Canlyniadau 2301–2320 o 3000 ar gyfer speaker:Ken Skates

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food ( 2 Tach 2016)

Ken Skates: Ie, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn? Am y rhesymau a amlinellwyd ganddo, mae’n hanfodol fod fy adran yn gweithio gydag adran fy nghyd-Aelod i nodi unrhyw gyfle i gadw cyfleuster sy’n gwbl integredig ac sy’n bwysig iawn, nid yn unig i’r sector amaethyddol, ond i economi Merthyr Tudful hefyd. Rwyf eisoes wedi gofyn am sicrwydd, ac wedi’i gael, fod y 700 o swyddi hynny—y...

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food ( 2 Tach 2016)

Ken Skates: Ie, a gaf fi ddiolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ac unwaith eto, a gaf fi rannu ei bryderon ynghylch y gweithwyr yr effeithir arnynt o ran y rhesymau a roddwyd gan y cwmni a’r sail resymegol y clywsom amdani? Mae’r sector cig coch yn y DU, wrth gwrs, yn wynebu heriau sylweddol, ac mae’r cwmni’n credu nad yw ei safle ym Merthyr yn gynaliadwy bellach. Rydym yn awyddus i wybod pam, a...

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food ( 2 Tach 2016)

Ken Skates: Gallaf, fe allaf ac fe wnaf, wrth gwrs, gyfarfod â’r cwmni, ynghyd â Dawn Bowden a’r Prif Weinidog, a byddaf hefyd yn cysylltu’n agos gyda fy nghyd-Aelod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ac adnoddau naturiol mewn ymgais i sicrhau bod ein hymateb yn digwydd ar draws sawl adran. Rwy’n credu bod y cyhoeddiad yn rhoi cryn dipyn o achos pryder i’r staff sy’n gweithio yng...

3. Cwestiwn Brys: Grŵp 2 Sisters Food ( 2 Tach 2016)

Ken Skates: Roedd y penderfyniad ddoe yn hynod o siomedig, ac mae ein meddyliau yn amlwg gyda’r gweithwyr yno a’u teuluoedd. Byddwn yn gweithio gyda’r cyfarwyddwyr a’r rheolwyr yn y lladd-dy, gyda golwg ar allu lleihau effaith y penderfyniad ar y safle ac unrhyw swyddi a gollir yn sgil hynny. Cynhelir trafodaethau pellach gyda chyfarwyddwyr y grŵp ehangach er mwyn nodi cyfleoedd a allai...

5. Cwestiwn Brys: Heathrow ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Byddai'r Aelod yn iawn oni bai am y ffaith bod cynifer o bobl o Gymru mewn gwirionedd yn defnyddio Maes Awyr Heathrow, a waeth beth yw llwyddiant Maes Awyr Caerdydd, ni wnaiff Maes Awyr Caerdydd byth gystadlu â Heathrow fel canolbwynt rhyngwladol. Gall Caerdydd, fodd bynnag, weithredu fel maes awyr cyflenwol i Heathrow, a dyna beth mae cadeirydd y maes awyr, Roger Lewis, wedi sôn amdano ar...

5. Cwestiwn Brys: Heathrow ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Wel, mae agwedd yr Aelod ar y mater hwn yn fy synnu’n fawr, o ystyried y gallai yn sicr fod wedi dweud mwy am y prosiectau seilwaith mawr a amlinellais yn fy ateb i Simon Thomas, yn enwedig ynghylch y cyswllt rheilffordd gorllewinol i Heathrow, a ddylai gael ei gyflawni, ac y byddwn yn gobeithio y byddai'n galw ar Lywodraeth y DU i’w gyflawni, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffordd y...

5. Cwestiwn Brys: Heathrow ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: O ran ehangu Maes Awyr Heathrow, gallai ddod â mwy na £6 biliwn i economi Cymru a helpu i greu mwy nag 8,000 o swyddi, felly mae'n ddarn pwysig o seilwaith a fydd o fudd i’n gwlad. Rwy’n cydnabod bod gan yr Alban Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar waith gyda Maes Awyr Heathrow. Mae fy swyddogion yn trafod memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Heathrow, ond bydd yn wahanol i'r un y mae’r...

5. Cwestiwn Brys: Heathrow ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Rydym yn croesawu'r penderfyniad i adeiladu trydydd llwybr glanio yn Heathrow, a fydd o fudd i deithwyr yng Nghymru, yn dod â thwristiaid i Gymru, yn helpu ein hallforwyr i gyrraedd marchnadoedd newydd ac yn creu swyddi.

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Diolch i Neil Hamilton am ei gwestiynau. Fel y dywedais wrth yr Aelod lleol, y cwestiynau a ofynnwyd i Gyllid a Thollau EM yw'r rhai yr wyf eisoes wedi’u gofyn. Ni fyddwn, fodd bynnag, yn dymuno dod i gasgliad na barnu pa un a yw Cyllid a Thollau EM wedi ymddwyn mewn modd cyfrifol, ac a yw'r camau a gymerodd Cyllid a Thollau EM yn gymesur â lefel y ddyled. Byddai'n well gennyf gael yr holl...

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Neu mae Cyllid a Thollau EM yn ei gymryd i gyd. Rwy'n meddwl ei fod yn llygad ei le, o siarad yn gymharol, bod hyn yn arwyddocaol, ardal Haven, ac felly, ac yn enwedig o ystyried yr hyn a ddywedodd fy nghydweithiwr Joyce Watson am werth cyflogaeth ar y safle, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn edrych ar ymateb pwrpasol i hyn. Am y rheswm hwnnw, byddaf yn cyfarfod â chadeirydd yr ardal fenter ac...

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiynau? O ran yr adfachu, bydd yn dibynnu ar ein sefyllfa o ran dyledwyr eraill. Felly, rydym yn ceisio asesu ble yn union yr ydym yn hynny o beth.

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei sylwadau ac, unwaith eto, rwy’n rhannu ei phryderon am y teuluoedd hynny sy'n wynebu cryn bryder ar hyn o bryd. Gallaf ddweud bod fy swyddogion yn trafod yn agos â PwC ac yn ymwybodol bod rhywfaint o ddiddordeb yn datblygu ym musnes Main Port ac, o bosibl, yn y gweithwyr sy'n weddill. Felly, nid yw popeth wedi’i golli eto, a byddwn yn gwneud popeth o fewn...

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a rhannu'r pryder sy'n cael ei fynegi ynglŷn â dyfodol gweithwyr y cwmni. Roedd MPE yn cyflogi 157 o bobl i gyd, ac, yn anffodus, mae 69 o'r rheini wedi eu diswyddo. Mae’r Aelod yn iawn bod nifer sylweddol—rwy’n credu mai 84 ydyw—yn mynd i gael eu cadw ym mhurfa Valero i ddarparu dilyniant gwasanaeth. Mae hynny'n cynnwys, rwy’n credu,...

3. Cwestiwn Brys: Main Port Engineering ( 1 Tach 2016)

Ken Skates: Dyfarnwyd £650,000 o gronfa twf economaidd Cymru i Main Port Engineering ym mis Mawrth 2015. Cafodd y cyllid ei roi i gynorthwyo â buddsoddiad cyfalaf o £1.627 miliwn ar gyfer cyfleuster pwrpasol newydd ym mharth menter Dyfrffordd Aberdaugleddau. Ar y pryd, llwyddodd y cwmni i fodloni’r telerau ac amodau sy'n gysylltiedig â'r cymorth hwn yn llawn. Aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwr ar...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am ei chwestiynau. Rwy’n credu bod ymchwil a datblygu o ran bysus gwyrdd nid yn unig yn gyfle i ni ostwng neu leihau ein hôl troed carbon—mae ymchwil a datblygu hefyd yn gyfle economaidd enfawr i ni, gan ei fod yn dal yn ddiwydiant sydd yn ei ddyddiau cynnar. Nid ydym eto’n gweld ar draws rhan helaeth o orllewin Ewrop y niferoedd o fysus trydan a hybrid...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: Roedd y gronfa bws gwyrdd, sef y gronfa y cyfeiriodd yr Aelod ati, wrth gwrs, yn agored i ddarparwyr bysus a gweithredwyr yng Nghymru. Yn anffodus, ni fu unrhyw gwmni o Gymru yn llwyddiannus wrth wneud cais, ac ni fu unrhyw awdurdod lleol yn llwyddiannus wrth wneud cais. Rwyf i yn bersonol yn barod i ystyried, serch hynny, achos dros sefydlu cronfa bysus gwyrdd yng Nghymru, ond wrth gwrs,...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac rwy’n ategu’n fawr iawn yr hyn a ddywedodd hi, yn rhannol am bwysigrwydd Bus Users Cymru ac am yr angen i Network Rail sicrhau bod y gwaith uwchraddio, sydd yn hir-ddisgwyliedig, i orsaf reilffordd Caerdydd yn briodol a sicrhau bod y daith rhwng yr orsaf rheilffordd a'r orsaf fysus yn un ddidrafferth a diogel. O ran tagfeydd ar ffyrdd, byddwn...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig a’i gwestiynau? Yn y pedwerydd Cynulliad, rwy’n cofio, pan oeddwn ar y meinciau cefn ac yn aelod o'r pwyllgor menter, fe wnaeth mater tocynnau integredig a theithio integredig gymryd cryn dipyn o'n hamser. Gwn ei fod wedi creu cryn rwystredigaeth ymysg Aelodau. Mae llawer o'r rhwystredigaeth yn dal i fodoli, ond yr ydym bellach mewn cyfnod...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn a hefyd am wneud ymholiadau ynglŷn â'r gwasanaeth pwysig rhwng Aberystwyth a Chaerdydd, ynghyd ag Aelodau eraill, gan gynnwys y Llywydd? Mae hwn yn wasanaeth hanfodol ac mae ei golli yn drueni mawr. Rwy'n falch o allu dweud bod trefniadau eraill ar gyfer y gwasanaeth bws penodol hwn bellach yn mynd rhagddynt yn dda, ac rydym yn rhagweld y byddwn...

7. 6. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau yng Nghymru (18 Hyd 2016)

Ken Skates: Hoffwn ddiolch i Russell George am ei gwestiynau, a hefyd am groesawu'r cynllun pum pwynt. Mae hwn yn gynllun sydd wedi ei ddyfeisio gyda phartneriaid mewn llywodraeth leol ac o fewn y diwydiant ei hun. Mae'n cynnwys nifer o gamau a fydd yn ategu’r diwydiant yn y tymor byr wrth i ni edrych ar y cyfleoedd yn y tymor hir a gyflwynir drwy drosglwyddo pwerau ym Mil Cymru. O ran cyllid, mae...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.