Jeremy Miles: Rwy’n derbyn eich pwynt am y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ond mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi darogan hefyd fod y cynnydd bach gryn dipyn yn is na’r hyn y byddai gofyn ei gael hyd yn oed ar eu ffigurau hwy i fod yn gyflog byw go iawn, ac yn llawer is na’r hyn y mae’r Blaid Lafur yn ymrwymo i’w gyflwyno.
Jeremy Miles: Wel, fel Aelod sydd yn dal i fod yn gymharol newydd i'r lle hwn, rwy’n gobeithio y byddaf yn cael maddeuant os nad wyf wedi deall confensiynau’r ddadl ar y gyllideb yn llwyr, er fy mod yn meddwl fy mod i wedi deall y patrwm dros y blynyddoedd diwethaf. Nid wyf wedi bod yma fy hun i weld drosof fy hun y toriadau, toriadau, toriadau i gyllideb Llywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn;...
Jeremy Miles: Sylwaf o ymateb y Prif Weinidog y bydd yn ystyried ein gallu i gynhyrchu ynni gwyrdd o'r môr fel ased sylweddol wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd i Gymru fel cenedl llanw. Wrth i ni aros am benderfyniad Llywodraeth San Steffan am forlyn llanw bae Abertawe, a chroesawu’r fferm ynni'r llanw graddfa fawr gyntaf erioed oddi ar arfordir ynysoedd Orkney, a yw’n ymuno â mi i...
Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu cadwyni cyflenwi lleol yng Nghastell-nedd?
Jeremy Miles: Diolch yn fawr. Fe sonioch am gwestiwn y lluosydd hollt sy’n berthnasol yn Lloegr a’r Alban. Onid yw’n wir, fodd bynnag, fod yn rhaid i ni fod yn ofalus ynglŷn â chymharu’n uniongyrchol yn y fath fodd oherwydd bod natur y sylfaen dreth yn wahanol iawn mewn gwirionedd—yn sicr yn Lloegr—i’r hyn a geir yng Nghymru? Yn arbennig gyda’r nifer fach o eiddo ardrethol o werth uwch...
Jeremy Miles: Diolch am yr ateb hwnnw. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sy’n berthnasol i’r meysydd sydd wedi eu datganoli yn cael eu trosglwyddo i Gymru?
Jeremy Miles: 3. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’i wneud o effaith tebygol Bil Diddymu Mawr Llywodraeth y DU ar ddeddfwriaeth Cymru? OAQ(5)0012(CG)
Jeremy Miles: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Oni fyddai'n cytuno â mi bod yr egwyddorion sydd dan sylw yma, i raddau, yn dibynnu ar y ffawtlin rhwng Brexit caled a meddal, os mynnwch chi? Bydd y DU bellach yn gadael yr UE, ond y cwestiwn yw: a fyddwn ni wedyn yn gadael yr AEE a'r mynediad at y farchnad sengl a ddaw yn sgil hynny? Mae erthygl 127 yn awgrymu bod hwnnw yn gwestiwn ar wahân...
Jeremy Miles: Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o sylwadau gan Ysgrifennydd trafnidiaeth y DU ychydig wythnosau yn ôl bod pwyso am drydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i Abertawe yn gynamserol ac, yn fwyaf diweddar, sylwadau gan gadeirydd Network Rail nad oedd y cytundeb wedi’i gadarnhau. Bydd yn gwerthfawrogi y bydd fy etholwyr yng Nghastell-nedd a, mentraf ddweud, rhai cydweithwyr i'r gorllewin o...
Jeremy Miles: A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu ei asesiad o oblygiadau cyfreithiol posibl y cyfreitha a fwriedir yn erbyn Llywodraeth y DU mewn cysylltiad ag Erthygl 127 o’r Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd? EAQ(5)0015(CG)
Jeremy Miles: Yn hollol. Hynny yw, mewn gwirionedd, yr hyn a glywsom, ac roeddwn yn mynd i obeithio y gallai Llywodraeth Cymru roi camau ar waith i helpu i egluro hynny, yn rhan o’r adolygiad, ond yn amlwg, gan gydnabod ei bod yn broblem ar draws pob rhan o’r DU yn—
Jeremy Miles: Gwnaf, yn sicr.
Jeremy Miles: Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw. Y mater mawr arall a gododd yn y drafodaeth honno, rwy’n meddwl, oedd cwestiwn ailbrisio a’r cyfnod rhwng ailbrisiadau. Gall bylchau, yn amlwg—bylchau hir—olygu amodau annheg i rai busnesau, lle nad yw’r prisiad yn olrhain y perfformiad economaidd cyffredinol, ac rwy’n credu ei bod yn glir o’r ailbrisiadau diweddaraf yng Nghymru fod...
Jeremy Miles: Yn sicr, gwnaf.
Jeremy Miles: A gaf i ddweud, fel aelod o’r pwyllgor, gyda’r aelodau eraill sydd yma heddiw, mor ddiolchgar oeddwn i i’r rhanddeiliaid a ddaeth i drafod y mater hwn gyda ni dros frecwast rhyw fis yn ôl? Cawson ni fore diddorol iawn, a byddwn i’n annog pawb i ddarllen yr adroddiad am ddarlun cytbwys o’r drafodaeth a gawson ni y bore hwnnw. Business rates are obviously a major part of any business...
Jeremy Miles: A gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet am y dyraniadau i fferyllfeydd cymunedol? Yr hyn sydd gennyf mewn golwg yw’r datganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd am ei ddyhead i ehangu rôl fferyllfeydd cymunedol, er mwyn lleihau’r pwysau ar ofal sylfaenol ac i integreiddio TG rhwng ysbytai, meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol. Wrth gwrs, mae hefyd yn cynnig cyfle i leddfu pwysau ar ofal...
Jeremy Miles: A gaf i longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet ar ymweliad llwyddiannus â Japan? Mae'n amlwg yn bwysig cadw'r marchnadoedd hyn ar agor ar gyfer allforion o Gymru. A gaf i ofyn iddo fynd i'r afael â'r heriau penodol a wynebir gan fusnesau bach a chanolig wrth allforio, y mae hanner ohonynt yn dibynnu'n helaeth ar y rhyngrwyd i yrru gwerthiant allforio? Soniodd ei fod wedi cael rhywfaint o...
Jeremy Miles: A gaf fi gymeradwyo Steffan Lewis am ddod â’r ddadl hon i’r tŷ ac am gyflwyno’r cynnig? Rwy’n ei gefnogi, ac rwy’n cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru a galwadau Undeb Cenedlaethol y Glowyr dros nifer o flynyddoedd am adolygu’r trefniant rhannu gwarged. Cafodd rhannau o fy etholaeth eu hadeiladu ar y diwydiant glo. Mae llawer iawn o bobl yn dal i hawlio o dan y pensiwn fel...
Jeremy Miles: Rwy’n diolch iddo am y datganiad hwnnw. Yfory, fel y mae’n gwybod, yw Diwrnod Mentrau Cymdeithasol. Mae llawer o leoliadau gofal plant yn cael eu darparu drwy gyfrwng mentrau cymdeithasol, fel y bydd yn gwybod gan ei fod yn gyfarwydd â lleoliadau yn fy etholaeth. Mae sicrhau gwydnwch y sector yn hanfodol, ac mae hynny’n cynnwys y sgiliau rheng flaen, wrth gwrs, ond hefyd, yn bwysig,...
Jeremy Miles: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wydnwch gwasanaethau gofal plant a gaiff eu darparu gan fentrau cymdeithasol? OAQ(5)0073(CC)