Canlyniadau 2321–2336 o 2336 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (12 Gor 2016)

Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu manteision morlyn llanw Bae Abertawe i Gastell-nedd?

11. 10. Dadl: Cynllun Cyflawni ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ ( 5 Gor 2016)

Jeremy Miles: A gaf i yn gyntaf ganmol y Llywodraeth ar ei dull o weithredu’r cynllun cyflawni, ac yn benodol yr ymgynghoriad ffurfiol helaeth a'r ymgysylltu â rhanddeiliaid, gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau? Fel y soniodd llawer o bobl heddiw, un o'r cyfraniadau mwyaf sylweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl oedd hynt Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ac, yn benodol, rwyf am gyfeirio at rwyddineb...

6. 5. Datganiad: Datganoli Trethi a'r Fframwaith Cyllidol ( 5 Gor 2016)

Jeremy Miles: A gaf i groesawu datganiad yr Ysgrifennydd Cabinet, a’r sylwadau yn benodol ynglŷn â’r fframwaith gyllidol, a’r ymroddiad y bydd gan y Senedd hon gyfle i drafod a chytuno ai peidio y fframwaith maes o law? O edrych ar y cytundeb rhwng Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth yr Alban, mae’n amlwg ei fod e’n ffrwyth llafur sylweddol iawn, ac rwy’n falch o glywed eich bod chi...

14. 16. Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau (28 Meh 2016)

Jeremy Miles: Rwy’n enwebu Lee Waters.

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolch am yr ymyriad hwnnw. Rwy’n derbyn y pwynt y bu sylwadau di-fudd iawn mewn rhywfaint o'r wasg ar ymateb ein cymunedau. Nid wyf yn derbyn y pwynt arall a godwyd gennych, ond rwy’n derbyn pwynt hwnnw, yn sicr. Mewn gwirionedd, gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch hon, ac maen nhw wedi cael eu crybwyll eto heddiw ar sawl achlysur, ac yn fy marn i, yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru...

2. 2. Dadl: Canlyniad Refferendwm yr UE (28 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolch, Lywydd, am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig hon. The result of the referendum last week was a profound disappointment. The fact that Wales should choose to reject the relationship that has been so clearly in its interests is a challenge to all of us in this place, and we must respond tangibly, and not with easy rhetoric. The loss to Wales of hundreds of millions of pounds of...

5. 5. Dadl Plaid Cymru: Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (22 Meh 2016)

Jeremy Miles: Rwyf ychydig yn betrusgar wrth godi i siarad ynghylch integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, o ystyried y cyfraniad enfawr a wnaed yn y maes polisi penodol hwn yng Nghymru gan fy rhagflaenydd, Gwenda Thomas, yr Aelod Cynulliad dros Gastell-nedd, ac yn enwedig mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Felly, manteisiaf ar y cyfle hwn i dalu teyrnged iddi am...

9. 8. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am ‘Tuag at Dwf Cynaliadwy: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod 2014-2020’ (21 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad. Mae'n sector mor bwysig i ni yng Nghymru, felly mae'n wych clywed am y twf cyflym yn y sector. I'r rhai hynny ohonom sy'n mwynhau bwyd, mae’r dadeni cynhyrchu bwyd lleol yng Nghymru yn fater o lawenydd mawr, hyd yn oed os yw'n arwain at dwf cyflym o fath sydd ychydig yn llai derbyniol efallai. [Chwerthin.] Rydych chi wedi siarad...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolch i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Mae llwyddiant Llywodraeth Cymru wrth gyflwyno band eang cyflym iawn drwy Cyflymu Cymru i'w groesawu fel buddsoddiad allweddol mewn seilwaith modern hanfodol. Fodd bynnag, er gwaethaf lefelau uchel iawn y ddarpariaeth, mae manteision band eang cyflym iawn yn ddeuaidd, os mynnwch chi —naill ai y mae gennych neu ddim. Felly, a wnaiff y Gweinidog...

7. 7. Dadl Plaid Cymru: Bil Cymru (15 Meh 2016)

Jeremy Miles: Ymhlith y cwestiynau yn y Mesur hwn a fydd yn teimlo yn bell o fywyd pob dydd yw’r cwestiwn o awdurdodaeth. I lawer, bydd yn teimlo fel pryder i gyfreithwyr ac academyddion yn unig, ond mae agweddau ymarferol iddo y dylid mynd i’r afael â nhw yn y Mesur hwn os ydym o ddifri am gryfhau cynseiliau datganoli i ddelio â’r cynnydd yn y pwerau a ddaw i’r Siambr hon. In the debate over the...

6. 5. Datganiad: Prentisiaethau yng Nghymru (14 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolch, Weinidog, am y datganiad. Gan ddychwelyd at gwestiwn yr ardoll brentisiaeth am eiliad, cyfeiriasoch ato fel treth cyflogwr yn eich datganiad. A oes unrhyw ddadansoddiad o'r risg bosibl i swyddi yng Nghymru a achosir gan yr ardoll hon ar gyflogwyr, gan gofio mai pwynt prentisiaeth, wrth gwrs, yw cael pobl i mewn i swyddi sgiliau uchel, am gyflog gweddus?

5. 4. Datganiad: Adeiladu ar ein Llwyddiant Ailgylchu i Greu Economi Gylchol (14 Meh 2016)

Jeremy Miles: A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd am ei datganiad—datganiad mor gadarnhaol? Cyfeiriodd at y 30,000 o swyddi posibl yn y sector hwn. Fel y gŵyr hi efallai, mae Castell-nedd Port Talbot, yn fy ardal i, wedi sicrhau'r ail nifer uchaf o swyddi mewn ailbrosesu dan raglen ARID WRAP Cymru a ariennir gan yr UE, sy'n tynnu sylw at realiti ymarferol y potensial i greu swyddi yma. Pa asesiad y mae...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Meh 2016)

Jeremy Miles: Diolchaf i arweinydd y tŷ am ei datganiad. Croesawodd y Llywodraeth yn y pedwerydd Cynulliad gasgliadau ac argymhellion Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru, dan gadeiryddiaeth Andrew Davies. A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad yn amlinellu pa gamau y bydd yn eu cymryd yn y pumed Cynulliad i fwrw ymlaen â'r argymhellion hynny?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Siaradwyr Cymraeg</p> (14 Meh 2016)

Jeremy Miles: A wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i ddymuno’n dda i ganolfan iaith Tŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yn fy etholaeth i, sydd newydd lansio gyda buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru? A yw’n cytuno bod rôl sylfaenol i ganolfannau iaith i ddatblygu’r galw yn ein cymunedau am wasanaethau cyhoeddus a busnes wedi’u darparu trwy’r Gymraeg?

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Hyfforddi Doctoriaid</p> (24 Mai 2016)

Jeremy Miles: Mae’r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar hwyluso gweld meddygon teulu i’w groesawu. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno y dylid annog practisys gofal cynradd i gydweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol i’w hybu ymhellach fyth, yn enwedig mewn ardaloedd pellach allan?

3. 3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (11 Mai 2016)

Jeremy Miles: Carwyn Jones.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.