwy’n edrych ar ffyrdd y gallwn gryfhau’r broses honno. Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig cydnabod, fodd bynnag, o ran y gefnogaeth rydym wedi’i chynnig, mai 4.9 y cant yn unig...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Grantiau Busnes
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Bydd angen i fusnesau sy’n ceisio cael gafael ar gymorth grant gwblhau’r cais priodol a darparu unrhyw ddogfennau ategol sydd eu hangen. Cynllun busnes a gwybodaeth ariannol berthnasol fydd y rhain fel arfer.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am ei chwestiwn. Mae nifer o Aelodau, dros yr wythnosau diwethaf, wedi gofyn cwestiynau i mi ynglŷn ag a allai’r Llywodraeth gefnogi prosiectau penodol a safleoedd penodol yn eu hetholaethau a’u rhanbarthau. Gwn fod Neil McEvoy wedi gofyn yr un cwestiwn yn ddiweddar. Yr hyn rwy’n ymrwymo i’w wneud yw ysgrifennu at yr Aelodau gyda manylion am y Cynllun...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gallaf gadarnhau’r pwynt diwethaf. Yn wir, byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau gyda diweddariad ar y cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth, oherwydd bod y meini prawf ar gyfer cymorth wedi cael eu newid. Rwy’n credu fy mod wedi tynnu sylw at hyn mewn sesiwn flaenorol yma yn y Cyfarfod Llawn, neu mewn pwyllgor, ond newidiodd y meini prawf fel bod isafswm ad-daliad o 30 y cant yn cael...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.