Canlyniadau 2261–2280 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Cynllun Cymorth Buddsoddi Mewn Twristiaeth
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf. Bydd yr Aelodau’n gwybod mai cronfa yw’r cynllun cymorth buddsoddi mewn twristiaeth sy’n cefnogi’r diwydiant twristiaeth. Ers 2013, cyfanswm gwerth y cynigion yw £5.5 miliwn, ynghyd â £11.3 miliwn ychwanegol ar gyfer prosiectau twristiaeth strategol, megis Profiad y Royal Mint a Syrffio Eryri. Mae’r gronfa wedi helpu i greu 1,087 o swyddi i gyd ac yn cynnwys £40 miliwn o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Mae’r arian yn cael ei ddyrannu yng nghyllideb y flwyddyn ariannol nesaf—neu yn y gyllideb ddrafft—ac yn dilyn y gwaith hwnnw, buaswn yn disgwyl y bydd modd i Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru archwilio’r prosiect yn drylwyr, ac yn sgil eu hasesiad o’r prosiect, buasai’r Llywodraeth wedyn yn cael cyfres o argymhellion. Yna, pe bai Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru neu’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Byddaf. Yn wir, rwy’n credu bod fy nghyfarfod nesaf gyda Network Rail i ddod yn y chwe wythnos nesaf, felly bydd hwnnw’n fater y byddaf yn ei drafod gyda hwy, ynghyd â’r angen i fuddsoddi mwy mewn clirio coed. Mae diffyg buddsoddiad mewn clirio coed yn arwain at ormod o ddail ar y rheilffyrdd, sy’n arwain at ddiffyg dibynadwyedd yn y rhwydwaith. Felly, byddaf yn trafod nifer o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Mae bod wedi cysylltu yn un o anghenion sylfaenol pob unigolyn os ydynt am fyw mewn amgylchedd gyda chyn lleied â phosibl o ofid a phryder, ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol, yn y rhaglen lywodraethu, ein bod yn rhoi llawn cymaint o bwyslais ar elfen ‘unedig a chysylltiedig’ strategaeth y Llywodraeth ag a rown ar y tair strategaeth bwysig arall. Credaf y buasai’r prosiect hwn yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Buaswn yn hapus iawn i gwrdd â’r Aelod a’r grŵp y mae’n sôn amdano, oherwydd credaf eu bod wedi gwneud achos cryf iawn, fel y mae’r Aelod wedi’i wneud, dros gael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Buaswn yn hapus i drafod eu dyheadau a’r cais gyda hwy.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Y Llinell Rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Yn 2015, cyhoeddasom adroddiad cwmpasu cychwynnol ar ailagor y rheilffordd hon. Yn dilyn hynny, rydym wedi ariannu arfarniad pellach o’r anghenion trafnidiaeth rhanbarthol, sy’n cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Rwy’n falch ein bod wedi cynnwys cyllid datblygu pellach yn y gyllideb ddrafft.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Am yr un rheswm ag a roddais eisoes, ni allwn roi unrhyw sicrwydd y buaswn yn gallu ariannu’r £160,000 yn llawn. Rwy’n siŵr fod yr Aelod yn deall y rheswm pam. Ni allaf wneud hynny am nad ydym wedi craffu ar y cais yn ddigon trylwyr eto. Ond o ran gorsafoedd, wel, mae hyblygrwydd wedi’i gynnwys yn y prosiect metro fel y gellir gwneud estyniadau ac fel y gellir addasu’r modd y caiff...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, ni allaf wneud hynny ar yr achlysur hwn, oherwydd ein bod yn dal i asesu rhinweddau’r cais. Rwy’n credu bod yr hyn y mae’r grŵp wedi’i wneud hyd yn hyn yn deilwng iawn. Rwy’n credu bod y gwaith y maent wedi’i wneud wedi bod yn hynod o werthfawr yn hysbysu Llywodraeth Cymru o’r hyn y mae cymunedau ei angen er mwyn creu amgylchedd mwy cysylltiedig. Ac felly byddwn yn rhoi...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Mae’r rhain yn cael eu harchwilio fel rhan o’r opsiynau, ac mae opsiynau ar y bwrdd ar gyfer datblygu’r banc a ble y dylid ei leoli. O ran yr hyn yw ystyr ‘pencadlys’, wel, mae dau opsiwn: un, trosglwyddo staff a swyddogaethau ar raddfa eang o’r brifddinas i’r pencadlys newydd; neu dau, yr ail opsiwn fuasai creu pencadlys, a thyfu’r pencadlys hwnnw dros gyfnod o amser heb...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Os edrychwch ar ogledd-ddwyrain Cymru, fe welwch fod llawer iawn o bobl—cannoedd o bobl yng ngogledd-ddwyrain Cymru—yn teithio ar draws y ffin i Loegr bob dydd i weithio mewn canolfannau ariannol mawr. Maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yn Bank of America yng Nghaer, maent yn teithio ar draws y ffin i weithio yng ngwasanaethau ariannol Marks & Spencer, ac i’r banciau a’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, cynhaliwyd fy nhrafodaethau diweddaraf ddoe. Bydd yr Aelod yn gwybod o fy ymddangosiad yn y pwyllgor yr wythnos ddiwethaf—ac mae hyn mewn gwirionedd yn ymwneud â’r cwestiynau a’r pwyntiau y mae Adam Price newydd eu codi—fod gennyf bryderon ynglŷn â sicrhau bod gan sefydliadau cenedlaethol megis Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru bresenoldeb ledled Cymru, ac nad...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Fel rwy’n dweud, mae’n ymwneud â sicrhau bod perthnasedd i’r hyn rydym yn ei wneud ym mhob rhan o Gymru. Fel y soniais, ar sawl achlysur bellach, am yr ardal rwy’n ei chynrychioli yng Nghymru, rwy’n credu weithiau fod y gogledd-ddwyrain yn teimlo’n bell oddi wrth y sefydliad hwn ac wedi’i heithrio rywfaint o’r broses ddatganoli. Buaswn yn cytuno hefyd ynglŷn ag economïau...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Ie. Rwyf wedi darllen yr adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree gyda diddordeb mawr, ac er fy mod yn credu bod y syniad o greu ardal fenter yn y Cymoedd yn un teilwng, nid wyf yn credu y byddai’n cynnig ateb i bob dim i gymunedau’r Cymoedd. Ac rwy’n credu bod angen gwneud mwy nag awgrym o’r fath er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r problemau strwythurol sy’n parhau i effeithio ar...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: A gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, a dweud ei fod yn llygad ei le—mae digwyddiadau dros nos yn sicr wedi arwain at yr angen i ni roi mwy o sylw i sicrhau bod twf economaidd yn berthnasol i’r holl bobl ym mhob cymuned? Ac mae hyn yn dilyn ystyriaethau, y gwn fod yr Aelod wedi’u cael, ers y refferendwm hefyd. Ac yn rhan o ddatblygu’r strategaeth economaidd newydd, rwy’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Yr Economi Werdd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae’r Aelod yn hollol gywir, ac rwy’n falch ein bod wedi gallu rhoi cymorth o ran cyngor ac arweiniad, ac adnoddau ariannol hefyd i Riversimple—cwmni y bydd yr Aelod yn gwybod amdano o bosibl—sydd ar flaen y gad ym maes ymchwil, datblygu ac arloesi mewn perthynas â pheiriannau cell hydrogen. Mae hwn yn faes o ddiddordeb cynyddol i arloeswyr, a phrifysgolion yn arbennig, ar draws...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Yr Economi Werdd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, wrth gwrs, cyfrifoldebau Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol yw’r rhain. Rydym yn gweithio’n agos ar nodi rhwystrau i dwf gwyrdd, gan gynnwys twf gwyrdd yn y sector ynni. Mae’n bosibl mai’r cyfle mwyaf sydd gennym—ac mae’r Aelod yn tynnu sylw at botensial y sector hwn—mae’n bosibl y gallai’r cyfle mwyaf ddod gyda datganiad yr hydref, os cawn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Yr Economi Werdd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Er y bydd pleidiau eraill yn anghyson o bosibl yn eu hagwedd tuag at newid yn yr hinsawdd, byddwn yn parhau i fod yn gwbl bendant yn ein penderfyniad i gyflawni ein rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn wir, i dyfu economi werdd, sydd o werth enfawr i gymunedau ledled Cymru. O ran ynni gwyrdd, gwyddom fod llawer o swyddi yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Yr Economi Werdd
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf, mae’r economi werdd yn sail i ymrwymiad ein rhaglen lywodraethu i gyflwyno deddfwriaeth newydd ar gyfer yr amgylchedd. Ein nod yw sefydlu Cymru fel economi werdd carbon isel er mwyn cefnogi prosiectau sy’n helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Masnachfraint Rheilffordd Cymru a’r Gororau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Gwnaf wrth gwrs. Bydd yr Aelod yn ymwybodol bod cyfyngiadau ar waith, drwy ddeddfwriaeth o’r Senedd, sy’n atal gweithredwyr dielw yn unig rhag cynnig am y fasnachfraint. Ond rydym wedi cynllunio’r system gaffael fel nad yw’n anfantais i unrhyw gynigwyr dielw os ydynt yn dymuno cynnig—nid oes yr un wedi cynnig, ond yr hyn rydym wedi’i wneud yw llunio ateb sy’n cyd-fynd â’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Masnachfraint Rheilffordd Cymru a’r Gororau
( 9 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae yna nifer o bwyntiau pwysig y mae’r Aelod wedi’u codi, ac wrth gwrs, gellid osgoi rhai o’r problemau sydd wedi cael eu hamlygu’n ddiweddar pe gallem gael cyfrifoldeb, pwerau, a setliad teg wedi’i ddatganoli i Gymru, er mwyn i ni allu sicrhau bod anghenion teithwyr yn cael eu diwallu’n llwyr. Nawr, cyfrifoldeb Trenau Arriva Cymru yw rheoli capasiti telerau’r...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.